Adho Mukha Svanasana (Ci ar i Lawr)

asana mewn ioga

Safle'r corff, sef asana, mewn ymarferion ioga, yw Ci ar i Lawr, a elwir hefyd yn yr iaith frodorol yn Adho Mukha Shvanasana (Sansgrit: अधोमुखश्वानासन IAST: Adho Mukha Śvānāsana).[1][2][3] Gelwir y math yma o osgo yn asana gwrthdro, a chaiff ei ymarfer yn aml fel rhan o ddilyniant llifeiriol o ystumiau, yn enwedig Surya Namaskar, Cyfarchiad i'r Haul.[4]"Adho Mukha Shvanasana". Ashtanga Yoga. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 April 2011. Cyrchwyd 4 Tachwedd 2011.</ref> Mae'r asana'n cael ei ddefnyddio'n gyffredin mewn ioga modern fel ymarfer corff. Nid oes gan yr asana amrywiadau a enwir yn ffurfiol, ond defnyddir sawl amrywiad chwareus i gynorthwyo ymarferwyr cychwynnol i ddod yn gyfforddus yn yr ystum.

Adho Mukha Svanasana
Enghraifft o'r canlynolasana Edit this on Wikidata
Mathasanas sefyll Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Dau iogi mewn parc yn cydweithio ar ddwy asana debyg (Ci ar i Lawr)

Mae'r osgo Ci ar i Lawr (Saesneg: Downward Dog) yn ymestyn llinyn y gar a chyhyrau croth y goes yng nghefn y coesau, a hefyd yn adeiladu cryfder yn yr ysgwyddau. Mae rhai gwefanau poblogaidd yn cynghori yn ei erbyn yn ystod beichiogrwydd, ond canfu astudiaeth arbrofol o fenywod beichiog ei fod yn fuddiol.[5]

Mae Ci ar i Lawr wedi cael ei alw’n “un o'r ystumiau ioga sy'n cael ei adnabod yn fwyaf eang”[6] a’r “safle ioga mwyaf nodweddiadol”.[7] Oherwydd hyn, yn aml, dyma'r asana a ddefnyddir pan fydd yoga'n cael ei ddarlunio mewn ffilm, llenyddiaeth ac mewn hysbysebion. Mae'r asana wedi ymddangos yn aml yn niwylliant y Gorllewin, gan gynnwys yn nheitlau nofelau, paentiad, a chyfresi teledu, ac fe'i awgrymir yn yr enw masnachol, "YOGΛ", y cyfrifiadur plygadwy.[8]

Geirdarddiad

golygu
 
Gajāsana. Darlun wedi'i dynnu â llaw yn Sritattvanidhi, llawysgrif Palas Mysore o'r 19g. Mae'r cyfarwyddyd i berfformio'r ystum hwn "drosodd a throsodd" yn yr Hațhābhyāsapaddhati yn awgrymu ei ailadrodd yn y dilyniant a elwir yn Surya Namaskar.[9]

Daw'r enw o debygrwydd yr ystum i'r ffordd y mae ci yn ymestyn wrth godi o'i orwedd. Daw'r enw Sansgrit o adhas (अधस्) sy'n golygu "i lawr", mukha (मुख) sy'n golygu "wyneb", śvāna (श्वान) sy'n golygu "ci",[4] a âsana (आसन) sy'n golygu "safle'r corff".[10]

Ni cheir yr enw yn nhestunau ioga hatha canoloesol, ond disgrifir osgo tebyg, sef y Gajāsana (Osgo'r Eliffant), yn yr Hațhābhyāsapaddhati yn y 18g; mae'r testun yn galw am iddo gael ei ailadrodd "drosodd a throsodd" o safle wyneb i lawr, gorweddol.[11]

 
Surya Namaskars. J. M. Dent and Sons. tt. 113–115 and whole book.</ref>[13]

Disgrifiwyd ystum tebyg, ynghyd â fformat 5-cyfrif a dull o neidio rhwng ystumiau sy'n debyg i system Ioga Ashtanga Vinyasa, yn y testun Daneg Niels Bukh o ddechrau'r 20fed ganrif Gymnasteg Cyntefig,[14][15] sydd yn ei dro'n deillio o draddodiad Sgandinafaidd o gymnasteg o'r 19g. Roedd y system wedi cyrraedd India erbyn y 1920au ac roedd gan gymnasteg Indiaidd, hefyd, system o ystumiau, o'r enw "dands" (o Sansgrit दण्ड daṇḍa, ffon bren[16] ), wedi'i gysylltu gan neidiau, ac mae un o'r dands yn agos iawn at yr asana yma, Ci ar i Lawr.[13] Yn ogystal, yn y 1920au, poblogeiddiodd ac enwodd Bhawanrao Shriniwasrao Pant Pratinidhi, Rajah Aundh, (1868–1951) arfer Surya Namaskar (Cyfarchiad i'r Haul), gan ei ddisgrifio yn ei lyfr 1998 Y Ffordd Deg Pwynt i Iechyd: Surya Namaskars.[12][13] lle mae Ci ar i Lawr yn ymddangos ddwywaith yn ei ddilyniant o 12 ystum.[12]

Nid oedd yr ymarferion dand na Surya Namaskar yn cael eu hystyried yn yoga yn y 1930au.[14] Ymgorfforodd Swami Kuvalayananda Ci ar i Lawr yn ei system o ymarferion yn y 1930au cynnar, ac o'r fan honno fe'i cymerwyd gan ei ddisgybl, yr athro ioga dylanwadol Tirumalai Krishnamacharya.[14] Yn ei dro dysgodd BKS Iyengar a Pattabhi Jois, sylfaenwyr Ioga Iyengar a Ioga Ashtanga Vinyasa yn y drefn honno.[14][13]

Disgrifiad

golygu

Yn yr asana hwn, mae'r pen ar i lawr, ac yn cyffwrdd â'r llawr ar ddiwedd y symudiad, gyda phwysau'r corff ar gledrau'r dwylo a'r traed. Mae'r breichiau wedi'u hymestyn yn syth o flaen yr iogi, lled ysgwydd ar wahân, a'r traed yn droedfedd ar wahân. Cedwir y coesau'n syth, a chodir y cluniau mor uchel â phosib.[17]

Ymdrinnir â'r osgo hwn yn wahanol mewn gwahanol ysgolion ioga. Yn Ioga Iyengar, gellir mynd i mewn i'r osgo o safle gorweddol (wyneb i lawr), gyda'r dwylo wrth ymyl y frest, gan osod y pellter rhwng y dwylo a'r traed.[18] Mewn ysgolion fel Ioga Sivananda, mae'n cael ei ymarfer fel rhan o Surya Namaskar, Cyfarchiad i'r Haul, gan ddilyn Urdhva Mukha Shvanasana (Ci ar i Fyny) trwy anadlu allan, cyrlio bysedd traed oddi tano, a chodi'r cluniau.[19] Yn Ysgol Ioga Bihar, gelwir yr asana yn Parvatasana (Y Mynydd), gyda'r dwylo a'r traed ychydig yn agosach at ei gilydd fel bod ongl y cluniau yn fwy craff; mae'n cael ei gofnodi o ragwth (lunge) Ashwa Sanchalanasana fel amrywiad o Surya Namaskar.[20]

Amrywiadau

golygu

Mae Ci ar i Lawr yn asana adferol ar gyfer ymarferwyr profiadol, ond gall fod yn waith caled i ddechreuwyr. Gellir amrywio'r ystum trwy blygu'r pengliniau, gan ganiatáu i'r sodlau godi ychydig;[21] trwy gynnal y sodlau, megis gyda mat ioga wedi'i rolio;[21] trwy ostwng un fraich i'r llawr, gan ymestyn y llaw arall ymlaen; neu drwy gyfuniadau o'r rhain.[21]

Mae amrywiadau eraill yn cynnwys plygu un pen-glin a gostwng y glun ar yr ochr honno;[22] "pedlo" bob yn ail, trwy blygu un pen-glin a chodi'r ffêr ar yr ochr honno, yna'r llall, ac yna bachu pob troed yn ei dro y tu ôl i'r ffêr arall;[23] codi un goes, naill ai ei ymestyn yn syth allan, neu blygu'r pen-glin, ac ystwytho ac ymestyn y droed;[23][24] newid bob yn ail rhwng plygu'r ddau ben-glin a sythu'r coesau wrth ddod â'r ysgwyddau ymlaen yn union uwchben y dwylo;[23] a throelli'r corff, gan ymestyn yn ôl ag un llaw i afael yn y ffêr gyferbyn.[23][24]

 
Ci ar i lawr mewn Iogi Doga

Gweler hefyd

golygu

Llyfryddiaeth

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Downward-Facing Dog". Yoga Journal. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Mawrth 2011. Cyrchwyd 4 Medi 2011.
  2. VanEs, Howard Allan (12 Tachwedd 2002). Beginning Yoga: A Practice Manual. Letsdoyoga.com. t. 163. ISBN 978-0-9722094-0-3.
  3. Calhoun, Yael; Calhoun, Matthew R. (June 2006). Create a Yoga Practice for Kids: Fun, Flexibility, And Focus. Sunstone Press. t. 36. ISBN 978-0-86534-490-7.
  4. 4.0 4.1 "Adho Mukha Shvanasana". Ashtanga Yoga. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 April 2011. Cyrchwyd 4 Tachwedd 2011."Adho Mukha Shvanasana". Ashtanga Yoga. Archived from the original on 23 April 2011. Retrieved 4 November 2011.
  5. Polis, Rachael L.; Gussman, Debra; Kuo, Yen-Hong (2015). "Yoga in Pregnancy". Obstetrics & Gynecology 126 (6): 1237–1241. doi:10.1097/AOG.0000000000001137. ISSN 0029-7844. PMID 26551176. "All 26 yoga postures were well-tolerated with no acute adverse maternal physiologic or fetal heart rate changes."
  6. YJ Editors (28 Awst 2007). "Downward-Facing Dog". Yoga Journal. Cyrchwyd 13 Gorffennaf 2019.
  7. McLennan, Jennifer (23 Mehefin 2011). "Downward dog: Get your butt in the air". The Tico Times. Cyrchwyd 13 Gorffennaf 2019.
  8. Stewart, Erin (25 Mawrth 2019). "How Yoga Poses are Used in Advertising". Medium Corporation.
  9. Mallinson & Singleton 2017, tt. 95, 124; "the Hațhābhyāsapaddhati's Gajāsana (elephant posture) involves repetitions of what is today known as the adhomukhaśvanāsana (downward dog), a constituent of the modern sun salutation".
  10. Sinha, S. C. (1996). Dictionary of Philosophy. Anmol Publications. t. 18. ISBN 978-81-7041-293-9.
  11. Mallinson & Singleton 2017, tt. 95, 124.
  12. 12.0 12.1 12.2 Pratinidhi, Pant (1928). The Ten-Point Way to Health | Surya Namaskars. J. M. Dent and Sons. tt. 113–115 and whole book. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-01-23. Cyrchwyd 2022-01-06.Pratinidhi, Pant (1928). The Ten-Point Way to Health | Surya Namaskars Archifwyd 2023-01-23 yn y Peiriant Wayback. J. M. Dent and Sons. pp. 113–115 and whole book.
  13. 13.0 13.1 13.2 13.3 Singleton 2010, tt. 180–181, 204–206. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "FOOTNOTESingleton2010" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
  14. 14.0 14.1 14.2 14.3 Singleton, Mark (4 Chwefror 2011). "The Ancient & Modern Roots of Yoga". Yoga Journal.
  15. Bukh 2010.
  16. "Dandasana". Ashtanga Yoga. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Chwefror 2011. Cyrchwyd 11 April 2011.
  17. Iyengar 1979, tt. 110–111.
  18. Iyengar 1979, tt. 110–111.
  19. Lidell 1983, tt. 34–35.
  20. Saraswati 2003.
  21. 21.0 21.1 21.2 Motz, Erin (9 Chwefror 2015). "3 Ways to Make Downward-Facing Dog Feel Better". Yoga Journal. and its sub-pages.
  22. Cushman 2014.
  23. 23.0 23.1 23.2 23.3 Copham, K. Mae (19 Mai 2016). "5 Downward Dog Variations To Tone Your Whole Body". Mind Body Green.
  24. 24.0 24.1 Buchanan, Jacqueline. "4 Variations for Downward-Facing Dog Pose". Do You Yoga. Cyrchwyd 22 Gorffennaf 2019.