Virabhadrasana (Y Rhyfelwr)

asana sefyll

Grwp o asanas, a siap y corff o fewn ioga yw Virabhadrasana (Sansgrit: वीरभद्रासन; IAST: Vīrabhadrāsana) neu Y Rhyfelwr. Gelwir y math hwn o asana'n asana sefyll ac mae hefyd yn rhagwth ac fe'i ceir mewn ioga modern er mwyn cadw'n heini.

Virabhadrasana
Enghraifft o'r canlynolasana Edit this on Wikidata
Mathasanas sefyll Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r asana (neu'r osgo) yma'n coffáu campau rhyfelwr chwedlonol, Virabhadra a roddodd ei enw i'r asana. Deillia o'r myth Hindŵaidd, ond ni chofnodwyd yr asana hwn yn yr ioga hatha ac nid ymddangosodd tan yr 20g.[1] Ymdebyga Virabhadrasana i siap ac ymarferion y corff mewn gymnasteg, yn enwedig gwaith Niels Bukh ar ddechrau'r 20g; awgrymwyd iddo'i fabwysiadu i ioga o'r traddodiad a'r diwylliant addysg gorfforol yn India ar y pryd, a oedd dan ddylanwad gymnasteg Ewropeaidd.

Disgrifiwyd Virabhadrasana fel un o ystumiau mwyaf eiconig ioga.[2]

Geirdarddiad

golygu

Daw'r enw o'r Sansgrit वीरभद्र Vīrabhadra, rhyfelwr chwedlonol, a आसन āsana, siap y corff mewn ioga neu osgo.[1] Mae cerfluniau craig ogof hynafol yn Ogofâu Ellora, yn benodol ogof 16[3] ac ogof 29,[4] yn dangos ffigwr rhyfelwr- Shiva mewn siap debyg i Virabhadrāsana wrthi'n gorchfygu cythreuliaid.[5] Er hynny, nid yw'r asanas hyn wedi'u hardystio yn nhraddodiad ioga hatha tan yr 20g ag arferion Tirumalai Krishnamacharya a'i fyfyriwr Pattabhi Jois, y tynnwyd llun ohono yn Rhyfelwr I tua 1939.[6]

Amrywiadau

golygu

Mae Baddha Virabhadrasana, Y Rhyfelwr (Sansgrit बद्ध Baddha, "rhwymo") yn amrywiad o Virabhadrasana I, gyda'r corff wedi'i blygu i lawr yn isel dros y goes flaen, a'r breichiau wedi'u codi'n fertigol uwch y cefn, a'r bysedd wedi'u plethu.[7][8]

Mae Viparita Virabhadrasana, Y Rhyfelwr Gwrthdr (Sansgrit विपरीत viparīta, "gwrthdroi"[9][10]), yn amrywiad ar Virabhadrasana II, gyda'r corff uchaf a'r fraich flaen yn gogwyddo am yn ôl. Gall y fraich isaf gael ei hymestyn i lawr y goes ôl, neu gall ymestyn o amgylch y cefn i'r glun gyferbyn. Nid yw'r ystum i'w gael yng ngwerslyfr 1966 BKS Iyengar Light on Yoga, ac mae'n bosibl iddo gael ei greu mor ddiweddar â dechrau'r 21g.[11]

Gellir amrywio safle'r fraich yn Virabhadrasana III; gall y breichiau gael eu dal yn syth allan i'r ochrau, neu'n syth yn ôl ar hyd ochrau'r corff, neu gellir dal y dwylo yn y safle gweddi yn agos at y frest.[12][13]

Gweler hefyd

golygu

Llyfryddiaeth

golygu
  • Iyengar, B. K. S. (1979). Light on Yoga: Yoga Dipika. Unwin Paperbacks.
  • Lidell, Lucy, The Sivananda Yoga Centre (1983). The Book of Yoga. Ebury Publishing. ISBN 978-0-85223-297-2. OCLC 12457963.
  • Mehta, Silva; Mehta, Mira; Mehta, Shyam (1990). Yoga: The Iyengar Way. Dorling-Kindersley.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Iyengar 1979.
  2. Helbert, Karla (2015). Yoga for Grief and Loss: Poses, Meditation, Devotion, Self-Reflection, Selfless Acts, Ritual. Jessica Kingsley Publishers. t. 254. ISBN 978-0-85701-163-3.
  3. "Cave 16". The Ellora Caves. Cyrchwyd 23 Tachwedd 2020.
  4. "Cave 29". The Ellora Caves. Cyrchwyd 23 Tachwedd 2020.
  5. Dhavalikar, Madhukar Keshav (2005). Ellora. New Delhi: Oxford University Press. tt. 49, 83. ISBN 0-19-567389-1. OCLC 57431189.
  6. "Virabhadrasana or Warrior Pose". Bahiranga.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-03-27. Cyrchwyd 11 Ionawr 2019.
  7. 7.0 7.1 "Humble Warrior / Baddha Virabhadrasana". Ekhart Yoga. Cyrchwyd 23 Tachwedd 2020.
  8. "Baddha Virabhadrasana". Yogapedia. 5 Hydref 2017. Cyrchwyd 23 Tachwedd 2020.
  9. "Reverse Warrior Pose - Viparita Virabhadrasana". Gaia. Cyrchwyd 23 Tachwedd 2020.
  10. "Reverse Warrior". Yoga Basics. Cyrchwyd 23 Tachwedd 2020.
  11. Kaivalya, Alanna (28 April 2012). "How We Got Here: Where Yoga Poses Come From". Huffington Post. Cyrchwyd 2 December 2018.
  12. "Warrior III Pose". Yoga Journal. 13 Mawrth 2018. Cyrchwyd 23 Tachwedd 2020.
  13. Savage, Jenny. "Beginner tips for Warrior 3 pose". Ekhart Yoga. Cyrchwyd 23 Tachwedd 2020.
  14. Empty citation (help)