Car Crossover SUV moethus, maint-canolig yw'r Volvo XC90 a gynhyrchir gan Volvo Personvagnar (a elwir yn fydeang yn "Volvo Cars") ers 2001; mae bellach yn ei ail genhedlaeth. Mae gan y gyfres hon chwaer llai: yr XC60.

Volvo XC90
Brasolwg
GwneuthurwrVolvo Cars
Cynhyrchwyd2002–presennol
Llwyfan y Volvo P2, 2002–presennol (Cenhedlaeth 1af)
Llwyfan SPA: 2014–presennol (Ail genhedlaeth)
Corff a siasi
DosbarthCrossover SUV moethus, maint-canolig
Math o gorffSUV 5-drws
Gosodiad
  • Injan ffrynt, gyriant-blaen
  • Injan ffrynt, gyriant-4-olwyn
Drysau5

Cyflwynwyd y genhedlaeth gyntaf yn Sioe Foduron Rhyngwladol Gogledd America yn 2002, gan ddefnyddio'r llwyfan Volvo P2 a rannwyd gyda'r Volvo S80 a cheir mawr eraill. Fe'i cynhyrchwyd yn Torslandaverken, Hisingen, 12 km i'r gogledd-orllewin o Gothenburg. Yn niwedd 2014 symudwyd yr offer cynhyrchu o Sweden i Tsieina, gan i Volvo Cars gael ei brynnu gan Geely (sef cwmni Tssieiniaidd Zhejiang Geely Holding Group Co., Ltd) a newidiwyd yr enw ar yr un gwynt i Volvo XC90 Classic.[1]

Hwn oedd gwerthwr gorau Volvo yn y UDA ac yn 2005 hwn hefyd oedd y model a werthodd fwyaf, yn fydeang, gyda 85,994 o geir yn cael eu gwerthu. Yn niwedd 2014 cyflwynwyd yr ail genhedlaeth. Cafodd ei sefydlu ar lwyfan bydeang y Volvo Scalable Product Platform neu'r 'SPA'. Mae'r ddwy genhedlaeth wedi cipio gwobr y Motor Trend yn y dosbarth Gwobr Cerbyd SUV y Flwyddyn.

Un sydd wedi canu clodydd yr XC90 ers blynyddoedd ydy Jeremy Clarkson a arferai gyflwyno Top Gear ac sydd bellach yn cyflwyno The Grand Tour, a bu'n berchennog ar dri ohonyn nhw.[2] Mynnodd eu bod wedi'u cynllunio gan berson a oedd hefyd yn dad, gan fod y car mor addas i deulu gyda phlant ac yn gerbyd ymarferol iawn!

Yn 2014 cyflwynwyd model plyg-in hybrid gydag injan petrol cryf yn gyrru'r olwynion blaen a modur trydan yn gyrru'r olwynion cefn; gyda'i gilydd mae trorym y cerbyd yn 640 nm.[3] Yn 2017 roedd y fersiwn Cross Country D5 yn gwerthu am £43,600 a diswylid 53 milltir y galwyn; roedd y fersiwn Hybrid Inscription yn gwerthu am £65,000 a disgwylid 134 myg.[4]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Padeanu, Adrian (11 Medi 2014). "First generation Volvo XC90 to live on in China as XC Classic". Motor1.com. Cyrchwyd 29 Ionawr 2016.
  2. "20 years of Clarkson: What cars does Clarkson actually drive?". Driving.co.uk. 14 Mawrth 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-11-17. Cyrchwyd 19 Medi 2015.
  3. "The all-new Volvo XC90". Volvo Car Group. 21 Hydref 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-18. Cyrchwyd 5 Tachwedd 2014.
  4. Y cylchgrawn Top Gear; Ebrill 2017; rhif 294.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: