Vriksasana (Y Goeden)

asana mewn ioga Hatha

Asana, neu osgo'r corff, o fewn ioga yw Vriksasana (Sansgrit: वृक्षासन; Rhufeiniad: vṛkṣāsana) neu osgo'r Goeden[1], sy''n cael ei nodi fel asana cydbwyso. Mae'n hynafol iawn ac yn un o'r ychydig o asanas sefyll mewn ioga hatha canoloesol, ac mae'n parhau i fod yn boblogaidd mewn ioga modern fel ymarfer corff.[2]

Vriksasana
Enghraifft o'r canlynolasana Edit this on Wikidata
Mathasanas sefyll, ioga Hatha Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Geirdarddiad

golygu

Daw'r enw o'r geiriau Sansgrit vṛkṣa (वृक्ष) sy'n golygu "coeden",[3] ac āsana (आसन) sy'n golygu "osgo'r corff".[4]

Mae'n ymddangos bod cerfiad carreg o'r 7g ym Mahabalipuram yn cynnwys ffigwr sy'n sefyll ar un goes, ac mwy na thebyg fod hyn yn dynodi bod ystum tebyg i vrikshasana yn cael ei ddefnyddio bryd hynny. Dywedir i'r bobl crefyddol a elwiryn sadhus ddisgyblu eu hunain trwy ddewis myfyrio yn yr ystum.[5]

Disgrifir yr asana hwn yn nhestun Gheraṇḍa Saṃhitā 2.36 yn yr 17g. Yn fwy diweddar fe'i galwyd yr asana'n eicon symbolaidd iawn o ioga modern fel ymarfer corff; mae'n cael sylw'n aml mewn cylchgronau ioga, ac yn cael ei ymarfer mewn arddangosfeydd cyhoeddus fel ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Ioga.[6][7][8]

Amrywiadau

golygu

Yn Ioga Bikram, mae Vriksasana (a elwir yn "Tadasana" yn y math yma o ioga) yn asana sefyll ychydig yn wahanol, gydag un goes wedi'i phlygu yn Padmasana (osgo'r lotws) a'r dwylo gyda'i gilydd dros y frest mewn safle gweddi. Fe'i dilynir gan blygu'r goes syth i safle sgwatio (a elwir yn "Padangustasana" yn Ioga Bikram) gyda'r sawdl wedi'i godi a'r glun yn gorffwys ar y ffer a'r sawdl, a'r goes arall mewn hanner Padmasana.[9]

Gweler hefyd

golygu

Llyfryddiaeth

golygu
  • Iyengar, B.K.S. (1979). Light on Yoga (arg. Revised). Schocken Books. ISBN 978-0-8052-1031-6.
  • Mehta, Silva; Mehta, Mira; Mehta, Shyam (1990). Yoga: The Iyengar Way. Dorling Kindersley.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Tree Pose". Yoga Journal. Cyrchwyd 27 Ionawr 2019.
  2. Iyengar 1979.
  3. "Urdhva Vrikshasana - AshtangaYoga.info". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-23. Cyrchwyd 2011-04-11.
  4. Sinha, S. C. (1 Mehefin 1996). Dictionary of Philosophy. Anmol Publications. t. 18. ISBN 978-81-7041-293-9.
  5. 5.0 5.1 Krucoff, Carol (28 Awst 2007). "Find Your Roots in Tree Pose". Yoga Journal.
  6. Mulcahy, Matt. "Tree Pose (Vrksasana)". Om Yoga & Lifestyle Magazine. Cyrchwyd 19 December 2021. An iconic standing balance that draws its roots from hatha yoga, tree pose remains popular in modern practice and offers an exploration of hip-opening capacity.
  7. Budig, Kathryn (11 December 2012). "How to Do a Yoga Tree Pose". Women's Health Magazine. Cyrchwyd 19 December 2021. It’s an iconic posture that symbolizes balance and harmony.
  8. Kristlova, Eva (14 Mehefin 2020). "Quick Standing Sequence". Yoga Alliance. Cyrchwyd 19 December 2021. From here we enter one of the most iconic yoga poses – Tree Pose.
  9. "The 26 Bikram Hot Yoga Postures". Sadhana Yoga & Wellbeing. Cyrchwyd 9 Mai 2019.