William John Griffith

awdur
(Ailgyfeiriad o W. J. Griffith)

Awdur storïau byrion Cymraeg oedd William John Griffith (15 Medi 18757 Hydref 1931). Cafodd ei eni yn Aberffraw ar Ynys Môn a'i fagu yn Llansadwrn.

William John Griffith
Ganwyd15 Medi 1875 Edit this on Wikidata
Aberffraw Edit this on Wikidata
Bu farw7 Hydref 1931 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr, ffermwr Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Cafodd ei addysg gynnar yn Ysgol Ramadegol Biwmares ac wedyn am gyfnod byr ym Mhrifysgol Bangor.

Ffermwr ydoedd wrth ei alwedigaeth a threuliodd ran helaeth o'i fywyd yn ffermio yn yr Henllys Fawr ger Aberffraw, cartref teuluol ei dad. Roedd ei iechyd yn fregus ond roedd yn ffermwr medrus iawn.

Dechreuodd ysgrifennu storïau byrion am ei fro. Arferai ddarllen ei straeon yng nghymdeithas lenyddol Capel Aberffraw er mawr ddifyrrwch y gynulleidfa. Daeth yn gyfaill i'r newyddiadurwr ac awdur E. Morgan Humphreys a'i anogodd i gyhoeddi ei straeon yn Y Genedl Gymreig ac fe wnaeth hynny o 1924 hyd Nadolig 1930. Casglwyd a chyhoeddwyd y straeon hynny yn y gyfrol Storïau'r Henllys Fawr (1938), wedi'u golygu gan y nofelydd T. Rowland Hughes. Maent yn straeon doniol, llawn o fwrlwm y fro a brasluniau o gymeriadau ardal y Berffro.

Ysgrifennai ambell bennill digrif yn ogystal, ond ni chyhoeddwyd hwy.

Cafodd Storïau'r Henllys Fawr eu haddasu ar gyfer y teledu yn 1983 gan y dramodydd Gareth Miles a'u dangos ar S4C.

Llyfryddiaeth golygu