Wartski
Mae Wartski yn gwmni teuluol ym Mhrydain sy'n gwerthu hynafolion ac yn arbenigo mewn gweithiau celf Rwsiaidd, yn enwedig y rhai gan Carl Fabergé, gemwaith cain ac arian. Sefydlwyd y busnes ym Mangor yn 1865[1], ond mae'r busnes wedi'i leoli yn 60 St James's Street, Llundain bellach.
Enghraifft o'r canlynol | busnes |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1865 |
Lleoliad | St James's Street |
Ffurf gyfreithiol | cwmni cyfyngedig |
Pencadlys | Llundain |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | http://www.wartski.com |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Hanes
golyguSefydlwyd y cwmni ym Mangor yn 1865 gan Morris Wartski, mewnfudwr Iddewig[2][3] o dref Turek[4] yng nghanolbarth Gwlad Pwyl. Sefydlodd Wartski fusnes gemwaith ar Stryd Fawr Bangor i ddechrau ac yna siop ddillad. Aeth ei fab, Isidore, ymlaen i ddatblygu'r busnes dillad a chreu siop fawr, ffasiynol. Datblygodd hefyd y Castle Inn ar y Stryd Fawr ym Mangor, i fod yn Westy'r Castell. Roedd yn faer poblogaidd ar y ddinas ac yn noddwr chwaraeon ac elusennau lleol. Cymynroddwyd Wartski Fields i ddinas a phobl Bangor gan ei weddw, Winifred Marie, er cof am Isidore Wartski.
Aeth un arall o feibion Morris ymlaen i ddatblygu rhan gemwaith y busnes. Aeth dau fab Morris Wartski, Harry a Charles, i mewn i’r busnes ond pan anafwyd Charles mewn damwain seiclo, symudwyd y busnes yn 1907 i Landudno er mwyn ei iechyd. Ardalydd Môn oedd y cwsmer gorau a chyflogwyd David Lloyd George fel cyfreithiwr y cwmni. Wedi i Charles farw yn 1914, roedd Harry yn rhedeg y busnes gyda'i dad Morris a'i ddau frawd-yng-nghyfraith SM Benjamin ac Emanuel Snowman .
Wedi marwolaeth Morris Wartski a Benjamin, ymunodd ei fab, Charles Wartski, a nai iddo, Cecil Manson, â Harry yn y busnes yn Llandudno. Agorwyd ail sefydliad gemwaith a hen bethau ar Stryd Mostyn, Llandudno. Roedd Harry Wartski mor hoff o Landudno fel pan agorodd y cwmni gangen yn New Bond Street Llundain ym 1911, rhoddwyd yr enw "Wartski of Llandudno" arno.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Trai Iddewiaeth - 24/09/2023 - BBC Sounds". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2023-09-29.
- ↑ "Royal jeweller Wartski celebrates 150 years with sponsorship and book". Campden FB. 2015-11-24. Cyrchwyd 2019-11-23.
- ↑ "Loading..." Jewishlivesproject.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-03-29. Cyrchwyd 2019-11-23.
- ↑ Munn, Geoffrey. "Wartski: The First One Hundred and Fifty Years" (PDF). www.ingentaconnect.com. Cyrchwyd 2020-02-24.