Mae WhatsApp yn gymhwysiad meddalwedd ap sy'n dibynnu ar y rhyngrwyd a ddatblygwyd ar gyfer ffôn clyfar. Yn ogystal â'r swyddogaeth SMS, gellir defnyddio'r cymhwysiad hefyd i ffurfio sgyrsiau grŵp, anfon lluniau, negeseuon cyfryngau fideo a sain rhwng defnyddwyr WhatsApp. Mae'r cymhwysiad ar gael ar gyfer ffonau clyfar iPhone ac Android.
Enghraifft o'r canlynol | gwasanaeth ar-lein, cleient negeseua gwib, ap ffôn, prosiect |
---|---|
Dyddiad cyhoeddi | Ionawr 2009 |
Dechrau/Sefydlu | 24 Chwefror 2009 |
Perchennog | WhatsApp LLC |
Yn cynnwys | Signal Protocol, qcom.c |
Statws hawlfraint | dan hawlfraint |
Sylfaenydd | Brian Acton, Jan Koum |
Dosbarthydd | Microsoft Store, App Store, Google Play |
Gwefan | https://whatsapp.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Hanes
golyguSefydlwyd WhatsApp Inc. yn 2009 gan Brian Acton a Jan Koum, y ddau o gwmni a platfform Yahoo!, ac mae wedi'i leoli yn Nyffryn Silicon.[1]
Mae'r cymhwysiad yn cystadlu â nifer o wasanaethau SMS Asiaidd (fel LINE, KakaoTalk a WeChat). Ym mis Hydref 2011, cyrhaeddwyd biliwn o negeseuon dyddiol[2] ac roedd y nifer wedi dyblu ym mis Ebrill 2012.[3] Cyrhaeddwyd 10 biliwn ym mis Awst 2012.[4]
Ieithoedd ar WhatsApp
golyguMae wyneb ddalen WhatsApp ar gael mewn 60 iaith ar y fersiwn Android a 40 ar y fersiwn iPhone.[5] Ymysg yr ieithoedd yma mae'r ieithoedd mwyaf fel Saesneg, Ffrangeg, Sbaeneg a hefyd 10 iaith yn India (Hindi, Bangla, Punjabi, Telugu, Marathi, Tamil, Wrdw, Gwjarati, Kannada, Malayalam) ac ieithoedd llai fel Afrikaans a Gwyddeleg. Yn anffodus, dydy'r Gymraeg ddim yn un o'r ieithoedd sydd ar gael.
Priodweddau
golyguCymharodd Financial Times effaith WhatsApp ar y farchnad negeseuon testun â ditto Skype ar gyfer teleffoni llinell dir.[1]
Mae'r cymhwysiad yn freeware (radwedd),[6] ac ar ôl ei osod nid oes unrhyw gostau ychwanegol ar ffurf e.e. setliad tanysgrifiad neu ddefnydd. Mae hyn yn gysylltiedig â'r ffaith bod y traffig yn defnyddio cysylltiad rhyngrwyd y ffôn trwy'r rhwydwaith symudol neu Wi-Fi.
Wrth osod WhatsApp, rydych chi'n creu cyfrif defnyddiwr gyda manylion eich cyfeiriad e-bost a'ch rhif ffôn. Yn seiliedig ar lyfr cyfeiriadau ffôn y defnyddiwr, mae'r rhaglen yn cynnal chwiliad yn y gronfa ddata defnyddwyr i ddod o hyd i rifau cyfatebol.
Caffaelodd Facebook y gwasanaeth WhatsApp yn 2014 am $16 biliwn, gan gynnwys $4 biliwn mewn arian parod a thua $12 biliwn mewn stoc Facebook. Mae'r cytundeb hefyd yn caniatáu ar gyfer rhoi $3 biliwn ychwanegol mewn cyfranddaliadau wrth gefn i sylfaenwyr a gweithwyr WhatsApp a fydd yn breinio dros bedair blynedd ar ôl cau.[7]
Controfersi
golyguYm mis Medi 2021, rhoddodd yr Awdurdod Diogelu Data yn Iwerddon (lle mae pencadlys Ewropeaidd Facebook) ddirwy o 225 miliwn ewro ar WhatsApp am rannu gwybodaeth defnyddwyr yn anghyfreithlon â chwmnïau eraill sy'n eiddo i Facebook ac am beidio â gwneud eu defnyddwyr yn ddigonol ymwybodol o sut y defnyddiwyd y wybodaeth. Galwodd WhatsApp y ddirwy yn anghymesur a bydd yn apelio yn erbyn y penderfyniad.[8]
Dolenni allanol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Bradshaw, Tim (2011-11-14). "WhatsApp users get the message". Financial Times. Cyrchwyd 2013-05-29.
- ↑ Olanoff, Drew (2011-10-31). "WhatsApp users now send over one billion messages a day". The Next Web. Cyrchwyd 2013-05-29.
- ↑ Russell, Jon (2012-04-04). "WhatsApp founder to operators: We're no SMS-killer, we get people hooked on data". The Next Web. Cyrchwyd 2013-05-29.
- ↑ Olanoff, Drew (2012-08-23). "WhatsApp hits new record with 10 billion total messages in one day". The Next Web. Cyrchwyd 2013-05-29.
- ↑ "How to change WhatsApp's language". Gwefan WhatsApp. Cyrchwyd 28 Hydref 2022.
- ↑ WhatsApp Messenger on the App Store
- ↑ "WhatsApp får milliardbøde for brud på datalovgivning". Berlingske. 2 Medi 2021.
- ↑ "WhatsApp får milliardbøde for brud på datalovgivning". Berlingske. 2 Medi 2021.