Brynaich
Teyrnas Eingl-Sacsonaidd yn ne-ddwyrain yr Alban a gogledd-ddwyrain Lloegr oedd Brynaich neu Bryneich (Cymraeg Canol, ceir amrywiadau trwy affeithiad yn cynnwys Byrnaich[1] a Bernech[2], Saesneg: Bernicia). Sefydlwyd y deyrnas cyn dyfodiad goresgynwyr megis yr Eingl yn y 6g, a tharddiad yr enw cynharaf ar yr ardal, sef Bernacci, oedd 'y bwlch' a chredir i deyrnas Frythonig o'r enw yma fodoli yma am ganrifoedd.[3] Gwyddwn hyn gan y cyfeirir yn 'Marwnad Cunedda' at 'fyddin Gododdin a Brynaich', dau lwyth wedi'u huno i ymladd ym Mrwydr Catraeth.[angen ffynhonnell] Mae tarddiad enwau llefydd yr ardal hefyd yn profi i lwythi Celtaidd reoli'r ardal cyn y 6g; enwau megis Yeavering, Dunbar, Doon Hill a Melrose.[4]
Enghraifft o'r canlynol | gwlad ar un adeg |
---|---|
Daeth i ben | 634 |
Label brodorol | Beornice Rīce |
Dechrau/Sefydlu | 420s |
Olynwyd gan | Northumbria |
Enw brodorol | Beornice Rīce |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd tiriogaeth Brynaich yn ymestyn o Afon Forth i Afon Tees; mewn termau modern roedd yn cyfateb i Northumberland, Swydd Durham, Swydd Berwick a Dwyrain Lothian. Cyn sefydlu'r deyrnas Eingl, roedd y tiriogaethau hyn yn rhan ddeheuol teyrnas Gododdin. Efallai mai ei phrifddinas oedd Bamburgh, a elwid yn Din Guardi yn yr hen ffynonellau Cymreig. Gerllaw roedd Ynys Metcaut (Lindisfarne).
Y cyntaf o frenhinoedd Eingl Brynaich y mae cofnod amdano yw Ida, a ddaeth i'r orsedd tua 547. Unodd ŵyr Ida, Æthelfrith, deyrnas Deifr a'i deyrnas ei hun tua 604 i osod sylfeini teyrnas Northumbria.
Bu Cadwallon yn frenin yma, oblegid ei berthynas i Cunedda tan iddo gael ei ladd gan Oswallt.[angen ffynhonnell]
Mae'r ardal yn bwysig am sawl rheswm, gan gynnwys Llyfr Lindisfarne a pherthynas Beda a'r ardal. Ymladdodd Urien Rheged yn erbyn Eingl yr ardal gan eu hymlid o'r tir mawr i Lindisfarne.[5]
Ymhell ar ôl i'r deyrnas hon ddod i ben, parhawyd i ddefnyddio'r gair Bryneich am y Saeson e.e. yng ngwaith y Gogynfeirdd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Brynaich. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Ionawr 2021.
- ↑ Llyfr Celtic culture: a historical encyclopedia, Volumes 1-5 By John T. Koch
- ↑ Jackson, LHEB tud 701-705
- ↑ Alcock, Economy, Society and Warefare among Britons and Saxons, tud 221, 255-266; Hope-Taylor, Yeavering
- ↑ Historia Brittonum, 63