Wicipedia:Hyrwyddo a Chyhoeddusrwydd

Yn dilyn ein trafodaeth ar Cynllun Datblygu 2012-13 rhyddhawyd arian gan Wikimedia UK ar gyfer datblygu Wici-cy, marchnata a chyhoeddusrwydd er mwyn codi proffil y Wicipedia Cymraeg. Nodwch eich dymuniadau ar y ddalen hon, os gwelwch yn dda. Cafwyd syniadau gwerthfawr gan Rhys] i gychwyn y drafodaeth.

Sylwer: wrth i'r canlynol ddatblygu, dylid symud penawdau nad ydynt yn ymwneud â "Hyrwyddo a Chyhoeddusrwydd" i dudalen arall. Bydd angen, hefyd 'Portal' fel mynegai i'r hyn da ni'n ei drefnu.


Digwyddiadau a phrosiectau golygu

(e.e. Gweithdai (golygu cyffredinol, arbenigol megis ffotograffiaeth a delweddau), Golygathon, Digwyddiad GLAM, Presenoldeb mewn digwyddiadau addas (Eisteddfod Genedlaethol, digwyddiadau Hacio’r Iaith ayyb))

Golygathon Caerdydd oedd y cyntaf i Wicipedia Cymraeg ei drefnu, a'r sesiynnau gyda Hacio'r Iaith yn ail. Bydd sesiwn hyfforddi a chyflwyniad arall yng Nghaerdydd ddechrau Tachwedd. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:26, 4 Hydref 2012 (UTC)[ateb]
Wici-Wacio! Wici-Hac!

Wiki-meet yw cyfarfod o Wicipedwyr, awgrymaf Wici-Wacio fel bathiad! Unrhyw syniadau eraill? Math o Wici-Waciad oedd y Golygathon yng Nghaerdydd a gynhaliwyd Mehefin 2012. Mae gen i awydd trefnu dau: un yn Aberystwyth ac un yn Rhuthun. Sut mae'r gwynt yn chwythu? Llywelyn2000 (sgwrs) 08:59, 15 Medi 2012 (UTC)[ateb]

Dw i'n cynnig Wici-gwrdd/Wici-gyfarfod (pa bynnag sy lleia anghywir yn ramadegol!). Neu hwyrach Wici-glonc (oes rhywun yn dweud clonc bellach?). Jyst unrhywbeth OND Wici-Wacio!
Mae Aberystwyth yn swnio fe lle delfrydol gan bod hi'n wybodus i mi bod sawl cyfrannwr cyson yn byw yn yr ardal, ond rhaid i'r galw ddod o fan'no. Dw i wedi symud i Rhuthun rwan a byddwn i' fodlon cwrdd.--Ben Bore (sgwrs) 21:53, 3 Hydref 2012 (UTC)[ateb]
Wici Hac?
Gret! Dw i'n cytuno ac mae'n bosib wici hacio mewn wici hac! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:22, 9 Hydref 2012 (UTC)[ateb]

Digwyddiad GLAM-aidd golygu

Baswn i'n licio trio pwyntio rhai o amgueddfeydd Cymru, mawr a bach, at GLAM-WIKI 2013 (sbiwch ar y pynciau difyr), ond dwi'n amau os byddai nhw'n dallt beth ydy o na'i werth, heb son am fynychu. Beth dw i'n gynnig ein bod ni'n wneud falle ydy trefnu digwyddiad (o bosib mewn cydweithrediad gyda'r Llyfrgell Genedlaethol neu Sain Ffagan) wedi ei anelu at amgueddfeyydd a chanolfannau treftadaeth maint canolig a bychain Cymru, yn benodol rhai Cymraeg, gyda'r nod o annog prosiectau penodol mewn cydweithrediad gyda sefydliadau unigol (tebyg i hyn) neu a'r draws y sector gyfan gyda rhywbeth fel Wiki Loves Monuments. Y math o sefydliadau sy gyda i mewn golwg ydy rhai ble mae cyllid yn dynn (neu ddim o gwbl) a ble does ond un aelod staff neu gwirfoddolwyr yn ei gynnal. Sefydlaidau megis:

Hefyd, amgueddfeydd lleol

  • Amgueddfa Bangor
  • Carchar Rhuthun
  • Amgueddfa Ceredigion

Byddai'n rhaid teilwra rhywbeth i wneud iddo swino'n berthnasol iddynt ac i amlinellu'r manteision lu:

  • Erthyglau newydd/dyfnach am y sefydlaid ei hun, y gwrthrych (e.e Kate Roberts), ei gwaith (y nofelau, Plaid Cymru, Gwasg Gee) a phynciau cysylltiedig (e.e., mannau ble bu'n byw a gweithio, hefyd Diwydiant llechi Cymru)
  • Yr hyrwyddo a fyddia'n dod yn sgli yr uchod
  • Gwirfodolwyr newydd (h.y. golygwyr presenol Wicipedia) i helpu gyda dehongli, creu ac uwchlwytho delweddau ayyb
  • Rhoi ffocws i wirfodolwyr presenol y sefydliad - rhoi arweiniad, adnabod pynciau a ffynonellau, helpu gyda dehongli, creu ac uwchlwytho delweddau ayyb.
  • Y tebygrwydd o gyfieithiadau i ieithoedd eraill tu hwnt i'r Gymraeg a Saesneg.
  • Yn achos Ellis Wynne ee, bydd sgop i gyfrannu at Chwaer brosiectau Wicipedia.
  • ...mwy...
Syniadau gwych. Yr un unig ddau dw i'n gweithio arnyn nhw ar hyn o bryd ydy'r Llyfrgell Genedlaethol (cyfarfod yno heddiw) a Sain Ffagan. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:26, 4 Hydref 2012 (UTC)[ateb]
Newydd weld stori yma ar wefan y BBC:
£60,000 i greu Amgueddfa Atgofion
Diben y cydweithio fydd cadw cofnod manwl o'r hen ffordd o fyw
Mae Menter Iaith wedi derbyn £59,800 tuag at gynllun Yr Amgueddfa Atgofion a fydd yn cynnwys 18 mis o weithgareddau yn ymwneud â hanes ffermio a bywyd cefn gwlad mewn sir.
Cronfa Dreftadaeth y Loteri sydd wedi dyfarnu'r arian i Fenter Iaith Sir Ddinbych.
Bydd pobl ifanc yn derbyn hyfforddiant ar sut i gasglu atgofion a chadw lluniau ar gyfrifiaduron, gan gydweithio â ffermwyr lleol - y rhai hŷn yn enwedig.
Tydy'r erthygl ddim yn ei wneud yn glir sut bydd yn cael ei arddangos - mewn ffurf traddodiadol yn unig (h.y. ar ffurf stondin) neu oes presenoldeb ar-lein i fod hefyd. Dw i'n cynnig bod ni'n mynd ati i lunio llythyr/e-bost i'w ddanfon at y Fenter Iaith yn cynnig sut gall llwytho'r cynnwys (neu o leiaf ei bostio yn y parth cyhoeddus) fod o fantais. Os ydych yn cytuno, golygwvch y llythyr gyda fi yma cyn i fi ei ddanfon.--Ben Bore (sgwrs) 12:47, 8 Hydref 2012 (UTC)[ateb]
Ben-digedig! Cytuno'n llwyr. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:22, 9 Hydref 2012 (UTC)[ateb]

Cydweithio gyda Choleg Cymraeg Cenedlaethol a'r cyfnodolyn ymchwil, Gwerddon golygu

Sgwn i a fyddai diddordeb gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (CCC) a chyfnodolyn ymchwil, Gwerddon i gymryd rhan mewn rhywbeth tebyg i'r Wikipedia Education Program:

The idea behind the Wikipedia Education Program is simple: Professors around the world assign their students to contribute to Wikipedia for class assignments.

Drwy'r CCC, mae modd dilyn cyrsiau yn y pynciau hyn. Byddai'n wych petai erthyglau yn y meysydd yma yn cael eu creu/gwella gan unigolion sy wedi bod yn astudio'r pynciau'n ddofn able gelli'r hefyd falle rhoi slant Cymraeg/Cymreig ar ystod eang o bynciau yn hytrach na chyfeithu'n slafaidd o'r Saesneg.--Ben Bore (sgwrs) 21:53, 3 Hydref 2012 (UTC)[ateb]

Syniad da eto! Sgin ti ddolen i "Gwerddon"? Llywelyn2000 (sgwrs) 05:26, 4 Hydref 2012 (UTC) Newydd ei ffindio! Paid a phoeni. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:22, 9 Hydref 2012 (UTC)[ateb]

Cyfathrebu â’r wasg golygu

(e.e. Templedi Datganiadau, rhestrau cyswllt y wasg, cadw cofnod o erthyglau yn yWasg ar Wicipedia Cymraeg)

Deunyddiau hyrwyddo golygu

(e.e. Logos, templedi gyda delwedd cyson, posteri, cyflwyniadau sioe sleidiau, Crysau-T (cynnig sloganau, dyluniad), posteri, baneri stondin/pop-up)

Pop-yp golygu

Mae gennym yn ein meddiant un baner pop-yp.

Taflen: Sut i olygu Wicipedia golygu

Bydd angen taflen arnom ar y 4ydd o Hydref yn Ffair Llenyddiaeth Cymru yng Nghaerdydd. Mae yna un Saesneg ar gael: oes gan rywun awydd ei addasu? Byddai rhain yn wych ar gyfer cyfarfodydd Wici-Hacio hefyd, a'r eisteddfod ayb. Llywelyn2000 (sgwrs) 12:37, 3 Hydref 2012 (UTC)[ateb]

Adnoddau parod golygu

(e.e. Cyflwyniadau megis sioe sleidiau ar gyfer gwahanol weithdai, cyfarwyddiadau sut i olygu, ar y we ac ar ffurf print, megis PDF?)

Mae gen i sioe sleidiau eitha cyfoes, ebost i mi os oes rhywun isio copi. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:26, 4 Hydref 2012 (UTC)[ateb]
Oes modd uwchlwytho'r sioe sleidiau (unai'n syth ar Wicipedia/Y Commin, neu ar wasanaeth megis SlideShare neu GoogelDocs) fel gall unrhyw un eu lawrlwytho, a bod dim angen dod a gwneud cais am gopi pob tro?--Ben Bore (sgwrs) 08:49, 4 Hydref 2012 (UTC)[ateb]

Cyfarwyddiadau a syniadau ar gynnwys a ffurf sesiwn hyfforddi yma.--Ben Bore (sgwrs) 21:08, 3 Hydref 2012 (UTC)[ateb]

Sgin ti stwff ar ol y sesiwn yn y steddfod? Dw i 'di holi EDUWiki, hefyd, am wybodaeth. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:26, 4 Hydref 2012 (UTC)[ateb]
Tydy o ddim byd arbennig, ond dyma nodiadau bras sgwennais o flaen llaw.--Ben Bore (sgwrs) 08:49, 4 Hydref 2012 (UTC)[ateb]