Wicipedia:Golygathon Caerdydd 2012

Llyfrgell Ganolog Caerdydd.
Poster i hyrwyddo'r Golygathon (diolch i Defnyddiwr:Llywelyn2000). Delwedd gwreiddiol yma.
Baner i hyrwyddo'r Golygathon.

Ble?: Llyfrgell Ganolog Caerdydd [gwefan y llyfrgell]
Pryd?: Dydd Sadwrn 30ain Mehefin 2012
Pwy all fynychu?: Unrhyw un - o olygwyr profiadol i rai sydd erioed wedi golygu Wicipedia o'r blaen
Beth yw'r nod?:Creu a gwella erthyglau am Gaerdydd a'i phobl ar y Wicipedia Cymraeg.

Brief description in English  (cy>en translation by GoogleTranslate)

Beth ydy Golygathon? golygu

Golygathon (neu Editathon yn Saesneg) yw cyfle i bobl ddod at ei gilydd i rannu syniadau a chydweithio i gynyddu'r nifer o erthyglau ar y Wicipedia (y tro yma gyda ffocws ar Gaerdydd) ac hefyd gwella ansawdd erthyglau presenol drwy wirio'r cynnwys ac ychwanegu ato. Mae hefyd yn gyfle i olygwyr gwrdd â golygwyr eraill wyneb-yn-wyneb.
Dyma enghraifft o olygathon yn y Llyfrgell Brydeinig.

Sut alla i gyfrannu? golygu

O flaen llaw:

  • Helpwch gyda hyrwyddo (gweler y dudalen sgwrs).
  • Meddwl am syniadau am erthyglau (mwy isod)
  • Darganfod nawdd/stwff am ddim i bawb sy'n mynychu

Ar y dydd:

  • Creu erthyglau (bydd golygwyr profiadol wrth law i'ch helpu.)
  • Gwirio erthyglau - drwy wirio'r iaith, ffeithiau a ffynonellau.
  • Ehangu erthyglau - mwy o fanylder, ychwanegu delweddau, trefnu erthyglau o fewn categoriau addas.
  • Delweddau - dewch a'ch lluniau chi i'w sganio a'u huwchlwytho, neu ddod o hyd i ddelweddau arlein a'u huwchlwytho.
  • I'r rhai mwy mentrus, creu/gosod Gwybodlenni a blychau llywio.

Hyd yn oed os na allwch fynychu'r digwyddiad, gallwch ddal i gyfrannu at erthyglau yn ystod y dydd. Byddwn yn cadw llygad ar y dudalen Erthyglau Newydd trwy'r dydd i weld beth sy'n cael eu creu.

Pa adnoddau sydd ar gael? golygu

Mae gennym ddefnydd o'r Ystafell TGCh sy'n cynnwys 12 o gyfrifiaduron sydd wedi eu cysylltu a'r we. Mae hefyd WiFi ar gael drwy'r adeilad os dymunwch ddod â gliniadur di-wifr. Mae'r ystafell TGCh wedi ei lleoli ar lawr uchaf y llyfrgell, y drws nesaf i'r adran llyfrau Cymraeg a'r adran llyfrau lleol. Mae hefyd mynediad ar gael at sawl adnodd ar-lein.

Ein dolen gyswllt ar y dydd fydd Steve Cole sy'n aelod o staff yr Adran Astudiaethau Lleol. Hefyd, gobeithiwn gael cwmni Carole Morgans, Llyfrgellydd yr Adran Gymraeg, y peth cyntaf yn y bore, rhag ofn bod cwestiwn neu ddau gyda chi iddi hi am y casgliad Cymraeg.

Ymlaen llaw golygu

PWYSIG!  Efallai bydd yn syniad edrych at gatalog ar-lein y llyfrgell, rhag ofn eich bod eisiau gofyn i'r llyfrgell roi llyfr wrth gefn i chi neu archebu llyfr o'r stacks. Mae'n rhaid bod yn aelod o'r llyfrgell i wneud hyn. Os nad ydych y aelod, gallaf i (Rhys Wynne) archebu ar eich rhan (nodwch y llyfrau islaw). Does dim rhaid bod yn aelod o'r llyfrgell i ddefnyddio'r cyfrifiaduron ar y dydd.

Mae'r ddarlith Tiger Bay a'r Diwylliant Cymraeg yn werth ei darllen o flaen llaw ac yn rhoi syniadau yn y troednodiadau am deitlau llyfrau ar gyfer darllen pellach.

Nodwch y llyfrau yma golygu

Rwyf wedi sirchrau bydd y rhain ar gael yn yr ystafell yn barod. --Ben Bore (sgwrs) 10:08, 20 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]

Cofrestru golygu

Er mwyn gwybod faint o bobl i'w disgwyl, rhag ofn bod angen mwy o gyfrifiaduron ac ar mwyn gwybod faint o fwyd i'w archebu am ginio, rhowch eich enw isod, os gwelwch yn dda. Does dim rhaid bod a chyfrif Wicipedia i ychwnaegu'ch henw. I ychwanegu eich henw, cliciwch "Golygu" a theipiwch #Eich Enw o dan yr enw blaneorol ac yna cliciwch 'Cadw'r dudalen' o dan y blwch golygu. Os nad ydych yn hydreus yn gwneud hyn gadewch sylw yma, neu ebostiwch Rhys Wynne ar y cyfeiriad ar y poster (ar y dde). Neu jest trowch lan! Nodwch ar ôl eich enw os ydych yn medru cynnig lifft, os gwelwch yn dda. Mae costau teithio'n bosibl - danfonwch ebost at Defnyddiwr:Llywelyn2000 (y ddolen ar y chwith ar y dudalen defnyddiwr).

  1. Rhys Wynne - diddordeb mewn hanes a chwaraeon
  2. Llywelyn2000 - technoleg gwybodaeth
  3. Carl Morris - diwylliant o bob math
  4. Gwen (trwy ebost)
  5. Ham - pensaernïaeth; hefyd yn hapus i greu a gosod gwybodlenni a blychau llywio
    Mae'n ddrwg iawn gen i; fydda i methu dod oherwydd salwch. Gobeithio eiff y dydd yn dda! Ham (sgwrs) 07:59, 30 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]
  6. Dyfrig (Thomas) Cymru a Chymreig
  7. Gary Pritchard (wedi ei gopio o'r Digwyddiad Facebook)
  8. Daicaregos - diddordeb mewn hanes a diwylliant

Efallai'n dod golygu

  1. Llinos (drwy ebost)
  2. Matthew

Syniadau am erthyglau golygu

Mae Categori:Caerdydd yn dangos pa erthyglau sy'n bodoli'n barod, a pha rai sy'n eginau (h.y. angen eu ehangu). Gellir hefyd edrych ar y Wikipedia Saesneg am ysbrydoliaeth.
Nodwch unrhyw awgrymiadau islaw.

Pobl golygu

Gweler hefyd: Categori:Pobl_o_Gaerdydd

Llefydd ac Adeiladau golygu

Celf a diwylliant golygu

Hanes a gwleidyddiaeth golygu

Golygathon o gwmpas y we golygu

Hacio'r Iaith - Golygathon y Wicipedia Cymraeg, Caerdydd 30.6.12

Ein Caerdydd - Golygathon

Facebook (digwyddiad) - Golygathon y Wicipedia Cymraeg, Caerdydd 30.6.12

- Fideo: Wicipedia Cymraeg, y wefan mwyaf poblogaidd yn Gymraeg

Mae croeso i ti bostio lluniau, cofnodion, trydariadau, fideos ayyb o'r Golygathon. Dyma'r tag ar Twitter: #cywiki Dyma'r tag ar blatfformau eraill fel YouTube, Flickr, blogiau ayyb: cywiki

But I can't speak Welsh golygu

A Golygathon (Editathon) for the Welsh language Wicipedia is taking place at Cardiff Central Library on Saturday the 30th of June. The Golygathon will focus on creating and improving articles about Cardiff and its people. If you don’t speak Welsh, you're still more than welcome to join us as there are many things you can do to help the Welsh language wiki:

  • Add relevant images to the Wikimedia Commons, either by fining copyright free images online, taking photos, or scanning images
  • If you’re familiar with editing Wikipeida, you may be confident in creating infoboxes and naviboxes for use on the Wicipedia
  • Add interwiki links to and from the Wicipedia to wikis in other languages

If you want to drop by on the day, add your name to the list above under the heading Cofrestru.

Adroddiad o'r dydd golygu

  • Cymerodd 15 golygydd ran (8 yn y llyfrgell, 7 o bell!) - rhai golygwyr profiadol, rhai wedi cyfrannu at en:wiki o'r blaen ond ddim cy:wiki, ac un heb olygu erioed o'r blaen.
  • Cafwyd croseo mawr gan staff y llyfrgell a llawer o gymorth yn ystod y dydd, gan gynnwys taith tywys o gwmpas adran yr Astudiaethau Lleol.
  • Creu a golygu erthyglau
  • Bu llawer o drafod dros ginio, am dueddiadau golygu a chyfeiriad y Wicipedia Cymraeg yn y dyfodol.