Wicipedia:Man Trafod

(Ailgyfeiriad o Wicipedia:Wici Sgwrs)
   Hafan Datblygu        Cynllun Datblygu        Digwyddiadau        Cyhoeddusrwydd          Wici GLAM        Wici Addysg        Wici Cymru        Man Trafod    

Dyma'r lle i gynnal trafodaethau neu i roi sylwadau ynglŷn â Datblygu Wicipedia a'i chwiorydd.

Y Llyfrgell Genedlaethol

golygu

Parthed y datblygiadau yma

Gwych, er mae un sylw gyda fi. Mae'n dibynnu ar bwy sy'n gwneud yr uwchlwytho mae'n debyg, ond fel sefydliad dwyieithog hoffwn i weld yr holl wybodaeth yn Gymraeg a Saesneg, rhywbeth sy'n dechnegol bosib. Mi welaf o god y nodyn sydd wedi ei greu bod yna feysydd Cymraeg i'w llenwi. Hyd yn oed os nad yw'r wybodaeth yn cael ei nodi'n Gymraeg pob tro, byddai'n braf gweld enwau'r meysydd yn y ddwy iaith. Mae'n debyg bod modd (gyda gofal) i unrhyw un addau'r nodyn beth bynnag? Neu o leiaf y blwch ar y gwaelod gyda delwedd y Llyfrgell arno.--Ben Bore (sgwrs) 10:00, 6 Chwefror 2013 (UTC)[ateb]
Gol. Dw i'n gweld rwan o ddewis newid iaith rhyngwyneb y Comin i'r Gymraeg*, mae enwau'r meysydd yn newid i'r Gymraeg hefyd - clyfar! A fyddai'n bosib defyddio'r un clyfrwch ar gyfer cynnwys y meysydd hefyd sgwn i neu defnyddio'r arddull arferol o lenwi blwch, e.e.' en:cynnwys Saesneg, <br> cy:cynnwys Cymraeg '--Ben Bore (sgwrs) 10:09, 6 Chwefror 2013 (UTC) *Os ydy gosodiadau iaith eich porwr wedi ei osod fel 'cy' yna mae'r Comin wastad yn rhoi gwybod i chi bod fersiwn Cymraeg o'r rhyngwyneb ar gael a does ond angen un glic i'w newid.[ateb]
Bore da. Un o ddefnyddwyr Comin fydd yn uwchlwytho, gyda Bot. Ti'n iawn fod y LlGC yn sefydliad dwyieithog - i ryw raddau ond mae'r metadata ar y lluniau'n Saesneg, ysywaeth. O leia mae ein templad ni'n Gymraeg! Os ydy o'n ymddangos yn Saesneg i ti yna rho ?&uselang=cy ar ddiwedd yr url mi newidith. Yn well fyth (fel y gwelaist) newidia iaith y Rhyngwyneb drwy fynd i "dewisiadau" ("Preferences") a'i newid i'r Gymraeg. Mae chydig o waith i'w wneud ar ein prif fwydlen Cymraeg Comin ac mae angen logo Cymareg! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:58, 9 Chwefror 2013 (UTC)[ateb]

Amgueddfydd

golygu

Amgueddfeydd a chanolfannau treftadaeth maint bach a chanolig

golygu

Baswn i'n licio trio pwyntio rhai o amgueddfeydd Cymru, mawr a bach, at GLAM-WIKI 2013 (sbiwch ar y pynciau difyr), ond dwi'n amau os byddai nhw'n dallt beth ydy o na'i werth, heb son am fynychu. Beth dw i'n gynnig ein bod ni'n wneud falle ydy trefnu digwyddiad (o bosib mewn cydweithrediad gyda'r Llyfrgell Genedlaethol neu Sain Ffagan) wedi ei anelu at amgueddfeyydd a chanolfannau treftadaeth maint canolig a bychain Cymru, yn benodol rhai Cymraeg, gyda'r nod o annog prosiectau penodol mewn cydweithrediad gyda sefydliadau unigol (tebyg i hyn) neu a'r draws y sector gyfan gyda rhywbeth fel Wiki Loves Monuments. Y math o sefydliadau sy gyda i mewn golwg ydy rhai ble mae cyllid yn dynn (neu ddim o gwbl) a ble does ond un aelod staff neu gwirfoddolwyr yn ei gynnal. Sefydlaidau megis:

Hefyd, amgueddfeydd lleol

Byddai'n rhaid teilwra rhywbeth i wneud iddo swino'n berthnasol iddynt ac i amlinellu'r manteision lu:

  • Erthyglau newydd/dyfnach am yr atyniad/sefydlaid ei hun, y gwrthrych (e.e Kate Roberts), ei gwaith (y nofelau, Plaid Cymru, Gwasg Gee) a phynciau cysylltiedig (e.e., mannau ble bu'n byw a gweithio, hefyd Diwydiant llechi Cymru)
  • Yr hyrwyddo a fyddai'n dod yn sgîl yr uchod
  • Y gallu i fanteisio ar gyfraniadau gwirfoddolwyr newydd (h.y. golygwyr presenol Wicipedia) i helpu gyda dehongli, creu ac uwchlwytho delweddau ayyb
  • Rhoi ffocws i wirfodolwyr presenol y sefydliad - rhoi arweiniad, adnabod pynciau a ffynonellau, helpu gyda dehongli, creu ac uwchlwytho delweddau ayyb.
  • Y tebygrwydd o gyfieithiadau i ieithoedd eraill tu hwnt i'r Gymraeg a Saesneg.
  • Yn achos Ellis Wynne e.e., bydd sgop i gyfrannu at Chwaer brosiectau Wicipedia gan bod ei waith allan o hawlfraint ers amser hir.
  • ...mwy...
Danfonais ebost cychwynol at Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru ar ddiwedd iOnawr 2013 yn eui hysbysu'r o gynhadledd GLAM 2013 ac yn gywntyllu'r syniad o gydweithio unai gyda sefydliadau unigol neu y nhw fel corff. Nodais nad oedd cynlluniau pendant gennym ar y pryd, modn eisiau gweld beth fyddai'r ymateb ac fel ein bod wedi creu cysylltiad. Cefais neges gadarnhaol yn ôl yn syth gan eu sywyddog datblygu.
I suspect this is timely.
I shall advertise the conference on our JISC mail feed.
Welsh Language terminology is something the Federation is tasked with within the Museum Strategy for Wales. I think – without consulting anyone else on the committee - a training day/workshop is something that would be useful and we could organize to start the ball rolling to get more Welsh Language content on the web. Unfortunately our training person is in hospital at the moment but I’ll run it passed the President and no doubt the committee can discuss when it next meets in March.
Mi ddof yn ôl gydag unrhyw ddatblygiadau pellach. Yn y cyfamser os oes gan rhywun syniadau pellach trafodwch nhw yma. --Ben Bore (sgwrs) 11:34, 8 Chwefror 2013 (UTC)[ateb]
Syniadau gwych. Yr un unig ddau dw i'n gweithio arnyn nhw ar hyn o bryd ydy'r Llyfrgell Genedlaethol (cyfarfod yno heddiw) a Sain Ffagan. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:26, 4 Hydref 2012 (UTC)[ateb]

Menter Iaith Sir Ddinbych: Amgueddfa Atgofion

golygu

Newydd weld stori yma ar wefan y BBC:

£60,000 i greu Amgueddfa Atgofion
Diben y cydweithio fydd cadw cofnod manwl o'r hen ffordd o fyw
Mae Menter Iaith wedi derbyn £59,800 tuag at gynllun Yr Amgueddfa Atgofion a fydd yn cynnwys 18 mis o weithgareddau yn ymwneud â hanes ffermio a bywyd cefn gwlad mewn sir.
Cronfa Dreftadaeth y Loteri sydd wedi dyfarnu'r arian i Fenter Iaith Sir Ddinbych.
Bydd pobl ifanc yn derbyn hyfforddiant ar sut i gasglu atgofion a chadw lluniau ar gyfrifiaduron, gan gydweithio â ffermwyr lleol - y rhai hŷn yn enwedig.

Tydy'r erthygl ddim yn ei wneud yn glir sut bydd yn cael ei arddangos - mewn ffurf traddodiadol yn unig (h.y. ar ffurf stondin) neu oes presenoldeb ar-lein i fod hefyd. Dw i'n cynnig bod ni'n mynd ati i lunio llythyr/e-bost i'w ddanfon at y Fenter Iaith yn cynnig sut gall llwytho'r cynnwys (neu o leiaf ei bostio yn y parth cyhoeddus) fod o fantais. Os ydych yn cytuno, golygwvch y llythyr gyda fi yma cyn i fi ei ddanfon.--Ben Bore (sgwrs) 12:47, 8 Hydref 2012 (UTC)[ateb]

Ben-digedig! Cytuno'n llwyr. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:22, 9 Hydref 2012 (UTC)[ateb]

Wici Addysg

golygu

Y Coleg Cymraeg

golygu

Sgwn i a fyddai diddordeb gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (CCC) a chyfnodolyn ymchwil, Gwerddon i gymryd rhan mewn rhywbeth tebyg i'r Wikipedia Education Program:

The idea behind the Wikipedia Education Program is simple: Professors around the world assign their students to contribute to Wikipedia for class assignments.

Drwy'r CCC, mae modd dilyn cyrsiau yn y pynciau hyn. Byddai'n wych petai erthyglau yn y meysydd yma yn cael eu creu/gwella gan unigolion sy wedi bod yn astudio'r pynciau'n ddofn a ble gelli'r hefyd falle rhoi slant Cymraeg/Cymreig ar ystod eang o bynciau yn hytrach na chyfieithu'n slafaidd o'r Saesneg.--Ben Bore (sgwrs) 21:53, 3 Hydref 2012 (UTC)[ateb]

:Syniad da eto! Sgin ti ddolen i "Gwerddon"? Llywelyn2000 (sgwrs) 05:26, 4 Hydref 2012 (UTC) Newydd ei ffindio! Paid a phoeni. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:22, 9 Hydref 2012 (UTC)[ateb]

Enghreifftiau

golygu

Mae yna lot o stwff diddorol am addysg ac hefyd wicis ieithoedd bychain ar flog y WikiMedia Foundation.

The benefits of cooperating with a group of third-year university students of Institute for Environmental Studies have been clear since last year, as can be seen from the last year’s report. At that time, students wrote top-quality articles accompanied by lots of pictures, aiming to document corresponding protected areas and improve the topic in the Czech Wikipedia.
We did not change the overall model of the project: again, students were asked to pick one protected area, pay a visit in it, take pictures, make a 15-minute talk in front of the class (including the following discussion), and, last but not least, write a detailed Wikipedia article on the subject of this protected area.
Mynychais gwrs gradd mewn pwnc tebyg iawn i'r uchod ym Mangor (flynyddoedd yn ôl rwan!) drwy gyfrwng y Gymraeg. Tydi'r cwrs ddim yn cael ei gynnig bellach, ond mae cyrsiau tebyg ble gellir astudio 33-55% o'r cwrs dryw'r Gymraeg.--Ben Bore (sgwrs) 14:07, 20 Chwefror 2013 (UTC)[ateb]

Ar yr 8fed o Fehefin rhoddais gyflwyniad i WikiConference UK 2013 ar gynlluniau arfaethedig prosiect Wici Cymru, sef Llwybrau Byw! Cafwyd derbyniad gwresog gan bawb; mae bwrdd ac aelodau WMUK yn awyddus iawn i gefnogi unrhyw gynlluniau sydd gennym. Bydd swydd Rheolwr yn cael ei hysbysebu yn ystod y dyddiau nesaf yn y Caffi, Golwg, Y Cymro ayb, felly cadwch eich llygad amdani. Yn ogystal a swydd Rheolwr bydd angen nifer o hyfforddwyr ledled Cymru. Llywelyn2000 (sgwrs) 19:38, 12 Mehefin 2013 (UTC)[ateb]

Addysg a hyfforddi

golygu

Hyn yn swnio braidd yn ddifrifol, ond mae ambell ddigwyddiad diddorol yn cael eu cynnal drwy’r DG gan Wikimedia UK a dramor gan sefydliadau a phartneriaid eraill. Falle byddai modd talu am gostau teithio a chostau cynnal (gan nawdd Wikimedia UK) petai cynrychiolwyr o’r Wicipedia Cymraeg eisiau eu mynychu. Byddai hyn nid yn unig o fudd i’r Wicipedia, ond hefyd ar gyfer datblygu sgiliau’r unigolyn a rhoi cyfle rhwydweithio iddynt – does wybod pa gyfleodd annisgwyl daw yn sgil hyn. Enghreifftiau yw Wikipedia mewn addysg, Hyfforddi’r Hyfforddwyr, Ffotograffiaeth, Hawlfraint ayyb.--Ben Bore (sgwrs) 20:33, 16 Awst 2012 (UTC)[ateb]