William Bowen Rowlands

cyfreithiwr, gwleidydd (1837-1906)

Roedd Y Barnwr William Bowen Rowlands KC (18364 Medi 1906) yn athro, clerigwr, cyfreithiwr ac yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceredigion[1]

William Bowen Rowlands
Ganwyd1837 Edit this on Wikidata
Hwlffordd Edit this on Wikidata
Bu farw4 Medi 1906, 1906 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, cyfreithiwr, bargyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata

Bywyd Personol golygu

Ganwyd Rowlands yn Hwlffordd ym 1836 yn fab hynaf i Thomas Rowlands, Pensaer ac adeiladwr ac Anne Bowen ei wraig. Fei bedyddwyd ar 4 Chwefror 1836 yn Eglwys St Thomas Hwlffordd [2]

Cafodd ei addysgu mewn ysgol breifat o'r enw Gough House yn Chelsea cyn mynd ymlaen i Goleg yr Iesu, Rhydychen lle graddiodd BA ym 1859 ac MA ym 1865 Ym 1864 priododd Adeline Morgan merch y Dr J D Brown, Hwlffordd

Gyrfa golygu

Ym 1864 cafodd Rowlands ei ordeinio'n diacon yn Eglwys Loegr a'i benodi'n giwrad Eglwys Hwlffordd ac yn brifathro Ysgol Ramadeg Hwlffordd. Ar ôl cyfnod o bedair blynedd yn y swyddi ymddiswyddodd gan fynd i astudio'r gyfraith yn Gray's Inn gan gael ei alw i'r Bar ym 1871. Cychwynnodd ei yrfa gyfreithiol fel bargyfreithiwr ar gylchdaith De Cymru. Ym 1882 daeth y Gwnsler y Frenhines ac yn feinciwr. Ym 1889 fe'i penodwyd yn drysorydd Gray's Inn ac yn aelod o'r Cyngor Addysg yn y Gyfraith. Ym 1893 fe'i penodwyd yn Gofiadur Abertawe. Ym 1898 fe'i penodwyd yn arweinydd Cylchdaith De Cymru ac ym 1900 fe'i penodwyd yn farnwr llysoedd sirol cylchdaith Penbedw.

Gyrfa Wleidyddol golygu

Yn Etholiad Cyffredinol 1885 cynigiodd ei enw ar gyfer ymgeisyddiaeth y Blaid Ryddfrydol yn Nwyrain Morgannwg gan golli i Alfred Thomas. Ym 1886 bu rwyg yn y Blaid Ryddfrydol ar achos ymreolaeth i'r Iwerddon; yr oedd y Prif Weinidog William Gladstone am ganiatáu lefel o hunan lywodraeth i'r wlad, ond roedd nifer yn ei blaid yn wrthwynebus i'r syniad. Dymchwelwyd y llywodraeth ar yr achos a bu'n rhaid cynnal etholiad arall ym 1886 gyda'r aelodau oedd yn erbyn ymreolaeth yn sefyll fel Rhyddfrydwyr Unoliaethol a oedd yn datgan nad oeddynt am gefnogi llywodraeth newydd a arweiniwyd gan Gladstone nac unrhyw lywodraeth Ryddfrydol oedd am barhau i fygwth dyfodol Undod y Deyrnas Gyfunol. Ymysg yr Unoliaethwyr oedd David Davies, Llandinam Aelod Rhyddfrydol Ceredigion. Gwahoddwyd Rowlands i sefyll dros adain Gladstone o'r Blaid Ryddfrydol[3]. Gan ei fod yn ddyn gweddol anadnabyddus, yn di Gymraeg ac yn aelod o Eglwys Loegr ystyriwyd ei obeithion o ennill yn erbyn ei wrthwynebydd, a oedd yn un o hoelion wyth y byd anghydffurfiol Gymraeg; ond fe lwyddodd i gipio'r sedd o drwch y blewyn.

Parhaodd i gynrychioli'r etholaeth hyd 1895 pan safodd i lawr gan ei fod wedi cael tröedigaeth i achos yr Eglwys Gatholig ac mi fyddai wedi bod bron yn amhosibl i Babydd cael ei ethol yng Nghymru wledig y cyfnod.

Marwolaeth golygu

Bu farw Rowlands yn ei gartref yn Kensington Llundain ym 1906[4] yn 69 mlwydd oeda chladdwyd ei weddillion ym mynwent Mortlake

Cyfeiriadau golygu

  1. Death of Judge Bowen Rowlands Pembrokeshire Herald and General Advertiser 7 Medi 1906 [1] adalwyd 13 Ebrill 2015
  2. "Wales Births and Baptisms, 1541-1907," index, FamilySearch [2] : (adalwyd 13 Ebrill 2015), William Bowen Rowlands, 04 Feb 1836; citing SAINT THOMAS,HAVERFORDWEST,PEMBROKE,WALES, reference ; FHL microfilm 105,143.
  3. Death of Judge Bowen Rowlands. A Famous Parliamentary Fight Recalled Welsh Gazette and West Wales Advertiser - 13 Medi 1906 [3] adalwyd 13 Ebrill 2015
  4. Carmarthen Weekly Reporter 7 Medi 1906 Newyddion t2 [4] adalwyd 13 Ebrill 2015
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
David Davies
Aelod Seneddol Ceredigion
18861895
Olynydd:
Matthew Vaughn-Davies