Roedd William Cashen (1838Mehefin 1912) yn gasglwr llên gwerin Fanaweg, a aned yn Dalby ar Ynys Manaw.

William Cashen
Ganwyd1838 Edit this on Wikidata
Bu farwMehefin 1912 Edit this on Wikidata

Ei hanes golygu

Cafodd ei eni mewn teulu o grofftwyr-bysgotwyr yn Dalby. Symudodd y teulu i fyw ym mhentref Niarbyl a oedd y pryd hynny'n borthladd pysgota bach prysur.

Dim ond yr iaith Fanaweg a siaradai Cashen hyd ei nawfed flwyddyn pan ddechreuodd ddysgu Saesneg yn yr ysgol leol. Ar ôl gorffen yn yr ysgol gweithiodd ar y crofft yn Dalby am gyfnod ac yna aeth yn forwr ar y brig Ada a hwyliai rwng Dulyn a Whitehaven. Yn 19 oed aeth yn forwr ar y cefnfor ac ymelodd â'r Dwyrain Pell gan ymweld ag Awstralia, Tsieina ac ynysoedd Polynesia, ymhlith llefydd eraill. O'r diwedd cafodd ei hun mewn llongddrylliad ar y sgwner Western Trader ond, yn eironig ddigon, ar Traie Fogog ym Mae Peel ar ei ynys enedigol y diwgwyddodd hynny. Cafodd ei gludo i fwthyn gerllaw a'i nyrsio gan ferch y tŷ, Susanna Cowell; priododd y ddau o fewn ychydig. Buont yn byw yn Peel a throes Cashen ei law at bysgota penwaig. Am ddwy flynedd ar bymtheg olaf ei oes bu'n geidwad Castell Peel.

Casglu llên gwerin golygu

Cafodd Cashen ei ysbrydoli gan gyhoeddi The Folk-Lore of the Isle of Man gan A.W. Moore yn 1891 gan fynd ati i sgwennu nodiadau ar lên gwerin a bywyd traddodiadol yr ynys. Defnyddiwyd y cerddi a gasglai Cashen gan Moore yn ei gyfrol Manx Ballads and Music (1896). Bu farw Cashen cyn i'w nodiadau weld golau dydd ond cafodd yr ymgyrchydd dros yr iaith Fanaweg Sophia Morrison y llyfr nodiadau ac fe'u cyhoeddwyd gan Yn Cheshaght Ghailckagh (Cymdeithas yr Iaith Fanaweg) yn 1912.

Llyfryddiaeth golygu

Stephen Miller (gol.), William Cashen's "Manx Folk-Lore" (Onchan, Ynys Manaw, 1993).