William Cornwallis-West
Roedd William Cornwallis West VD YH (20 Mawrth 1835 – 4 Gorffennaf 1917), yn wleidydd Prydeinig.
William Cornwallis-West | |
---|---|
Ganwyd | 20 Mawrth 1835 Fflorens |
Bu farw | 4 Gorffennaf 1917 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, bargyfreithiwr |
Swydd | Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Tad | Frederick Richard West |
Mam | Theresa Whitby |
Priod | Mary Cornwallis-West |
Plant | Daisy von Pless, George Cornwallis-West, Constance Lewis |
Teulu
golyguGanwyd William Cornwallis West yn Fflorens yr Eidal yn fab i Frederick Richard West, mab yr Anrhydeddus Frederick West, mab ieuengaf John West, 2il Iarll De La Warr. Ei fam oedd Theresa, merch John Whitby a Mary Anne Theresa Symonds, ac aeres i ffortiwn yr Admiral William Cornwallis. Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Eton[1]
Gyrfa
golyguCafodd Cornwallis West ei alw i'r Bar yn Lincoln's Inn, ym 1862.
Roedd yn Uchel Siryf Sir Ddinbych ym 1872, yn Arglwydd Raglaw Sir Ddinbych 1872–1917, yn Ynad Heddwch dros Hampshire a Sir Ddinbych ac yn Gyrnol Anrhydeddus ym 4ydd Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Am ei waith fel milwr gwirfoddol dyfarnwyd iddo'r Addurniad Swyddogion Gwirfoddolwyr, (Volunteer Officers' Decoration llythyrau ôl-enwol VD)[2]
Ym 1885 cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol dros Orllewin Sir Ddinbych, sedd a gadwodd hyd 1892. Ym 1895 newidiodd ei gyfenw i Cornwallis-West. Roedd yn byw yng Nghastell Rhuthun, Sir Ddinbych, ac yn Newlands Manor, Milford, Hampshire.
Priodas a phlant
golyguYm 1872 priododd Cornwallis West Mary ("Patsy"), merch y Parchedig Frederick Fitzpatrick. Bu sïon bod Patsy yn cael perthynas gydag Edward Tywysog Cymru[3].
Un o ferched William Cornwallis West a Patsy oedd Daisy, Tywysoges Pless; priododd merch arall, Constance, a Hugh Grosvenor, 2il Dug Westminster. George, mab Cornwallis-West, oedd ail ŵr yr Arglwyddes Randolph Churchill, mam Winston Churchill.
Bu farw Cornwallis-West ym mis Gorffennaf 1917 yn 82 mlwydd oed. Bu farw ei weddw ym mis Gorffennaf 1920.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ http://www.chrisbeetles.com/gallery/cartoons/colonel-william-cornwallis-west-mp.html Archifwyd 2015-08-01 yn y Peiriant Wayback adalwyd 12 Rhagfyr 2014
- ↑ "The London Gazette THE VOLUNTEER OFFICERS' DECORATION WARRANT". The London Gazette. 29 Gorffennaf 1892. Cyrchwyd 16 Mehefin 2018.
- ↑ http://www.bournemouthecho.co.uk/news/features/snapshotsofthepast/4994885.Milford_on_Sea_base_for_Edward_VII_s_lover_Patsy_Cornwallis_West/ adalwyd 12 Rhagfyr 2014
- ↑ "COL CORNWALLIS WEST - Herald of Wales and Monmouthshire Recorder". [s.n.] 1917-07-07. Cyrchwyd 2020-03-24.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol dros Orllewin Sir Ddinbych 1885 – 1892 |
Olynydd: John Herbert Roberts |