William Ellis Jones (Cawrdaf)
Bardd ac awdur o Gymro oedd William Ellis Jones (9 Hydref 1795 – 27 Mawrth 1848), sy'n fwy adnabyddus wrth ei enw barddol Cawrdaf.
William Ellis Jones | |
---|---|
Ffugenw | Cawrdaf |
Ganwyd | 9 Hydref 1795 Aber-erch |
Bu farw | 27 Mawrth 1848 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, arlunydd, argraffydd |
Cyflogwr |
|
Perthnasau | Richard Jones |
- Am bobl eraill o'r enw William Jones, gweler William Jones.
Bywgraffiad
golyguGaned Cawrdaf ym mhlwyf Abererch yn yr hen Sir Gaernarfon (Gwynedd) yn 1795. Daeth yn argraffydd wrth ei alwedigaeth a sefydlodd argraffwasg yn nhref Dolgellau ac felly daeth yn gyfarwydd â rhai o lenorion mawr ei fro, fel Dafydd Ddu Eryri a Dafydd Ionawr. Teithiodd trwy Gymru a Lloegr a hefyd drwy Ffrainc a'r Eidal (peth anghyffredin i rywun o'i ddosbarth yn y cyfnod hwnnw). Yn ei ddyddiau olaf bu'n gweithio yn swyddfa Seren Gomer yng Nghaerfyrddin. Bu farw yn 1848.
Gwaith llenyddol
golyguCyfansoddodd nifer o gerddi yn cynnwys yr awdl fuddugol yn eisteddfod Aberhonddu 1824 a cherddi eraill, mwy gwerinol, megis 'Hiraeth Cymro am ei Wlad'.
Fel awdur rhyddiaith fe'i cofir am y rhamant arloesol Y Bardd neu'r Meudwy Cymreig (1830). Ar un adeg roedd hon yn cael ei hystyried y nofel Gymraeg gyntaf, ond prin y gellir ei galw yn nofel go iawn, mewn gwirionedd. Mae'n cynnwys disgrifiadau cofiadwy o olygon o fyd natur, megis storm ar y môr, ond pwrpas hyfforddiadol yn null y pregethwyr sydd i'r llyfr, ac nid yw'r cynllun yn foddhaol.
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Llyfryddiaeth
golygu- Y Bardd neu'r Meudwy Cymreig (1830; ail argraffiad, H. Humphreys, Caernarfon, d.d., tua 1860)
- Gweithoedd Cawrdaf (1851). Detholiad o gerddi a rhyddiaith a gyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth.