William Ellis Jones (Cawrdaf)

bardd a llenor

Bardd ac awdur o Gymro oedd William Ellis Jones (9 Hydref 179527 Mawrth 1848), sy'n fwy adnabyddus wrth ei enw barddol Cawrdaf.

William Ellis Jones
FfugenwCawrdaf Edit this on Wikidata
Ganwyd9 Hydref 1795 Edit this on Wikidata
Aber-erch Edit this on Wikidata
Bu farw27 Mawrth 1848 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, arlunydd, argraffydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PerthnasauRichard Jones Edit this on Wikidata
Am bobl eraill o'r enw William Jones, gweler William Jones.

Bywgraffiad

golygu

Ganed Cawrdaf ym mhlwyf Abererch yn yr hen Sir Gaernarfon (Gwynedd) yn 1795. Daeth yn argraffydd wrth ei alwedigaeth a sefydlodd argraffwasg yn nhref Dolgellau ac felly daeth yn gyfarwydd â rhai o lenorion mawr ei fro, fel Dafydd Ddu Eryri a Dafydd Ionawr. Teithiodd trwy Gymru a Lloegr a hefyd drwy Ffrainc a'r Eidal (peth anghyffredin i rywun o'i ddosbarth yn y cyfnod hwnnw). Yn ei ddyddiau olaf bu'n gweithio yn swyddfa Seren Gomer yng Nghaerfyrddin. Bu farw yn 1848.

Gwaith llenyddol

golygu

Cyfansoddodd nifer o gerddi yn cynnwys yr awdl fuddugol yn eisteddfod Aberhonddu 1824 a cherddi eraill, mwy gwerinol, megis 'Hiraeth Cymro am ei Wlad'.

Fel awdur rhyddiaith fe'i cofir am y rhamant arloesol Y Bardd neu'r Meudwy Cymreig (1830). Ar un adeg roedd hon yn cael ei hystyried y nofel Gymraeg gyntaf, ond prin y gellir ei galw yn nofel go iawn, mewn gwirionedd. Mae'n cynnwys disgrifiadau cofiadwy o olygon o fyd natur, megis storm ar y môr, ond pwrpas hyfforddiadol yn null y pregethwyr sydd i'r llyfr, ac nid yw'r cynllun yn foddhaol.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Y Bardd neu'r Meudwy Cymreig (1830; ail argraffiad, H. Humphreys, Caernarfon, d.d., tua 1860)
  • Gweithoedd Cawrdaf (1851). Detholiad o gerddi a rhyddiaith a gyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth.