William Frame
Pensaer o Sais oedd William Frame (1848 – Ebrill 1906), a weithiodd yng Nghaerdydd yn gyntaf o dan William Burges, o 1868 ymalen, ac o 1881 hyd 1906 fel olynydd Burges yn brif pensaer i John Crichton-Stuart, 3ydd Ardalydd Bute. Ar ôl prentisiaeth o bum mlynedd yn Trowbridge, Wiltshire, daeth Frame yn gynorthwywr i John Prichard yn Llandaf. Ym 1868 aeth i weithio i William Burges ac ym 1876 ef oedd yn goruchwylio dros atgyweiriad Castell Coch.
William Frame | |
---|---|
Ganwyd | 1848 Castell Caerdydd |
Bu farw | Ebrill 1906 Castell Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | pensaer |
Adnabyddus am | Adeilad y Pierhead |
Wedi marwolaeth Burges ym 1881 daeth Frame yn brif pensaer Ardalydd Bute a parhaodd yn y swydd tan ei farwolaeth. Frame a gynlluniodd Wal yr Anifeiliaid, a safai o flaen Castell Caerdydd yn wreiddiol, yn seiliedig ar syniad gan ei ragflaenydd. Ym 1896 cynlluniodd Frame ei gampwaith, Adeilad y Pierhead yn nociau Caerdydd, ar gyfer Cwmni Dociau Bute. Cafodd lawer o waith hefyd ar ystadau Bute yn yr Alban.[1]
|
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) William Frame. Dictionary of Scottish Architects. Adalwyd ar 14 Rhagfyr 2013.