Adeilad rhestredig Gradd I yng Nghaerdydd yw Adeilad y Pierhead (a elwir weithiau yn syml yn y Pierhead, er enghraifft ar y wefan swyddogol). Saif ym Mae Caerdydd, gyferbyn ag adeilad y Senedd. Mae'n eiddo i'r Cynulliad Cenedlaethol a cheir arddangosfa am hanes Cymru a gwaith y Cynulliad oddi'i mewn.
Codwyd yr adeilad o 1896 i 1897 i gynlluniau William Frame, pensaer Ardalydd Bute, fel swyddfeydd ar gyfer Cwmni Dociau Bute.[1] (Ailenwyd hwn i Gwmni Rheilffordd Caerdydd ym 1897.)[2] Fe'i cynlluniwyd yn arddull adfywiedig y Dadeni Ffrengig gyda briciau coch a terracotta a wnaed gan J. C. Edwards o Acrefair, ger Rhiwabon, Wrecsam.[3] Ar y ffasâd gorllewinol ceir panel terracotta â llong, peiriant rheilffordd, arbeisiau Morgannwg ac Ardalyddion Bute ac arwyddair Cwmni Rheilffordd Caerdydd, WRTH DDŴR A THÂN.[4]
Prynwyd Cwmni Rheilffordd Caerdydd gan Reilffordd Great Western ym 1922; parhaodd yr adeilad fel swyddfeydd trwy gydol hyn a gwladeiddio'r rheilffyrdd ym 1947. Wedi hynny bu amryw o gyrff gwladol yn ei defnyddio, gan gynnwys Associated British Ports yn y 1970au.[2] Ym 1973 gwerthodd British Rail fecanwaith y cloc i gasglwr yn America; fe'i dychwelwyd i Gaerdydd yn 2005 ac ers 2011 y mae wedi ffurfio rhan o waith celf yn Heol Eglwys Fair gan yr artist Marianne Forrest.[5]
Ym 1998 trosglwyddwyd Adeilad y Pierhead i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.[2] Agorodd i'r cyhoedd fel canolfan ymwelwyr y Cynulliad yn 2001 ac fe adnewyddwyd yr arddangosfa yn 2010.[3] Oherwydd y tŵr cloc amlwg cyfeirir at adeilad y Pierhead ambell waith fel "Big Ben Cymru"[2] ac y mae i'w gweld yn y cefndir yn narllediadau newyddion Cymreig y BBC ac HTV.