John Prichard
pensaer
Pensaer o Gymro oedd John Prichard (6 Mai 1817 - 13 Hydref 1886). Gwnaeth lawer o waith ar adfer eglwysi, gan arbenigo yn y dull Neo-Gothig.
John Prichard | |
---|---|
Ganwyd | 6 Mai 1817 Llan-gan |
Bu farw | 13 Hydref 1886 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | pensaer |
Roedd John Prichard yn fab i Richard Prichard, rheithor Llangan, Morgannwg. Sefydlodd fusnes fel pensaer yn Llandaf, Caerdydd, a daeth yn bensaer i Esgobaeth Llandaf. Rhwng 1852 a 1863, bu mewn partneriaeth a John Pollard Seddon.
Adeiladau
golygu- Eglwys Gadeiriol Llandaf, Llandaf (1843–69) adfer.
- Nazareth House, Caerdydd (1851), comisiwn gan John Crichton-Stuart, 3ydd Ardalydd Bute.
- Eglwys y Groes Sanctaidd, Y Bont-faen (1850–2), adfer.
- Eglwys Sant Mihangel, Cwmafon (1851).
- Eglwys y Sentiau Julius ac Aaron, Llanharan (1856–9), adfer.
- Ettington Manor, Stratford-upon-Avon (1858-1862), adfer.
- Eglwys Dewi Sant, Caerdydd (1860–2) (cynllun gwreiddiol).
- Eglwys y Santes Fererid, Y Rhath, Caerdydd (1869–70), comisiynwyd gan John Crichton-Stuart, 3ydd Ardalydd Bute.
- Eglwys Santes Catrin, Baglan (1875–82), adfer.
- Eglwys Santes Fair, Nolton, Pen-y-bont ar Ogwr (cwblhawyd), adeiladu.
- Eglwys Sant Ioan, Maes Kensington, Beechwood, Casnewydd.