William Fuller-Maitland
Roedd William Fuller-Maitland (6 Mai, 1844 - 15 Tachwedd, 1932) yn fonheddwr Eingl-gymreig, yn gasglwr celf, yn gricedwr ac yn wleidydd Rhyddfrydol a gynrychiolodd Sir Frycheiniog yn Nhŷ'r Cyffredin o 1875 i 1895.
William Fuller-Maitland | |
---|---|
Ganwyd | 6 Mai 1844 |
Bu farw | 15 Tachwedd 1932 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cricedwr, gwleidydd |
Swydd | Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Tad | William Fuller Maitland |
Mam | Lydia Prescott |
Priod | Evelyn Coulston Gardner, Frances Maitland Halford |
Plant | William Allan Fuller Maitland, Lydia Susan Fuller Maitland, Richard Evelyn Fuller Maitland, Robert Prescott Fuller Maitland |
Chwaraeon |
Bywyd cynnar
golyguCafodd Fuller-Maitland eni yn Neuadd Stansted, Essex yn fab hynaf i William Fuller Maitland, o Stansted, a'r Garth, Aberhonddu a Lydia (née Prescott) ei wraig. Roedd ei dad yn gasglwr celf o fri a aeth ati i ail-adeiladu Neuadd Stansted fel cartref i'w casgliad, ond y bu farw cyn iddo gael cyfle i'w fwynhau.
Cafodd Fuller Maitland ei addysgu yng Ngholeg Brighton ac yn Ysgol Harrow, lle bu'n aelod o'r XI criced am bedair blynedd, ac yng Ngholeg Eglwys Crist, Rhydychen.
Gyrfa criced
golyguTra yn Rhydychen bu Fuller-Maitland yn chwarae criced i'r Brifysgol lle'r oedd yn cael ei gydnabod fel bowliwr dinistriol. Ym 1864 cymerodd 8 am 58 erbyn MCC, 8 am 48 yn erbyn Surrey ac yn y gêm y Brifysgol cymerodd pedair wiced ym mhob batiad gan sicrhau buddugoliaeth i Rydychen. Ym 1865 cymerodd 4 wiced ym mhob batiad eto yn gêm y Brifysgol, a chymerodd 6 am 100 a 6 am 35 yn erbyn Surrey. Chwaraeodd yn yr un gemau ym 1866, ond nid oedd ei gyfanswm wiced mor uchel. Ym 1867 cymerodd 5 am 117 yn erbyn Surrey. Wedi hynny bu'n chware i Glwb Criced Marylebone ac i nifer o glybiau dosbarth cyntaf eraill gan gynnwys tîm y bonheddwyr yn yr ornest Gentlemen v Players, Gogledd y Tafwys a I Zingari. Bu hefyd yn cynrychioli De Cymru, Bishops Stortford ac Essex.
Roedd Fuller-Maitland yn fowliwr araf braich dde a chymerodd 123 wiced dosbarth uchaf ar gyfartaledd o 15.72 a gyda pherfformiad gorau o 8 am 48. Roedd yn fatiwr dde a chwaraeodd 62 batiad mewn 38 gornest dosbarth uchaf gyda chyfartaledd o 13.85 a sgôr uchaf o 61.[1]
Gyrfa wleidyddol
golyguRoedd Fuller-Maitland yn ynad heddwch ar feinciau Sir Frycheiniog ac Essex a bu'n Ddirprwy Raglaw Sir Frycheiniog.
Safodd fel ymgeisydd Rhyddfrydol yn etholaeth Sir Frycheiniog yn etholiad cyffredinol 1874 yn erbyn yr ymgeisydd Ceidwadol Yr Anrhydeddus Godfrey Charles Morgan, ond bu'n aflwyddiannus. Ym 1875 dyrchafwyd Morgan i Dŷ'r Arglwyddi fel yr Arglwydd Tredegar a chynhaliwyd isetholiad i ganfod olynydd iddo. Safodd Fuller-Maitland dros yr achos Rhyddfrydol eto gan gipio'r sedd[2]. Daliodd ei afael ar y sedd hyd ei ymddeoliad o'r senedd ar adeg etholiad cyffredinol 1895.
Bywyd personol
golyguPriododd Fuller-Maitland yr Anrh. Evelyn Coulstoun Gardner, merch 3ydd Barwn Gardner ym 1881, bu iddynt un mab ac un ferch; bu farw'r mab yn y Rhyfel Byd Cyntaf[3]. Wedi marwolaeth ei wraig gyntaf ym 1902 priododd a Frances, merch Alfred S. Walford ym 1911[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cricket Archive William Maitland [1] adalwyd 27 Mehefin 2015
- ↑ Y Dydd 28 Mai 1875 Brycheiniog am Byth[2] adalwyd 27 Mehefin 2015
- ↑ Brecon and Radnor Express 8 Hydref 1914 Mr William Fuller-Maitland, of Stansted Hall, Essex, late M.P. for Brecon, was informed on Mon- day that his heir, Captain Wm. Allen Fuller- Maitland, Coldstream Guards, has been killed in action in France [3] adalwyd 27 Mehefin 2015
- ↑ ‘FULLER-MAITLAND, William’, Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2015; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, April 2014 [4], adalwyd drwy docyn darllenydd LlGC 27 Mehefin 2015
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Godfrey Morgan |
Sir Frycheiniog 1858 – 1875 |
Olynydd: Charles Morley |