Godfrey Morgan, Is-iarll 1af Tredegar
Roedd Godfrey Charles Morgan, Is-iarll 1af Tredegar (28 Ebrill 1831 – 11 Mawrth 1913) yn filwr Prydeinig, gwleidydd Cymreig ac aelod o bendefigaeth Prydain. Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceidwadol Sir Frycheiniog rhwng 1858 a 1875.[1]
Godfrey Morgan, Is-iarll 1af Tredegar | |
---|---|
Ganwyd | 28 Ebrill 1831 Castell Rhiwperra |
Bu farw | 11 Mawrth 1913 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig, aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Tad | Charles Morgan Robinson Morgan |
Mam | Rosamund Mundy |
Cefndir
golyguGanwyd Morgan yng Nghastell Rhiwpera Machen Isaf yn ail fab i Charles Morgan Robinson Morgan, Barwn 1af Tredegar a’i wraig Rosamund, merch y Cadfridog Godfrey Basil Mundy. Roedd yn frawd i’r Aelodau Seneddol Charles Rodney Morgan a Frederick Courtenay Morgan
Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Eton gan adael yr ysgol ym 1848 i ymuno a’r fyddin.
Ni fu’n briod. Cyn mynd i ymladd yn y Crimea roedd Morgan wedi dyweddïo, ond priododd ei gariad dyn arall yn ei absenoldeb.
Gyrfa filwrol
golyguYm 1849 comisiynwyd Morgan i 17eg catrawd y Gwaywyr. Dyrchafwyd ef yn is-gapten ym 1850 ac yn gapten ym 1853.
Bu’n ymladd yn Rhyfel y Crimea gan chware rhan yn Hyrddiad y Frigâd Ysgafn ym Mrwydr Balaklava ar 28 Hydref 1854[2]. Ef oedd un o’r unig ddau swyddog o’i gatrawd i ddychwelyd o’r hyrddiad heb anaf corfforol. Wedi’r hyrddiad aeth yn sâl ac fe’i danfonwyd i ysbyty Scutari, Istanbul cyn cael ei ryddhau o’r fyddin ym mis Ionawr 1855. Mewn llythyr i’w fam mae’n beio’r salwch ar olygfeydd brawychus o laddfa a thywallt gwaed[1].
Gwasanaethodd fel Uwchgapten Iwmyn Brenhinol Sir Gaerloyw, Cyrnol anrhydeddus Peirianyddion Brenhinol Sir Fynwy a llywydd Cymdeithas Byddin Diriogaethol Sir Fynwy.
Gyrfa sifil
golyguRoedd Morgan yn gadeirydd Cwmni Dociau Alexandra Casnewydd [3] ac yn gadeirydd siambr fasnach y dref. Ar farwolaeth ei dad, etifeddodd ystâd a buddiannau diwydiannol a masnachol sylweddol. Bu yn hael gyda rhoddion o’i dir i achosion crefyddol a dyngarol. Ymysg ei rhoddion mwyaf sylweddol bu safleoedd Prifysgol Caerdydd [4]; Ysbyty Brenhinol Gwent, Casnewydd a thiroedd athletau Casnewydd.
Bu’n ynad heddwch ar feinciau Siroedd Brycheiniog Mynwy a Morgannwg [5]
Cymerodd ddiddordeb mewn hyrwyddo dulliau amaethyddol newydd, gan noddi â sioe amaethyddol Tredegar a bridio anifeiliaid a cheffylau gwedd ym Mharc Tredegar. Bu'n llywydd Clwb Smithfield, Cymdeithas Amaethyddol Caerfaddon a’r Gorllewin, y Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol, y Gymdeithas Ceffylau Gwedd a’r Gymdeithas Ceffylau Hacni.
Yn ddiweddarach, fe ddatblygodd ddiddordeb mewn archeoleg a hynafiaethau, gan wasanaethu fel llywydd Cymdeithas Archeolegol y Cambrian. Bu’n llywydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymrodorion [6].
Gyrfa wleidyddol
golyguAr farwolaeth Syr Joseph Bailey ym 1858 etholwyd Morgan yn AS ceidwadol etholaeth Sir Frycheiniog mewn is etholiad[7]. Llwyddodd i gadw'r sedd hyd 1875 pan olynodd ei ddiweddar dad i Dŷ’r Arglwyddi fel ail Farwn Tredegar ym 1875. Ym mis Rhagfyr 1905 fe’i dyrchafwyd yn Is-iarll.
Gwasanaethodd fel Siryf Sir Fynwy ym 1858 ac Arglwydd Raglaw Sir Fynwy o 1899 hyd ei farwolaeth. Fe’i hetholwyd fel cynghorydd ac fel henadur i Gyngor Sir Fynwy gan wasanaethu fel cadeirydd y cyngor 1902-1903.
Roedd yn Rhyddfreiniwr bwrdeistrefi Caerdydd a Chasnewydd [8].
Marwolaeth
golyguBu farw o’r ffliw yn ei gartref Tŷ Tredegar, Casnewydd yn 81 mlwydd oed orwedd ym meddgor y teulu yn Eglwys Basaleg. Gan iddo farw yn ddibriod daeth yr is-iarllaeth i ben. Fe’i holynwyd i’r farwniaeth gan ei nai Courtney Charles Evan Morgan [9] (a grëwyd yn is-iarll 1af Tredegar, o’r ail greadigaeth, ym 1926)[10]
Dadorchuddiwyd cerflun o Is-iarll Tredegar ym 1909 yng Ngerddi'r Orsedd, Parc Cathays, Caerdydd. Y cerflunydd oedd Syr William Goscombe John [11].
-
Is-iarll 1af Tredegar
-
Tŷ Tredegar
-
Beddgor teulu Morgan, Eglwys Basaleg
-
Godfrey Morgan Is-iarll 1af Tredegar
Cyhoeddiadau
golyguGodfrey Charles Morgan The Wit and wisdom of Lord Tredegar Cyhoeddwyd 1911 Western Mail, Caerdydd[12]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Chris Williams, ‘Morgan, Godfrey Charles, Viscount Tredegar (1831–1913)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, May 2011, adalwyd 28 Awst 2017
- ↑ TREDEGAR’, Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2016; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, April 2014, adalwyd 28 Awst 2017
- ↑ "ALEXANDRA DOCKS - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1906-02-17. Cyrchwyd 2017-08-28.
- ↑ "LordTredegarsGift - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1909-06-01. Cyrchwyd 2017-08-28.
- ↑ "The Late Viscount Tredegar - The Brecon County Times Neath Gazette and General Advertiser for the Counties of Brecon Carmarthen Radnor Monmouth Glamorgan Cardigan Montgomery Hereford". William Henry Clark. 1913-03-13. Cyrchwyd 2017-08-28.
- ↑ "SCOEITY OF CYMMRODORION - Welsh Gazette and West Wales Advertiser". George Rees. 1906-11-29. Cyrchwyd 2017-08-28.
- ↑ Williams, William Retlaw, The parliamentary history of the Principality of Wales, from the earliest times to the present day, 1541-1895 adalwyd 28 Awst 2017
- ↑ "Viscount Tredegar a Freeman of Newport - Abergavenny Chronicle". Abergavenny Chronicle Ltd. 1909-06-11. Cyrchwyd 2017-08-28.
- ↑ "Tredegar Family Honours - The Brecon County Times Neath Gazette and General Advertiser for the Counties of Brecon Carmarthen Radnor Monmouth Glamorgan Cardigan Montgomery Hereford". William Henry Clark. 1913-07-17. Cyrchwyd 2017-08-28.
- ↑ Y Bywgraffiadur ‘’ MORGAN (TEULU), Tredegar Park, etc., sir Fynwy adalwyd 28 Awst 2017
- ↑ "THE UNVEILING CEREMONY - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1909-10-30. Cyrchwyd 2017-08-28.
- ↑ archive org Godfrey Charles Morgan The Wit and wisdom of Lord Tredegar''
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Joseph Bailey |
Aelod Seneddol Sir Frycheiniog 1858-1875 |
Olynydd: William Fuller-Maitland |
Teitlau Pendefigaeth/Bonheddig | ||
Rhagflaenydd: Charles Morgan Robinson Morgan |
Barwn Tredegar 1875 – 1913 |
Olynydd: Courtney Charles Evan Morgan |
Teitlau Pendefigaeth/Bonheddig | ||
Rhagflaenydd: Teitl newydd |
Is-iarll Tredegar 1905 – 1913 |
Olynydd: Diflanedig (ail greu 1926) |