Mathau Goch
Un o filwyr enwocaf Cymru yn y 15g oedd Mathau Goch neu Mathew Gough (1386 - 6 Gorffennaf, 1450). Chwaraeodd ran flaenllaw yn rhan olaf y Rhyfel Can Mlynedd yn Ffrainc. Dathlwyd ei wrhydri gan feirdd Cymru, yn cynnwys Lewys Glyn Cothi, Guto'r Glyn ac Ieuan Deulwyn.[1]
Mathau Goch | |
---|---|
Ganwyd | c. 1390 Maelor |
Bu farw | 5 Gorffennaf 1450 Pont Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | milwr |
Cysylltir gyda | Brwydr Formigny |
Bywgraffiad
golyguGaned Mathau yn 1386 yn fab i Owain Goch (neu Gough), beili Hanmer yng nghantref Maelor, Dyffryn Dyfrdwy (Sir y Fflint ar y pryd, Wrecsam heddiw). Roedd ei fam yn ferch i David Hanmer. Ychydig a wyddys am ei hanes cynnar. Rywbryd tua 1420, efallai, aeth drosodd i Ffrainc fel milwr yng ngwasanaeth John Talbot (Iarll Amwythig yn nes ymlaen). Dyma gyfnod y Deddfau Penyd ar y Cymry, a basiwyd yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr, a'r unig ffordd i ddianc rhag eu cyfyngiadau i nifer o Gymry ifainc oedd trwy fynd yn filwr hur yn rhyfeloedd Ffrainc.[1]
Daeth Mathau i amlygrwydd ym mrwydrau Cravant (1423) a Verneuil (1424) a chafodd ei hun yn gapten ar nifer sylweddol o farchogion a milwyr traed. Bu'n gapten ar dref gaerog Laval yn 1428. Ildiodd Beaugency i luoedd Jeanne d'Arc yn 1429, ar ôl gwarchae gan lu sylweddol mwy. Bu'n gapten ar ôl hynny ar sawl garsiwn arall, yn cynnwys Le Mans a Bayeux yn Normandi. Cafodd Mathau ei ddal gan y Ffrancod yn 1432 a cheir cywyddau gan y beirdd, yn galw am godi'r arian i dalu ei bridwerth (ransom), yr hyn a godwyd yn fuan. Dyma ran agoriadol cywydd i Fathau gan Guto'r Glyn:
- Pan sonier i'n amser ni
- Am undyn yn Normandi,
- Mathau Goch, fab maeth y gwin,
- Biau'r gair yn bwrw gwerin [h.y. milwyr].[2]
Fel milwyr proffesiynol eraill yn ei gyfnod, roedd yn barod i newid ochr. Ar ôl Cytundeb Tours (1445) cafwyd cadoediad rhwng Coron Lloegr a Ffrainc, a threuliodd Mathau gyfnod yn gwasanaethu brenin Ffrainc gan arwain catrawd i ymladd yn Alsace a Lorraine yn erbyn y Swisiaid. Daeth y Ffrancod i'w alw yn Mattagau ac i edmygu ei ddewrder.[1]
Yn 1450 bu'n bresennol ym mrwydr trychinebus Formigny. Roedd dyddiau grym Lloegr yn Ffrainc bron ar ben. Syrthiodd nifer o filwyr y Saeson, o sawl gwlad, yn y frwydr. Llwyddodd Mathau a 1500 o farchogion i dorri trwy rengoedd y Ffrancod a dianc, ond daliwyd ei gyfaill William Herbert ac eraill. Ar 16 Mai, 1450, bu rhaid i Mathau ildio Bayeux. Cafodd ef a'i wŷr, ynghyd â channoedd o ferched a phlant, ganiatâd gan y Ffrancod i ymadael, ond heb eu harfau.[1]
Daeth i Lundain ar awr argyfyngus yn hanes Lloegr. Gyda'r wlad honno a Chymru yn cael ei rhwygo gan Rhyfeloedd y Rhosynnau, cododd Jack Cade i arwain gwŷr Caint mewn gwrthryfel poblogaidd yn erbyn y Goron. Ymsododd 20,000 o wŷr Caint ar Lundain. Lladdwyd Mathau ar noson y 5/6ed o Orffennaf yn amddiffyn Pont Llundain. Mawr fu'r galar ar ei ôl yng Nghymru. Yn ôl William o Gaerwrangon, mewn cerdd yn yr iaith Ladin:
- Morte Matthei Goghe
- Cambria clamitavit, Oghe!
- ('Ar farwolaeth Mathew Goch, / Yn ei galar, criai Cymru "Och!"')[1]
Llyfryddiaeth
golygu- H. T. Evans, 'Wales and the French Wars - Mathew Gough', Wales and the Wars of the Roses (Llundain, 1915; arg. newydd 1998).