William Langland

llenor Seisnig

Bardd o Sais oedd William Langland (c. 1330 – c. 1400) a briodolir y gerdd Saesneg Canol Piers Plowman (tua 1362) iddo. Traethiad alegorïaidd o hanes Cristnogaeth yw Piers Plowman, gwaith a gafodd gryn ddylanwad ar lenyddiaeth Saesneg Canol a llên Lloegr hyd at gyfnod y Stiwartiaid, yr hyn a elwir traddodiad Piers Plowman.

William Langland
Ganwydc. 1332, 1332 Edit this on Wikidata
Gorllewin Canolbarth Lloegr Edit this on Wikidata
Bu farwc. 1386, 1400 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Royal Grammar School Worcester Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, bardd Edit this on Wikidata

Egyr Piers Plowman gyda'r bardd yn crwydro Bryniau Malvern, ac oherwydd hynny credir iddo hanu o'r ardal ger y Mers, o bosib Ledbury neu Colwall yn Swydd Henffordd, Cleobury Mortimer yn Swydd Amwythig, neu Malvern yn Swydd Gaerwrangon. Mae ambell ysgolhaig wedi sylwi ar debygrwydd rhwng cerfiadau ar seddau côr ym Mhriordy Sant Giles, Little Malvern, a delweddaeth y gerdd.

Dengys y gerdd wybodaeth sylweddol o hanes y ffydd Gristnogol, y ffurfwasanaeth, yr Ysgrythur Lân, ac esboniadaeth Feiblaidd draddodiadol, yn ogystal â chrap ar egwyddorion diwinyddol sylfaenol yr Eglwys. Am hynny, awgrymir iddo weithio mewn swydd eglwysig, ac o bosib wedi derbyn ei addysg yn ysgol y Benedictiaid yn Great Malvern.[1] Ceir cyfeiriadau at nifer o leoedd yn Llundain hefyd – gan gynnwys Cornhill, Cock Lane, Cheap, a Court of the Arches – sy'n awgrymu iddo dreulio digon o'i oes yn y ddinas honno.

Bywgraffiad golygu

Oherwydd y diffyg tystiolaeth am yr un a gyfansoddodd Piers Plowman, ymdrechasent ysgolheigion lunio, neu ddychmygu, bywgraffiad tybiedig ohono ar sail nodweddion a manylion ei farddoniaeth. Os cymerir yn ganiataol taw atgof neu waith lled-hunangofiannol ydy'r gerdd, fel y gwnaethant sawl beirniad ac hanesydd llenyddol yn y 19g a dechrau'r 20g, clerigwr o'r urddau lleiaf, yn briod i ferch o'r enw Kit, yn hanu o Orllewin Canolbarth Lloegr ac yn byw yn Llundain oedd William Langland.

Enw golygu

Mae sawl llawysgrif o'r gerdd yn nodi taw William oedd enw bedydd y bardd, neu o leiaf yr adroddwr, drwy'r teitl Incipit visio Willelmi. Wrth ei annerch, mae cymeriadau'r breuddwyd yn ei alw'n William, neu ffurfiau anwes megis Wille. Ymddengys ei gyfenw traddodiadol, Langland neu Longlond, am y tro cyntaf yn y 15g mewn nodiadau a ysgrifennid gan berchnogion y llawysgrifau. Defnyddiwyd yr enw Langelande gan John Bale yn ei Scriptorum illustrium majoris Britanniae...Catalogus (1557–59), er i'r gwaith hwnnw gofnodi'n anghywir yr enw bedydd Robert, a honni ar gam taw un o ddilynwyr John Wycliffe ydoedd.[2]

Tarddiad golygu

Yn ei waith beirniadol Piers Plowman: The Evidence for Authorship (1965), cyhudda George Kane awduron eraill o greu bucheddau amheus o Langland ar sail ei gerdd. Tybiodd Kane fod llawysgrif Testun C, a gedwir yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, o bosib yn wir yn ei haeriad taw mab Stacy de Rokayle o Shipton-under-Wychwood, Swydd Rydychen, oedd Langland.

Cyfeiriadau at Lundain golygu

Oherwydd yr amryw gyfeiriadau at leoedd yn Llundain sydd i'w canfod yn Piers Plowman, mae'n debyg i Langland dreulio digon o'i oes yn y ddinas honno. Ymgartrefa'r cymeriad Will gyda'i wraig a'u merch yn Cornhill, un o brif dramwyfeydd canol Llundain yn yr Oesoedd Canol. Mae'r gerdd hefyd yn cyfeirio at yr ardal golau coch Cock Lane, at farchnad Cheap, at Court of the Arches yn eglwys St Mary-le-Bow, ac at Westminster.

Galwedigaeth golygu

Mae'r wybodaeth a ddangosir gan y bardd yn awgrymu'n gryf iddo fod yn glerigwr. Credir iddo hel ei damaid yn Llundain trwy ganu'r offeren a chopïo dogfennau.

Ffydd a diwinyddiaeth golygu

Barddoniaeth golygu

Piers Plowman ydy'r unig waith a briodolir yn sicr i'r bardd a adnabyddir gan yr enw William Langland. Cerdd ar fydr cyflythrennol di-odl ydyw, sy'n traethu'n alegorïaidd hanes y ffydd Gristnogol drwy gyfres o freuddwydion gweledigaethol sy'n ymdrin â phynciau cymdeithasol ac ysbrydol yn Lloegr yr Oesoedd Canol. Ystyrir Piers Plowman ymhlith y gweithiau pwysicaf yn hanes barddoniaeth Saesneg Lloegr, a'r gerdd wychaf yn yr iaith Saesneg Canol ac eithrio The Canterbury Tales gan Geoffrey Chaucer, a gyfansoddwyd yn yr un cyfnod.

Tri fersiwn o'r gerdd sydd: testun A, ffurf fer arni sy'n dyddio o'r 1360au; testun B, diwygiad ac estyniad o destun A a gyflawnwyd yn niwedd y 1370au; a thestun C, ffurf ar destun B o'r 1380au sydd yn canolbwyntio ar bynciau athrawiaethol y gerdd yn hytrach na'i nodweddion llenyddol. Oherwydd y gwahaniaethau rhwng testun C a'r ddau fersiwn arall, mae'n bosib taw gwaith awdur gwahanol ydyw.

Gweithiau a briodolir iddo ar gam golygu

Credodd yr ieithegwr Walter William Skeat taw gwaith yr un bardd oJedd Richard the Redeless, ac argraffwyd y gerdd honno yn yr un gyfrol â'r testunau cyfochrog a olygwyd ganddo, Parallel Extracts from Twenty-nine Manuscripts of Piers Plowman (1866). Bellach, gwrthbrofwyd yr awduraeth honedig hon gan y ffaith bod Richard the Redeless yn rhan o'r gerdd Mum and the Sothsegger, sy'n dyddio o gychwyn y 15g.

Damcaniaeth y sawl awdur golygu

Yn ôl ambell ysgolhaig, nid gwaith un awdur yn unig oedd Piers Plowman. Credir iddi gael ei chyfansoddi gan hyd at bum bardd.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) William Langland. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 15 Mehefin 2019.
  2. J. J. Jusserand, Piers Plowman: A Contribution to the History of English Mysticism (Efrog Newydd: G. P. Putnam's Sons, 1894), tt. 59–60.

Darllen pellach golygu

  • David Aers, Salvation and Sin : Augustine, Langland, and Fourteenth-Century Theology (Notre Dame, Indiana: University of Notre Dame Press, 2009).
  • John M. Bowers, Chaucer and Langland: The Antagonistic Tradition (Notre Dame, Indiana: University of Notre Dame Press, 2007).
  • E. Talbot Donaldson, Piers Plowman: The C-Text and its Poet (Hamden, Connecticut: Archon, 1966).
  • Ralph Hanna, William Langland (Aldershot, Hampshire: Ashgate, 1993).
  • John Norton-Smith, William Langland (Leiden: Brill, 1983).
  • Derek Albert Pearsall, William Langland, William Blake, and the Poetry of Hope (Kalamazoo, Michigan: Medieval Institute Publications, Prifysgol Gorllewin Michigan, 2003).
  • Helen Phillips, Langland, the Mystics, and the Medieval English Religious Tradition (Caergrawnt: Brewer, 1990).
  • William M. Ryan, William Langland (Efrog Newydd: Twayne Publishers, 1968).
  • A. V. C. Schmidt, The Clerkly Maker: Langland's Poetic Art (Caergrawnt: Brewer, 1987).