William Morris (1834–1896)

Pensaer, dylunydd, arlunydd, bardd a sosialydd Seisnig oedd William Morris (24 Mawrth 18343 Hydref 1896).

William Morris
Ganwyd24 Mawrth 1834 Edit this on Wikidata
Walthamstow, Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw3 Hydref 1896 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethpensaer, bardd, cynllunydd, dylunydd graffig, arlunydd, awdur ffuglen wyddonol, gwleidydd, darlunydd, rhyddieithwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amY Tŷ Coch, A Dream of John Ball, Willow Boughs, Strawberry Thief Edit this on Wikidata
ArddullY celfyddydau addurnol Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolFfederasiwn Democrataidd Sosialaidd, Socialist League Edit this on Wikidata
Mudiady Mudiad Celf a Chrefft, Symbolaeth (celf) Edit this on Wikidata
PriodJane Morris Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://williammorrissociety.org Edit this on Wikidata
William Morris gan George Frederic Watts, 1870
Am bobl eraill o'r un enw, gweler William Morris.

Ganed ef yn Walthamstow, yn fab i William Morris a'i wraig Emma Morris. Aeth i Brifysgol Rhydychen ac yn 1856, daeth yn brentis i'r pensaer Neo-Gothig G. E. Street.

Cynlluniodd Morris gartref i'w deulu, Y Tŷ Coch yn Bexley, Caint, lle trigodd y cwpl ifanc rhwng 1859-1865, cyn symud i Bloomsbury, canol Llundain, mae'r Ty bellach dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ym 1861, sefydlodd Morris gwmni celfyddydau addurnol gydag Edward Burne-Jones, Rossetti, Webb, ac eraill: daeth cwmni Morris, Marshall, Faulkner & Co. yn ffasiynol iawn ac roedd llawer o alw am eu gwaith. Dylanwadodd y cwmni'n fawr ar addurno mewnol drwy gydol y cyfnod Fictoraidd, gyda Morris yn dylunio tapestrïau, papur wal, ffabrigau, dodrefn, a ffenestri lliw. Ym 1875, cymerodd Morris reolaeth lwyr dros y cwmni, a ailenwyd yn Morris & Co.

Er iddo gadw prif gartref yn Llundain, o 1871 Morris enciliodd i dŷ gwledig ar rent sef Kelmscott Manor, Swydd Rydychen. Bu ymweliadau Morris â Gwlad yr Iâ yn ddylanwad mawr arno ac ar y cyd gyda Eiríkr Magnusson cynhyrchodd cyfres o gyfieithiadau Saesneg o'r Sagâu Islandeg.

Cyhoeddodd nifer o gyfrolau o farddoniaeth, ffuglen ac addasiadau o destunau canoloesol, yn cynnwys The Defence of Guenevere and Other Poems (1858), The Earthly Paradise (1868–1870), A Dream of John Ball a News from Nowhere. Sefydlodd y Cynghrair Sosialaidd yn 1884.

Cyfeiriadau

golygu

Gwaith Llenyddol

golygu
 
traethawd Morris's "Printing" gan y Village Press, Chicago, c. 1903

Barddoniaeth, Ffuglen a Thraethodau

golygu
  • The Hollow Land (1856)
  • The Defence of Guenevere, and other Poems (1858)
  • The Life and Death of Jason (1867)
  • The Earthly Paradise (1868–1870)
  • Love is Enough, or The Freeing of Pharamond: A Morality (1872)
  • The Story of Sigurd the Volsung and the Fall of the Niblungs (1877)
  • Hopes and Fears For Art (1882)
  • The Pilgrims of Hope (1885)
  • A Dream of John Ball (1888)
  • Signs of Change (poem)|Signs of Change (1888)
  • The House of the Wolfings|A Tale of the House of the Wolfings, and All the Kindreds of the Mark Written in Prose and in Verse (1889)
  • The Roots of the Mountains (1890)
  • Poems By the Way (1891)
  • News from Nowhere|News from Nowhere (or, An Epoch of Rest) (1890)
  • The Story of the Glittering Plain (1891)
  • The Wood Beyond the World (1894)
  • Child Christopher and Goldilind the Fair (1895)
  • The Well at the World's End (1896)
  • The Water of the Wondrous Isles (1897)
  • The Sundering Flood (1897) (published posthumously)
  • A King's Lesson (1901)
  • The World of Romance (1906)
  • Chants for Socialists (1935)
  • Golden Wings and Other Stories (1976)

Cyfieithiadau

golygu
  • Grettis Saga: The Story of Grettir the Strong with Eiríkr Magnússon (1869)
  • The Saga of Gunnlaug the Worm-tongue and Rafn the Skald with Eiríkr Magnússon (1869)
  • Völsung Saga: The Story of the Volsungs and Niblungs, with Certain Songs from the Elder Edda with Eiríkr Magnússon (1870) (from the Volsunga saga)
  • Three Northern Love Stories, and Other Tales with Eiríkr Magnússon (1875)
  • The Odyssey of Homer Done into English Verse (1887)
  • The Aeneids of Virgil Done into English (1876)
  • Of King Florus and the Fair Jehane (1893)
  • The Tale of Beowulf Done out of the Old English Tongue (1895)
  • Old French Romances Done into English (1896)

Darlithoedd a Phapurau

golygu
  • Lectures on Art delivered in support of the Society for the Protection of Ancient Buildings (Morris lecture on The Lesser Arts). London, Macmillan, 1882
  • Architecture and History & Westminster Abbey". Papers read to SPAB in 1884 and 1893. Printed at The Chiswick Press. London, Longmans, 1900
  • Communism: a lecture London, Fabian Society, 1903