William Ormsby-Gore
Roedd William Ormsby-Gore (14 Mawrth 1779 - 4 Mai 1860), a oedd yn defnyddio'r enw William Gore tan 1815, yn filwr ac yn Aelod Seneddol Prydeinig a chynrychiolodd etholaethau yn yr Iwerddon, Cymru a Lloegr.
William Ormsby-Gore | |
---|---|
Ganwyd | William Gore 14 Mawrth 1779 Caerfaddon |
Bu farw | 4 Mai 1860 Brogyntyn |
Man preswyl | Brogyntyn |
Dinasyddiaeth | Prydain Fawr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, milwr, tirfeddiannwr |
Swydd | Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 3edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 9fed Senedd y Deyrnas Unedig, High Sheriff of Shropshire, Siryf Sir Gaerfyrddin |
Tad | William Gore |
Mam | Frances Jane Gorges Gore |
Priod | Mary Jane Ormsby-Gore |
Plant | William Richard Ormsby-Gore, John Ralph Ormsby-Gore, Owen Ormsby-Gore |
Bywyd Personol
golyguGanwyd William Gore yng Nghaerfaddon yn fab William Gore, AS Swydd Lentrim. Roedd teulu Gore yn deulu Eingl-Wyddelig bonheddig. Roedd yn ddisgynnydd i Syr Arthur Gore Barwnig 1af Newtown a Syr Paul Gore Barwn 1af Magharabag. Roedd George Gore Twrnai cyffredinol yr Iwerddon ac Arthur Gore, Iarll 1af Arran hefyd yn perthyn iddo. Ei fam oedd Frances Jane Gorges, merch ac etifedd Ralph Gore, AS o Barrow Mount, Swydd Kilkenny, gweddw Syr Haydocke Evans Morres, ail farwnig.[1]
Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Eton, y Deml Ganol (1796) a Choleg Merton, Rhydychen (1797)
Priododd Mary Jane Ormsby ym 1815. Roedd Mary Jane Ormsby yn etifedd ystadau Glyn Cywarch, Clenennau a Brogyntyn. Wrth ei phriodi hi newidiodd William Gore enw'r teulu i Ormsby-Gore. Bu iddynt 3 mab a 2 ferch. Daeth eu mab hynaf, John Ralph Ormsby-Gore yn Farwn 1af Harlech ym 1876 ac ar ei farwolaeth ef daeth eu hail fab William Richard Ormsby-Gore yn 2il Farwn Harlech.
Gyrfa
golyguYmunodd Ormsby-Gore â'r Fyddin Brydeinig a fel cornet ym 1798 bu'n is-gapten yn gatrawd 1af Gwarchodwyr y Dragŵn ym 1800. Fe'i dyrchafwyd yn gapten ym 1802, yn uwchgapten ym 1802 ac yn uwchgapten breiniol ym 1813. Aeth ar hanner cyflog gyda'r 86fed gatrawd y Troedfilwyr ym 1815. Ymadawodd y Fyddin ym 1829.[2]
Ei brif yrfa oedd rhedeg ei ystadau enfawr. Roedd ystâd Brogyntyn yn 4,000 erw ac yn rhoi dylanwad iddo yng Nghroesoswallt a diddordebau yn Swydd Amwythig a Sir Drefaldwyn. Clenennau, ystâd 3,997 erw yn Eifionydd, oedd hen sedd Owens Brogyntyn, a oedd wedi rheoli Cricieth, bwrdeistref gyfrannol Caernarfon, a hwy oedd y tirfeddianwyr mwyaf yn Llanfihangel-y-Pennant a Phenmorfa yn Sir Gaernarfon a Llanfihangel-y-Traethau yn Sir Feirionnydd
Gyrfa wleidyddol
golyguEtholwyd Ormsby-Gore i Dŷ'r Cyffredin dros Swydd Leitrim ym 1806, sedd a gadwodd hyd 1807. Rhwng 1830 a 1831 bu'n Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Caernarfon a bu'n cynrychioli Gogledd Swydd Amwythig yn y Senedd o 1835 i 1857.
Fe'i penodwyd yn Uchel Siryf Swydd Amwythig am dymor 1817-18 ac Uchel Siryf Sir Gaernarfon am 1820-21.
Gwasanaethodd fel Maer Croesoswallt o 1823 i 1824 a fu'n maer etifeddol Criceth o 1827.
Marwolaeth
golyguBu farw ym Mrogyntyn yn 81 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion yn Sylatyn.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ The History of Parliament ORMSBY GORE (formerly GORE), William (1779-1860), of Porkington, Oswestry, Salop and Woodford, co. Leitrim Adalwyd 12 Ionawr 2019
- ↑ "THE LATE WILLIAM ORMSBY GORE ESQ - Wrexham and Denbighshire Advertiser and Cheshire Shropshire and North Wales Register". George Bayley. 1860-05-12. Cyrchwyd 2019-01-12.
- ↑ "THE LATE WILLIAM ORMSBY GORE ESQ PORKINGTON & OSWESTRY - Wrexham and Denbighshire Advertiser and Cheshire Shropshire and North Wales Register". George Bayley. 1860-05-12. Cyrchwyd 2019-01-12.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Yr Arglwydd William Paget |
Aelod Seneddol | Olynydd: Syr Charles Paget |