John Edward Madocks (AS Dinbych)
Roedd John Edward Madocks (22 Gorffennaf 1786 – 20 Tachwedd 1837) yn dirfeddiannwr ac yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Dinbych rhwng 1832 a 1835[1]
John Edward Madocks | |
---|---|
Cofeb John Madocks a'i deulu, Eglwys yr Holl Seintiau, Gresffordd | |
Ganwyd | 22 Gorffennaf 1786 |
Bu farw | 20 Tachwedd 1837 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig |
Plant | Emily Charlotte Madocks |
Cefndir
golyguRoedd Madocks yn unig fab i John Edward Madocks, North Cray, Swydd Caint a Fron Yw, Llandegfan a Frances merch Syr Richard Perryn, Barwn y Trysorlys. Roedd yn gefnder i William Alexander Madocks AS Boston a Chippenham a sylfaenydd Porthmadog.
Cafodd ei addysgu yn Ysgol Harrow ac Eglwys Crist, Rhydychen. Un o'i gyd ddisgyblion yn Harrow oedd y bardd Seisnig Yr Arglwydd Byron. Mewn llythyr I Thomas Moore dyddiedig 20 Mai 1820 mae Byron yn adrodd hanes diwrnod wariodd yng nghwmni Madocks yn gwylio crogi John Bellingham am lofruddio'r Prif Weinidog Spencer Perceval[2].
Ym 1817 priododd Sidney merch Abraham Robarts AS Caerwrangon, bu iddynt 5 merch a 2 fab.
Gwasanaeth cyhoeddus
golyguGwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Ddinbych ym 1821.
Cafodd ei ethol fel AS Ryddfrydol etholaeth Bwrdeistrefi Dinbych yn etholiad cyffredinol 1832 ond collodd y sedd i'r Ceidwadwyr yn etholiad 1835 a bu farw dwy flynedd yn ddiweddarach.
Marwolaeth
golyguBu farw Madocks yn ei gartref, Glan y Wern, Llanddegfan yn 51 mlwydd oed, rhoddwyd ei weddillion i orwedd yn eglwys y Gresffordd. Mae plac coffa iddo ef, Sidney ei wraig, a'r Cyrnol John Edward Madocks, ei fab hynaf, ar un o waliau mewnol yr eglwys.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Williams, William Retlaw, The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliesr times to the present day, 1541-1895 adalwyd 20 Rhagfyr 2015
- ↑ Byron's Letters, rhif 237— to Thomas Moore May 20, 1812 adalwyd 1 Rhagfyr 2017
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Robert Myddelton-Biddulph |
Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Dinbych 1832 – 1835 |
Olynydd: Wilson Jones |