Pentref yn sir seremonïol Swydd Gaer, Gogledd-orllewin Lloegr, ydy Wrenbury. Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Wrenbury cum Frith yn awdurdod unedol Dwyrain Swydd Gaer. Mae’r plwyf yn cynnwys Gaunton's Bank, Pinsley Green, Porter's Hill, Smeaton Wood, Wrenbury Heath a Wrenburywood. Mae'r pentref ar Afon Weaver a Chamlas Llangollen. Mae Wrenbury tua 5 milltir i’r de-ddwyrain o Nantwich a 5 milltir i’r gogledd-ddwyrain o Eglwys Wen. Mae Marbury ac Audlem yn gyfagos. Mae canol y pentref yn Ardal Gadwraeth. Mae Llwybr Beicio Swydd Gaer yn mynd trwy’r pentref, ac mae gan Wrenbury orsaf reilffordd ar y llinell wrwng Cryw ac Amwythig.

Wrenbury-cum-Frith
Mathpentref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDwyrain Swydd Gaer
Daearyddiaeth
SirSwydd Gaer
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Yn ffinio gydaDodcott cum Wilkesley, Marbury cum Quoisley, Cholmondeley, Chorley, Cholmondeley Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.024°N 2.603°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04011030 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ597467 Edit this on Wikidata
Cod postCW5 Edit this on Wikidata
Map
Map Wrenbury

Mae 3 pont goed ger y pentref ar Gamlas Llangollen, enghreifftiau o waith gynnar Thomas Telford, i gyd yn adeiladau rhestredig Gradd II.[1][2][3]

Hanes golygu

Mae Llyfr Dydd y Farn yn cynnwys y pentref gyda’r enw Wareneberie.[4] Enw’r pentref erbyn 1230 oedd Wrennebury.[5]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Delweddau Lloegr: Pont Wrenbury
  2. Pont Eglwys Wrenbury
  3. Pont Wrenbury Frith
  4. Wrenbury yn Llyfr Dydd y Farn (Domesday Book)
  5. "Gwefan wrenbury.info". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-28. Cyrchwyd 2020-11-17.


  Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Gaer. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato