Oak Eggar
Lasiocampa quercus
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Lasiocampidae
Genws: Lasiocampa
Rhywogaeth: L. quercus
Enw deuenwol
Lasiocampa quercus
(Linnaeus, 10fed rhifyn o Systema Naturae, 1758)

Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw wylun y grug, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy wyluniau'r grug; yr enw Saesneg yw Northern Eggar, a'r enw gwyddonol yw Lasiocampa quercus.[1][2] Mae i'w ganfod ledled Ewrop gan gynnwys Lloegr a Chymru.

45–75 ydy lled yr adenydd agored ac mae'n hedfan o Fai hyd at Medi, mewn un genhedlaeth. Mae'r fenyw'n fwy na'r gwryw.

Prif fwyd y lindys ydy'r mathau o Larix, Betula, Salix a Rubus.

Cyffredinol golygu

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r wylun y grug yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Profiadau unigolion golygu

  • Digwyddiad rhyfeddol
”Roeddwn allan yn cerdded gyda Delyth fy ngwraig a dau o'm ffrindiau dydd Sadwrn 29 Mehefin 2013. Cerddom dros y rhostir tuag at Gwm Serw, Migneint. Ar ôl cyrraedd safbwynt uchel cawsom seibiant byr i edmygu'r dirwedd wych o Llyn Serw ac Arennig Fawr. Yn sydyn gwelsom foncath yn hedfan i ffwrdd a oedd wedi bod yn clwydo ar graig gerllaw ac wedyn gweld nifer fawr o wyfynod yn hedfan heibio i ni. Roedd y tywydd yn gynnes iawn ac roeddem mewn dillad ysgafn crysau-t. Gwelodd Delyth y gwyfynod i gyd yn glanio ar y graig gerllaw ble roedd y boncath wedi bod yn clwydo. Cerddom i lawr at y graig a dod o hyd i ddwsinau o adenydd gwyfynod ar y llawr. Debyg iawn fod y boncath wedi bod yn eu bwyta wrth iddynt gyrraedd y graig i daflu eu hadenydd. Gwelsom fod rhai o'r gwyfynod yn paru gyda’i gilydd ac roedd bwrlwm o weithgaredd yn mynd ymlaen. Cymerais lawer o luniau a chefais fy hudo gan y digwyddiad ger ein bron. Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd y digwyddiad anhygoel yma a welsom nes i mi ddychwelyd adref a gwneud rhywfaint o ymchwil. Mae ffrind da i mi sy'n arbenigwr gwyfynod wedi dweud ein bod wedi gweld digwyddiad anhygoel. Eglurhad ganddo oedd bod y gwyfynod gwryw wedi cael eu denu gan y gwyfynod benyw a oedd ar y graig. Enw'r gwyfynod oedd 'Oak Eggar' [neu wylun y grug (Lasiocampa quercus)]. Roedd llawer o'r gwyfynod gwryw yn hedfan ar y graig tra roeddem yn sefyll yno ac nid oeddent yn cymryd dim sylw ohonom. Roedd yr olygfa yn anhygoel ac nid oeddwn yn disgwyl gweld y fath olygfa a minnau heb fy nghamera gorau dim ond camera digidol cryno bach. Aethom ymlaen â'm taith i Gwm Serw a daethant ar draws madfall ar y llwybr. Dychwelais yn ôl y diwrnod canlynol, sef dydd Sul oer iawn gyda glaw mân a gwynt cryf. Roeddem yn gwisgo sawl haen o ddillad cynnes a dillad dal dŵr; roedd un neu ddau o wyfynod dal i fod yno ond dim y bwrlwm a welsom y diwrnod cynt.”[3]

Gweler hefyd golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
  3. Pierino Algieri ym Mwletin Llên Natur rhifyn 66 (llun)