Arenig Fawr

mynydd (854m) yng Ngwynedd
(Ailgyfeiriad o Arennig Fawr)

Mae Arenig Fawr yn gopa mynydd rhwng y Bermo a Betws-y-Coed a'r Bala yn ne-ddwyrain Parc Cenedlaethol Eryri.

Arenig Fawr
Mathmynydd, Hewitt, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr854 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.917125°N 3.745937°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH8270736952 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd479 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaMoel Siabod Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddEryri Edit this on Wikidata
Map

Lleoliad a llwybrau

golygu

Saif i'r de-orllewin o Lyn Celyn ac i'r de o'r briffordd A4212 rhwng Trawsfynydd a'r Bala, gyda chopa is Moel Llyfnant i'r de-orllewin ohono. Mae Arenig Fach i'r gogledd, yr ochr arall i'r A4212. Gellir ei ddringo o'r ffordd gefn rhwng Trawsfynydd a Llanuwchllyn, neu o'r ffordd i'r de o Lyn Celyn.

Uchder

golygu

Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 375metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf. Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn, Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghyd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 854m (2802tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001.

Awyren

golygu

Ar ei lethrau mae Llyn Arenig Fawr, ac ar y copa ceir cofeb i griw awyren Flying Fortress o Lu Awyr yr Unol Daleithiau a laddwyd pan darawodd y mynydd yn 1943.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu

Dolennau allanol

golygu