Wyn Jones (actor)

Actor o Gymru oedd Wyn Jones neu Eifion Wyn Jones (1936 - 23 Hydref 1966) a fu'n aelod o Gwmni Theatr Cymru yn y 1960au ac yn aelod o'r Royal Shakespeare Company yng nghyfnod Peter Brooke cyn hynny, gan berfformio ar lwyfannau Llundain ac ar deithiau ar draws y byd.[1] Bu'n rhan o'r cwmni Cymraeg a lwyfannodd y ddrama Pros Kairon ym 1966, ond tra'n ymarfer i recordio telediad o'r cynhyrchiad ar gyfer BBC Cymru, cafodd ei ladd mewn damwain "mewn hen chwarel" ar fynydd uwchben Waunfawr ger Caernarfon, yn 30 oed.[2]

Wyn Jones
GanwydEifion Wyn Jones
1936
Acrefair, Sir Ddinbych
Bu farw23 Hydref 1966
o ddamwain
Waunfawr, Gwynedd
Llysenw/auWyn Jones
DinasyddiaethCymro
Galwedigaethactor
Cysylltir gydaCwmni Theatr Cymru a Royal Shakespeare Company

Cefndir

golygu

Yn enedigol o Acrefair, Sir Ddinbych.[2] Ymunodd â'r Royal Shakespeare Company ym 1964 gan ddod yn rhan o sawl cynhyrchiad a lwyfannwyd yn y West End Llundain, ac a deithwyd ar draws y byd. Taith The Comedy of Errors (1964)[1] oedd y cyntaf, ynghyd â King Lear (1964). Dilynwyd hynny gan gan sawl cynhyrchiad yn Theatr Aldwych, Llundain megis No Why (1964); Marat/Sade (1964) gyda Glenda Jackson, Timothy West, Patrick Magee a Michael Williams ymhlith eraill; The Jew of Malta (1964-1965); The Wideawakes (1965) a The Comedy of Errors (1965).[1]

 
Llofnod yr actor Wyn Jones o 1964 tra'n actio yng nghynhyrchiad y Royal Shakespeare Company o The Comedy of Errors

Tra'n teithio'r cynhyrchiad The Comedy of Errors ar draws y byd ym 1964, mae'n amlwg iddo roi ei lofnod ar ddelweddau cynllunio gwisgoedd y cynhyrchiad, gan i'r ddelwedd ymddangos ar wefan gwerthu eBay yn yr UDA yn 2019.[3]

Ar ôl sefydlu Cwmni Theatr Cymru ym 1965, cafodd rannau mewn cynyrchiadau fel Cariad Creulon (1965) a Pros Kairon (1967).

Bywyd Personol

golygu

Roedd Wyn yn ŵr priod gyda 3 o blant, ac yn byw yn Llanfleiddian, ger Y Bont-faen.[2]

Marwolaeth

golygu

Yn ei hunangofiant, Hogyn O Sling, mae'r actor John Ogwen yn sôn yn benodol am y ddamwain a laddodd Wyn Jones: "Ychydig cyn imi adael y Coleg [1966] cefais alwad sydyn un diwrnod yn gofyn imi wneud drama deledu. Bu damwain ar y mynydd uwchben Waunfawr ac fe laddwyd yr actor Wyn Jones ac anafwyd Owen Garmon [24 oed] a Lisabeth Miles [23 oed]. Yr oedd Wyn ac Owen ar y pryd yn ymarfer Pros Kairon ar gyfer telediad ohoni ac fe benderfynwyd ail gastio er mwyn i'r telediad fynd rhagddo. Aubrey Richards a gafwyd i chwarae rhan Wyn a minnau i wneud rhan Owen."[4]

Cafwyd adroddiad am y ddamwain yn Y Cymro, 27 Hydref 1966 sy'n datgan bod "pedwar o bobl - tri ohonynt yn actorion Cymraeg proffesiynol - wedi syrthio a'u hanafu eu hunain mewn hen chwarel segur ar ochr y Cefn Du, ger y Waunfawr ar fore Sul [23 Hydref]".[2] Adroddir bod Wyn wedi marw "ar y ffordd i'r ysbyty" ac yntau yn 30 oed.

Mae'n debyg bod y pedwar ohonynt [gan gynnwys Anna Daniel o Borthaethwy] wedi bod mewn "parti mewn tŷ ym Mangor nos Sadwrn [22 Hydref] a threfnu yno i fynd i ben yr Wyddfa yn ddiweddarach". Oherwydd nad oedd digon o betrol ganddynt, penderfynodd y pedwar fynd i ddringo'r Cefn Du ger y Waunfawr, a cherdded ar hyd "twnel isel cul sy'n arwain at ben y chwarel". Nododd yr heddwas bod y pedwar wedi mynd yn rhy bell, ac wedi disgyn dros y dibyn. Ni ddarganfuwyd hwynt tan 11.30 bore dydd Sul.[5]

Teyrnged

golygu

Pan gyhoeddwyd y ddrama Cariad Creulon gan R. Bryn Williams ym 1970, mae'r dramodydd yn talu teyrnged llenyddol a barddonol i'r actor Wyn Jones gan mai ef oedd yr actor cyntaf i bortreadu'r mab hynaf yn y ddrama, yng nghynhyrchiad Cwmni Theatr Cymru ym 1965:

"Tydi,
a roddaist fywyd i'm geiriau,
cnawd i'm Dafydd,
enaid i'm Cariad Creulon,—
creulon na allaf a fynnwn :
rhoi bywyd yn ôl i ti.

Cerddaist gyfandiroedd
i hau anfarwoldeb y Bardd,
a'r byd wrth dy draed :
gwae ni, ni cherddi mwy.
Cans un nos o Hydref
gwywodd dy Wanwyn :
chwerw'r trasiedi
yng Ngholisewm y chwarel wag
dan orielau'r sêr,
nes dyfod gwawr ddu i'w diffodd
pan drengaist yn ymyl ymwared.

Trist nad erys ond cof
am dy ddawn a'i haddewid i fory,
dy gariad addfwyn,
a'r dewrder a welodd y drindod
dan orielau'r sêr
ar dy lwyfan olaf."

Theatr

golygu

Teledu

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 "Wyn Jones | Theatricalia". theatricalia.com. Cyrchwyd 2024-10-04.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 Damwain yr Actor. Y Cymro. 27 Hydref 1966.
  3. "Wyn Jones Royal Shakespeare Company Comedy of Errors Rare Signed Autograph Photo". eBay (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-10-04.
  4. Ogwen, John (1996). Hogyn O Sling. Gwasg Gwynedd. ISBN 0 86074 134 6.
  5. "Damwain yr actor". Y Cymro. 27 Hydref 1966.
  6. "Eifion Wyn Jones | Actor". IMDb (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-10-10.