Drama Gymraeg mewn Tair Act gan Huw Lloyd Edwards yw Pros Kairon a gyfansoddwyd ym 1965. Comisiynwyd y ddrama gan Gwmni Theatr Cymru ar gyfer ei llwyfanu yn Hydref 1966. Darlledwyd y ddrama ar BBC [Cymru] ar gyfer Gŵyl Ddewi 1967.

Pros Kairon
AwdurHuw Lloyd Edwards
CyhoeddwrGwasg Gee
GwladBaner Cymru Cymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1967
Cysylltir gydaCwmni Theatr Cymru
MathDrama Gymraeg
Argaeleddallan o brint
Tudalennau75

Daw teitl y ddrama o'r iaith 'Roegeg a'i ystyr yw "tros amser". Fe orffenir y ddrama gyda'r un llanast a welir ar ei chychwyn, ac felly hanes y llansast "dros amser" yw plot y ddrama.

Cymeriadau

golygu
  • Martin - dyn o awdurdod tawel, tua'r canol oed
  • Mac - gŵr canol oed
  • Sadi - ei wraig, rhyw 5 mlynedd yn ifancach
  • Greta - merch tua 25 oed
  • Hen Ŵr - tua 70 oed
  • Rolff - tua 26 oed
  • Rudi - tua 24 oed
  • Smith - tua 40 oed
  • Dau Was

Cynyrchiadau nodedig

golygu

1960au

golygu
 
Cwmni Theatr Cymru yn ymarfer y ddrama Pros Kairon ym 1966

Llwyfanwyd y ddrama gan Gwmni Theatr Cymru am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberafan 1966. Cyfarwyddwyr y cynhyrchiad oedd George P Owen ac Wilbert Lloyd Roberts; cynorthwywr Beryl Williams

Teledwyd y ddrama hon gan BBC Cymru ar yr 28 Chwefror 1967 gyda'r cast:[1]

Yn ei hunangofiant, Hogyn O Sling, mae'r actor John Ogwen yn sôn yn benodol am y profiad o recordio'r fersiwn deledu o Pros Kairon: "Ychydig cyn imi adael y Coleg cefais alwad sydyn un diwrnod yn gofyn imi wneud drama deledu. Bu damwain ar y mynydd uwchben Waunfawr ac fe laddwyd yr actor Wyn Jones ac anafwyd Owen Garmon a Lisabeth Miles. Yr oedd Wyn ac Owen ar y pryd yn ymarfer Pros Kairon ar gyfer telediad ohoni ac fe benderfynwyd ail gastio er mwyn i'r telediad fynd rhagddo. Aubrey Richards a gafwyd i chwarae rhan Wyn a minnau i wneud rhan Owen."[2]

Mae John yn nodi hefyd pa mor nerfus oedd o yn wynebu actorion mor brofiadol â David Lyn, Gaynor Morgan Rees a Iona Banks, ac mai Pros Kairon oedd yr unig ddrama deledu i'w fam weld ei mab ynddi, gan iddi gael "strôc ddrwg" ychydig o wythnosau wedyn, a bu farw.[2]

"Am y cynyrchiad teledol, gellid dweud na symudwyd ymhell iawn oddi wrth y cynhyrchiad a gafwyd ar y llwyfan", nododd adolygydd teledu Y Cymro [Mawrth 1967]; "...cadwyd o fewn i'r un set, heb symud dim (ar ffilm) y tu allan iddi, ac yn hyn o beth, credaf mai dyma'r dewis iawn", nododd.[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Edwards, Huw Lloyd (1967). Pros Kairon : Drama Mewn Tair Act. Gwasg Gee.
  2. 2.0 2.1 Ogwen, John (1996). Hogyn O Sling. Gwasg Gwynedd. ISBN 0 86074 134 6.
  3. Meic (9 Mawrth 1967). "Gwylio a Gwrando". Y Cymro.