Actor a chyfarwyddwr o Gymro, sy'n wyneb a llais cyfarwydd ar lwyfannau a theledu Cymru, yw Owen Garmon (ganwyd 1942)[1]. Bu'n aelod cynnar o Gwmni Theatr Cymru yn ogystal â chwmnïau theatr eraill fel Cwmni Theatr Gwynedd, Cwmni Hwyl A Fflag, Theatr Bara Caws a Dalier Sylw. Bu'n portreadu Saunders Lewis yn y ddrama deledu Penyberth i S4C ym 1985 yn ogystal â bod yn rhan o gyfresi poblogaidd S4C fel Y Palmant Aur, Dinas a Pobol Y Cwm.

Owen Garmon
Ganwyd1942
Treffynnon, Sir Y Fflint
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor
Cysylltir gydaCwmni Theatr Cymru

Damwain

golygu

Tra'n ymarfer ar gyfer recordiad teledu o'r ddrama Pros Kairon yn Hydref 1966, bu Owen [24 oed] mewn damwain tra'n dringo "hen chwarel" ger y Waunfawr, Sir Gaernarfon. Yn drasig, bu farw ei gyd-actor Wyn Jones yn y ddamwain, ac anafwyd dau arall, gan gynnwys yr actores Lisabeth Miles. Mae'n debyg bod y pedwar ohonynt [gan gynnwys Anna Daniel o Borthaethwy] wedi bod mewn "parti mewn tŷ ym Mangor nos Sadwrn [22 Hydref] a threfnu yno i fynd i ben yr Wyddfa yn ddiweddarach". Oherwydd nad oedd digon o betrol ganddynt, penderfynodd y pedwar fynd i ddringo'r Cefn Du ger y Waunfawr, a cherdded ar hyd "twnel isel cul sy'n arwain at ben y chwarel". Nododd yr heddwas bod y pedwar wedi mynd yn rhy bell, ac wedi disgyn dros y dibyn. Ni ddarganfuwyd hwynt tan 11.30 bore dydd Sul.[1]

Theatr

golygu

1970au

golygu

1980au

golygu

1990au

golygu

Teledu a ffilm

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Damwain yr actor". Y Cymro. 27 Hydref 1966.
  2. "Owen Garmon". Wici Y Cyfryngau Cymraeg. Cyrchwyd 2024-09-06.

Dolenni allanol

golygu
   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.