Cariad Creulon (drama)
Drama lwyfan wedi'i lleoli yn Y Wladfa yw Cariad Creulon o waith R. Bryn Williams. Cyhoeddwyd y ddrama gan Wasg Christopher Davies ym 1970. Hon oedd y ddrama gyntaf i'w pherfformio yn Gymraeg gan Gwmni Theatr Cymru yn Hydref 1965.[1]
Enghraifft o'r canlynol | drama lwyfan |
---|---|
Dyddiad cynharaf | 1965 |
Awdur | R. Bryn Williams |
Cyhoeddwr | Christopher Davies |
Dyddiad cyhoeddi | 1970 |
Dyddiad y perff. 1af | Hydref 1965 |
Disgrifiad byr
golyguMeri Ifans yw prif gymeriad y ddrama - gwraig weddw, gadarn, wrol iawn ei ffordd a adawodd Gymru am yr Andes [Patagonia] tua chanol y 19fed ganrif er mwyn rhoi gwell cyfle mewn bywyd i'w phlant. Ond, wrth ymadael â Chymru, nid ymadawodd â'r ffordd Gymreig o fyw, a dyna'r allwedd i'w methiant.
Crynodeb
golyguDigwydd y ddrama mewn ffermdy yn Yr Andes, o'r enw 'Gwyndy'. Mae'r cartref yn llawn o ddodrefn Cymreig o Gymru, sy'n gosod y cyd-destun o'r cychwyn.
Act 1
golyguAgorir Act 1 gyda Mair (merch hynaf y teulu) yn sgwrsio gyda'r forwyn Pepita) sy'n trafod caneuon gwerin "y Paith". Cawn flas o neges y ddrama wrth iddynt drafod "rhamant", gyda'r Mair 'chwerw a gwrthryfelus' yn datgan nad yw'r gair yn cael ei arddel "...yn y tŷ yma. Mae rhamantu'n ddrwg, ac ieuengtid yn bechod. Yn wahanol iawn i fywyd allan acw ar y paith ac yn y mynyddoedd."[1] Down i wybod bod Mair mewn perthynas gariadus a chyfrinachol â Manolo "un sy'n wylliad", cyfaill i'w brawd, Idris. Mae Dafydd y brawd arall, "angel y teulu", yn flin nad yw Mair wedi dilyn ei mam "i'r Seiat", ac mae hithau'n ei geryddu yntau am beidio mynd ei hun: "Mynd yno i blesio mam wyt ti. Ofn sydd wrth wraidd dy grefydd di: ofn dy fam".[1] Beio'u mam [Meri Ifans] mae Mair hefyd am nad yw hi'n "ein caru ni fel yr ydan ni mewn gwirionedd", ond amddiffyn eu mam wna Dafydd a'r 'gwas o Indiaid' hŷn Alonso. Pan ymwêl Manolo ac Idris â'r cartref, mae Manolo yn ceisio annog Mair i ddianc efo fo, "i fyw yn hapus yn y mynyddoedd", ond gwrthod y mae.[1]
Pan ddychwel y fam 'biwritanaidd' o'r Capel, fe dry pethau'n fler, ac yn peri i'r fam fod yn gâs gyda'r forwyn "estron" Pepita, wedi iddi dorri un o'i llestri o Gymru. Wrth gysuro Pepita yn ei dagrau, down i wybod fod ganddi hithau deimladau cariadus at Dafydd, er gwaethaf yr "hwyl arwynebol" a gafodd hi hefo'i frawd, Idris. Ond mae Dafydd yn betrusgar, ac yn cael ei gyhuddo fod ei "wreiddiau [yn] rhy ddwfn yn y bywyd Cymraeg [i fedru] caru gydag Indiad".[1]
Daw'r Act i ben gydag ymweliad gan "yr heddlu" y 'Teniente Tirano' sy'n chwilio am ddau o'r "gwylliaid", yn yr achos hwn, Manolo ac Idris. Mae'r fam yn cytuno i guddio ac amddiffyn ei mab a'i ffrind, ar yr amod fod Manolo yn "torri pob cysylltiad" â'i mab. Cyhuddir y ddau o fod wedi "torri i mewn i siop Anonima", ond mae Meri yn "gwadu popeth y bûm yn sefyll drosto" drwy ddweud "anwiredd" wrth yr heddlu, er mwyn amddiffyn y ddau ohonynt. Wedi'r heddlu ymadael, mae'r fam yn bwrw ei llid at Manolo, ac yn rhybuddio ei mab Idris bod yn rhaid iddo "dorri pob cysylltiad â Manolo a rhai tebyg iddo", neu mi fydd hi'n rhoi Manolo "yn nwylo'r polîs".[1]
Act 2
golyguGolygfa 1
golygu'Wythnos yn ddiweddarach', ac mae'r gwas hŷn a diog Alfonso yn siarad am ryddid y Paith gyda'r forwyn weithgar Pepita, ac nad oes ofn o gwbl arno, o'r fam awdurdodol, Meri Ifans. Ond pryderu am gael ei dal gan y milwyr mae Pepita gan fod Dafydd eisioes wedi'i rhybuddio y gallasant eu "[h]anfon i Buenos Aires i fod yn gaethferch i'r bobol fawr yno". Rhydd Alfonso gyngor iddi am ei pherthynas gudd â Dafydd, gan ei rhybuddio i fod yn ofalus, gan ddatgan mai "peth brau iawn ydi cariad". Mae'r ddau yn trafod "argyfwng" Dafydd o gael ei rwygo gan ei deyrngarwch i'w fam a "galwad y paith, yr awydd am ryddid a'i serch" ati hi.[1]
Mae Manolo yn hebrwg Idris adref yn "feddw", ac mae yntau yn chwilio am ei fam [Meri Ifans] am fod arno eisiau "dweud rhai pethau wrth hi...pethau sydd wedi eu claddu yn fy nghalon i". Pan ddychwela Pepita o fod wedi ei roi i gysgu yn y siambr, mae'n pryderu fod Idris wedi'i rhybuddio o'i fwriad i ddod i'w nôl hi "am hanner nos heno, ac os na byddwn i'n barod y busasai fo'n fy nhynnu i o 'ngwely". Mae Mair yn ceisio siarsio Manolo i ymadael cyn i'w mam ddychwelyd, ond nid yw yntau'n barod i 'adael i Mair "wynebu'r storm" ei hunan. Datgana Mair fod ganddi "ofn" ei mam, a bod "ufuddhau" iddi wedi mynd yn "ail natur" iddynt, ond bod hi hefyd yn "tosturio wrthi hi weithiau [...] 'Does neb yn ei charu, a dyna'r golled fwyaf y gall neb ei gael mewn bywyd".[1]
Dychwela Meri Ifans wedi ei 'chynhyrfu', gan fynnu gwybod pwy sydd berchen "y ddau geffyl" sydd tu fas. Wrth i Dafydd a Mair wadu unrhyw wybodaeth am eu perchnogion, fe rannai eu mam eu gofidiau wrthynt am y fferm, a'r posibilrwydd o'i golli am nad oes "gweithredoedd wedi'u rhoi [iddynt] eto ar y tiroedd yma". Ceisio ei chysuro wna Dafydd drwy feio'r "twrneiod" o fod yn hir gyda'i gwaith, ond mae ei fam yn rhoi gwybod iddo fod un o'r twrneiod "yn hawlio'r lle" ac wedi'i bygwth y gallasai roi un ohonynt [Idris] yn y carchar, "os rhwystrwn ni o feddiannu'r lle yma". Mynega'r fam ei phryder dros warchod etifeddiaeth a gwaddol Michael D. Jones a sefydlwyr eraill Y Wladfa a'r peryg fod "un genhedlaeth yn adeiladu rhywbeth gwych, a'r genhedlaeth nesaf yn ei ddibrisio".[1]
Fe derfynir yr olygfa gyntaf o Act 2 gan ymddangosiad meddw Idris o'r llofft, gydag Manolo ac Alfonso yn ei ddilyn. Mae Idris yn cyhoeddi wrth ei fam bod Manolo a Mair "mewn cariad mawr" ac nid yw Mair yn gwadu, er i'w mam honni mai "nwyd" ydyw. Traetha Idris na brofodd ef na'i deulu "gariad mam" pan yn blant, ac mai "bod yn barchus" oedd blaenoriaeth Meri Ifans, a'r gwir reswm pan y trowyd y "tŷ 'ma'n amgueddfa yn lle yn gartref: amgueddfa o bethau gwlad a chenhedlaeth arall." Mae gwylltineb Idris yn troi'n fwy creulon, drwy ddatgan bod "angau" wedi "rhyddhau" eu tad o'i "gafael" hi [ei fam], sy'n peri i'w frawd Dafydd geisio amddiffyn ei fam yn gorfforol. Ei gyhuddo o fod yn feddw eto wna Meri Ifans, ond pwysleisia Idris mai'r "gwir" ydyw. Er i'w fam ymbil arno i "fod yn ffrindiau" mae Idris a Mair yn penderfynu ymadael gan ddatgan eu rhyddid. Gorffennir yr olygfa gyda Dafydd yn holi Pepita pan nad aeth hithau i ganlyn Idris?.[1]
Act 2
golyguGolygfa 2
golyguDigwydd yr olygfa fer hon am 'hanner nos yr un diwrnod'. Gwelir Pepita yn cyfarch Idris drwy'r ffenest yn nhywyllwch y nos. Mae'i wedi casglu pecyn o ddillad sydd ar y bwrdd gerllaw. Datgana wrth Idris ei bod hi am ddianc, ond nid efo fo. "Mi rydw i'n mynd oddi yma - ond yn mynd fy hunan - ac at y llwyth". Mae Idris yn mynnu gwybod pam na ddaw hi efo fo, ac mae Pepita yn gorfod cyfaddef nad oes ganddi ddim "cariad" o gwbl tuag ato, gan ei orfodi i awgrymu mai Dafydd [ei frawd] yw achos hyn. Nid yw Pepita'n celu'r gwirionedd, ac yn cyfaddef bod Dafydd yn "llwfr" o fethu torri'r cysylltiad â'i fam.[1]
Mae Meri Ifans [y fam] wedi deffro, ac yn croesawu Idris adref. Pan gyhoedda yntau mai dychwelyd i nôl Pepita y mae, mae'r fam yn beio "dylanwad anwariad" [Pepita] am "lygru" ei feddwl. Yn ei amddifyniad o Pepita, mae Idris yn mynnu dychryn ei fam drwy roi gwybod iddi mai "mynd" y mae hi rhag "temptio" Dafydd i ymadael hefyd. Geiriau olaf Idris wrth ei fam ydi "Petawn i'n aros yn awr, gwneud hynny er eich mwyn chi fuaswn i. A byw twyll fyddai'r cwbl. Fedrwch chi ddim newid. Fedra innau ddim chwaith. Mae Cymru'n rhy gryf i chi, ac mae'r paith yn rhy gryf i minnau. Da bo chi, Mam". Try hithau gan siarsio Pepita i ymadael hefyd.[1]
Act 3
golyguAeth 'chwe mis heibio' ac mae Meri Ifans yn hel meddyliau am lanast y teulu a gweld ei hun fel "methiant". Dychwela Dafydd gyda'r newyddion fod yr heddlu a'r milwyr wedi dal a lladd rhai o'r "gwylliaid" am iddynt "ymosod ar y banc yn Santa Cruz nithiwr". Mae sôn bod Manolo yn un ohonynt, ac os y lladdwyd ef, efallai y daw Mair yn ôl adref. "Fydd dim croeso iddi" ydi ymateb y fam, "Mae hi wedi gwneud gormod o sôn amdani ei hun: byw yn y llaid efo bandit!". Nid yw'r posibilrwydd y daw Idris adref, yn codi calon na gobaith Meri Ifans. "Fy mhlant yn troi'n warth imi" sydd ar feddwl y fam, er i Dafydd geisio egluro fod yr oes wedi newid erbyn hyn. Mae'r fam yn ystyried dychwelyd i Gymru. Awgryma Dafydd, "yn greulon o onest", mai "cariad creulon" oedd yr hyn a ddangosai hi i'w phlant, drwy "geisio'n gorfodi ni [i garu] drwy ofn".[1]
Galwa'r Tirano [heddwas] gan eu hysbysu fod yn rhaid iddo archwilio'r tŷ yn sgil y lladrad yn y banc, a bod un o'r dihirod posib wedi'u gweld yn dod i gyfeiriad y fferm. Daw Mair i mewn, 'yn llwyd a lluddedig' gan gyfaddef mai hi a welodd y Tirano, a neb arall. Mae hi hefyd yn cyfaddef ei bod hi'n feichiog. Ar ôl i'r Tirano ymadael, mae Mair yn hysbysu'r teulu fod Manolo yn cuddio gerllaw, ond wedi'i glwyfo. Er gwaetha gwrthwynebiad eu mam, mae Dafydd yn ei hatgoffa bod hi'n "ddyletswydd arnom ni fel Cristnogion ei helpu". Caiff Manolo ei gludo i'r tŷ gyda chymorth Alfonso a Dafydd, ac yn cynllwynio sut i ddianc, gyda chymorth Alonso, i'r mynyddoedd. Cyn ymadael, cyhoedda Manolo fod Idris wedi'i ladd, sy'n codi "gwên" ar wyneb y fam, cyn "wylo". Bellach, mae'r fferm yn saff. Mae Dafydd yn ymbil wrth ei fam, y caiff y Mair feichiog aros yno gyda nhw, ond gwrthod wna'r fam, felly gwrthod wna Dafydd hefyd, gan gyhoeddi ei fod am fynd â Mair "at lwyth Sagmata" sy'n "cuddio yn y mynyddoedd" efo Pepita. Cynghorir y Meri Ifans [sydd bellach ar ben ei hun] i ddychwelyd i Gymru, ac fe orffenir y ddrama gyda'r amwysedd a fydd hynny yn digwydd a'i peidio.[1]
Cefndir
golyguEr bod y dramodydd wedi'i eni ym Mlaenau Ffestiniog ym 1902, ymfudodd ei deulu i Drelew, Patagonia pan oedd o'n 7 oed. [1909]. Trwy dderbyn ei addysg yn Sbaeneg, a gweithio mewn amrywiol swyddi yn y wlad, fe ddaeth i adnabod y gymdeithas yr oedd ef ei hun yn ran ohoni.[2]
Daeth y ddrama yn ail yng nghystadleuaeth Tlws y Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy 1958, gyda'r beirniad Mary Lewis yn nodi "Buaswn o ddifrif yn ystyried Cariad Creulon fel drama i'w gwobrwyo, onibai i un arall ymddangos".[3] Enillydd y Tlws y flwyddyn honno oedd Huw Lloyd Edwards gyda'r ddrama Cyfyng Gyngor o'r 10 oedd wedi cystadlu.
Pan gyhoeddwyd y ddrama ym 1970, cyflwyna'r dramodydd y gyfrol er cof am yr actor Wyn Jones a fu'n portreadu'r mab hynaf 'Dafydd' yn y cynhyrchiad cyntaf. Yn drasig o gynamserol, bu farw'r actor mewn damwain car tra'n paratoi i ffilmio addasiad i deledu o'r ddrama Pros Kairon ym 1967.[1]
Mae R. Bryn Williams hefyd yn cynnwys cerdd goffa i Wyn Jones, ar gychwyn y gyfrol:
"Tydi,
a roddaist fywyd i'm geiriau,
cnawd i'm Dafydd,
enaid i'm Cariad Creulon,—
creulon na allaf a fynnwn :
rhoi bywyd yn ôl i ti."
Cymeriadau
golygu- Meri Ifans - gwraig weddw, 50 oed
- Dafydd - ei mab hynaf, 30 oed
- Mair - ei merch, 25 oed
- Idris - ei mab ieuengaf, 21 oed
- Manolo - cyfaill Idris, 25 oed llanc o'r Wladfa
- Alonso - gwas o Indiad, 60 oed
- Pepita - un o enethod yr Indiaid, 18 oed - morwyn y teulu
- Tirano - swyddog o'r heddlu milwrol.
Cynyrchiadau nodedig
golygu1960au
golyguLlwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Gwmni Theatr Cymru yn Hydref 1965. Cyfarwyddwr Wilbert Lloyd Roberts; cynllunydd Donald Homfray; gwisgoedd Edith Stanley; llwyfan Michael Bartley; goleuo Rex Gilfillan; cynorthwywyr Iona Banks a Beryl Williams; cast:
- Meri Ifans - Rachel Thomas
- Dafydd - Wyn Jones
- Mair - Gaynor Morgan Rees
- Idris - John Owen Hughes
- Manolo - Huw Carrod
- Alonso - Conrad Evans
- Pepita - Lisabeth Miles
- Teniente Tirano - Robin Hughes gyda David Price a John Hughes.
Addaswyd y ddrama ar gyfer y teledu gan ei ddarlledu sawl gwaith ar BBC Cymru yn y 1960au.[1] Darlledwyd y ddrama am y tro cyntaf at yr 11 Tachwedd 1965.[4]
Cyfieithwyd y ddrama i'r Sbaeneg i'w darlledu drwy'r Ariannin.[1]
1970au
golyguAil-lwyfannwyd y ddrama gan Theatr yr Ymylon ym 1978.[5] Cast:
- Meri Ifans - Nesta Harries
- Dafydd - Huw Tudor
- Mair - Iola Gregory
- Idris - Terry Dyddgen-Jones
- Manolo - Ian Saynor
- Alonso - David Lyn
- Pepita - Valmai Jones
- Tirano -
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.00 1.01 1.02 1.03 1.04 1.05 1.06 1.07 1.08 1.09 1.10 1.11 1.12 1.13 1.14 1.15 1.16 Williams, R Bryn (1970). Cariad Creulon. Christopher Davies.
- ↑ Jones, T James (Ionawr 1976). "Llyfrau - Cariad Creulon". Barn 156.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau. Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy. 1958.
- ↑ "BBC Television". www.78rpm.co.uk. Cyrchwyd 2024-10-06.
- ↑ "Cariad Creulon". Barn 183. Ebrill 1978.