Wythnos Yng Nghymru Fydd
Nofel ffuglen wyddonol gan Islwyn Ffowc Elis a gyhoeddwyd gan Plaid Cymru yn 1957 yw Wythnos yng Nghymru Fydd. Cyhoeddwyd argraffiad modern gan Wasg Gomer yn Mehefin 2007 (ISBN 9781843238621 ).
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig, gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Islwyn Ffowc Elis |
Cyhoeddwr | Plaid Cymru |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1957 |
Genre | Nofel ffuglen wyddonol |
Lleoliad y gwaith | Cymru |
Y Plot
golyguMae'r arwr, Ifan Powell (yn yr 1950au) yn cytuno i gymryd rhan mewn arbrawf gwyddonol mewn teithio drwy amser ac y mae'n glanio yng Nghaerdydd yn y flwyddyn 2033. Mae'n aros yno am 5 niwrnod ac y mae'n aros gyda theulu sydd yn mynd ag ef ar daith o gwmpas Cymru. Yno y mae'n canfod fod Cymru wedi ennill hunan-lywodraeth ac yn llewyrchus yn economaidd ac yn heddychlon yn gymdeithasol ac y mae'r iaith Gymraeg yn ffynnu gyda phawb yn gwbl ddwyieithog. Mae'n syrthio mewn cariad gyda merch y teulu lle mae'n aros ac wedi iddo ddychwelyd i Gymru'r 1950au mae ei hiraeth amdani'n peri iddo fynnu mynd yn ôl i 2033. Er i'r gwyddonydd sydd yn gwneud yr arbrawf ei gynghori yn erbyn hyn, y mae'n cytuno wedi i Ifan erfyn arno.
Fodd bynnag, pan mae'n dychwelyd, y mae'n cael ei hun mewn Cymru cwbl wahanol, er mai'r un yw'r lleoliad a'r dyddiad ag o'r blaen (h.y. Caerdydd yn 2033). Mae'r iaith Gymraeg wedi marw a phob arlliw o hunaniaeth Gymreig wedi diflannu, yn wir y mae hyd yn oed enw'r wlad wedi ei newid i "Lloegr Orllewinol". Mae'r gymdeithas hefyd yn ansefydlog a llawn helynt. Dim ond am ddeuddydd y mae Ifan yn aros yma - y mae hynny yn fwy na digon iddo.
Wedi i Ifan ddychwelyd am yr eildro i'r presennol y mae'r gwyddonydd yn egluro iddo fod y ddwy Gymru y bu Ifan yn ymweld a hwynt yn bosibiliadau ar gyfer y dyfodol a'i fod i fyny i bobl Cymru pa un gaiff ei wireddu. Yn sgil hyn y mae Ifan yn troi yn genedlaetholwr Cymreig (yr oedd gynt yn gwrthwynebu cenedlaetholdeb Cymreig) gan ymrwymo i wneud popeth o fewn ei allu i sicrhau mai'r Gymru y bu ynddi hi yn gyntaf fydd yn dod yn wir.
Yn 2017 cyfansoddodd Gareth Glyn opera yn seiliedig ar y nofel gyda'r libreto gan Mererid Hopwood.
Beirniadaeth
golyguMae'r nofel yn arwyddocaol yn hanes llenyddiaeth Gymraeg gan mai hi oedd un o'r nofelau gwyddonias i gael ei hysgrifennu yn yr iaith. Cyhoeddwyd stori wyddonias estynedig gan T. Gwynn Jones yn 1905 mewn rhifynnau o Papur Pawb ond ni chyhoeddwyd hwn fel llyfr unigol nes 2024.[1] Fodd bynnag, cydnabyddir yn gyffredinol (a chan yr awdur ei hun) mai propaganda gwleidyddol yw'r nofel yn y bôn a bod hynny yn tanseilio rhywfaint ar ei gwerth llenyddol. Cafwyd adolygiad ohono mewn sawl maes gan gynnwys gan Lowri Haf Cooke[2] ac ar BBC Radio Cymru[3]
Ail-argraffwyd y llyfr yn 2007 ar bumdeg mlwyddiant y cyhoeddiad gwreiddiol.[4]
Dylanwad Tramor ar Wythnos yng Nghymru Fydd
golyguYsbrydolwyd y stori gan lwyddiant llyfr Altneuland gan Theodor Herzl oedd yn cyflwyno agenda Seioniaeth ar gyfer sefydlu gwladfa Iddewig ym Mhalesteina.[angen ffynhonnell] Cyhoeddwyd y llyfr yn 1902 a bu'n ddylanwadol iawn ar Iddewon y cyfnod ac wedyn. Enwyd y ddinas Tel Aviv ar ôl teitl cyfieithiad Hebraeg o'r llyfr.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Price, Stephen (2024-04-14). "Publisher unearths early Welsh science fiction novel". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-04-14.
- ↑ https://lowrihafcooke.wordpress.com/2017/11/27/adolygiad-theatr-wythnos-yng-nghymru-fydd-opra-cymru/
- ↑ https://www.bbc.co.uk/programmes/b09cm1bv
- ↑ https://www.gomer.co.uk/catalog/product/view/id/29688/s/wythnos-yng-nghymru-fydd/category/148/[dolen farw]