Volvo XC90
Car Crossover SUV moethus, maint-canolig yw'r Volvo XC90 a gynhyrchir gan Volvo Personvagnar (a elwir yn fydeang yn "Volvo Cars") ers 2001; mae bellach yn ei ail genhedlaeth. Mae gan y gyfres hon chwaer llai: yr XC60.
Volvo XC90 | |
---|---|
Brasolwg | |
Gwneuthurwr | Volvo Cars |
Cynhyrchwyd | 2002–presennol Llwyfan y Volvo P2, 2002–presennol (Cenhedlaeth 1af) Llwyfan SPA: 2014–presennol (Ail genhedlaeth) |
Corff a siasi | |
Dosbarth | Crossover SUV moethus, maint-canolig |
Math o gorff | SUV 5-drws |
Gosodiad |
|
Drysau | 5 |
Cyflwynwyd y genhedlaeth gyntaf yn Sioe Foduron Rhyngwladol Gogledd America yn 2002, gan ddefnyddio'r llwyfan Volvo P2 a rannwyd gyda'r Volvo S80 a cheir mawr eraill. Fe'i cynhyrchwyd yn Torslandaverken, Hisingen, 12 km i'r gogledd-orllewin o Gothenburg. Yn niwedd 2014 symudwyd yr offer cynhyrchu o Sweden i Tsieina, gan i Volvo Cars gael ei brynnu gan Geely (sef cwmni Tssieiniaidd Zhejiang Geely Holding Group Co., Ltd) a newidiwyd yr enw ar yr un gwynt i Volvo XC90 Classic.[1]
Hwn oedd gwerthwr gorau Volvo yn y UDA ac yn 2005 hwn hefyd oedd y model a werthodd fwyaf, yn fydeang, gyda 85,994 o geir yn cael eu gwerthu. Yn niwedd 2014 cyflwynwyd yr ail genhedlaeth. Cafodd ei sefydlu ar lwyfan bydeang y Volvo Scalable Product Platform neu'r 'SPA'. Mae'r ddwy genhedlaeth wedi cipio gwobr y Motor Trend yn y dosbarth Gwobr Cerbyd SUV y Flwyddyn.
Un sydd wedi canu clodydd yr XC90 ers blynyddoedd ydy Jeremy Clarkson a arferai gyflwyno Top Gear ac sydd bellach yn cyflwyno The Grand Tour, a bu'n berchennog ar dri ohonyn nhw.[2] Mynnodd eu bod wedi'u cynllunio gan berson a oedd hefyd yn dad, gan fod y car mor addas i deulu gyda phlant ac yn gerbyd ymarferol iawn!
Yn 2014 cyflwynwyd model plyg-in hybrid gydag injan petrol cryf yn gyrru'r olwynion blaen a modur trydan yn gyrru'r olwynion cefn; gyda'i gilydd mae trorym y cerbyd yn 640 nm.[3] Yn 2017 roedd y fersiwn Cross Country D5 yn gwerthu am £43,600 a diswylid 53 milltir y galwyn; roedd y fersiwn Hybrid Inscription yn gwerthu am £65,000 a disgwylid 134 myg.[4]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Padeanu, Adrian (11 Medi 2014). "First generation Volvo XC90 to live on in China as XC Classic". Motor1.com. Cyrchwyd 29 Ionawr 2016.
- ↑ "20 years of Clarkson: What cars does Clarkson actually drive?". Driving.co.uk. 14 Mawrth 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-11-17. Cyrchwyd 19 Medi 2015.
- ↑ "The all-new Volvo XC90". Volvo Car Group. 21 Hydref 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-18. Cyrchwyd 5 Tachwedd 2014.
- ↑ Y cylchgrawn Top Gear; Ebrill 2017; rhif 294.