XXL (clwb)
Clwb nos hoyw yn Llundain yw XXL sy'n bennaf yn darparu ar gyfer yr is-grŵp hoyw'r eirth.[1][2][3] Sefydlwyd y clwb nôl yn 2000 gan Mark Ames â'i bartner ar y pryd, David Dindol. Bu iddynt wahanu yn 2005, ac yn dilyn hyn fe brynodd Marc gyfran ei gyn-bartner. XXL yw'r lleoliad mwyaf ymroddedig yr "eirth" yn y Deyrnas Unedig a'r byd. Nid yn unig yw'n ddisgo wythnosol hynnaf sîn yr eirth, ond hefyd mae'n ddisgo wythnosol hynnaf Llundain, heb golli noson mewn tros 16 mlynedd.
Math | LGBT nightclub |
---|---|
Ardal weinyddol | Llundain |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.507692°N 0.104037°W |
Sefydlwydwyd gan | Mark Ames |
Lleoliad
golyguLleolir XXL yn Southwark, ar gornel Stryd Southwark a Ffordd Blackfriars. Adnabyddir y lleoliad presennol fel Pulse tra oedd y lleoliad blaenorol (ar yr un stryd) o'r enw Arcadia. Mae'r ddau leoliad yn cynnwys nifer o fŵau rheilffordd.
Yn dilyn darganfod nam ystrwythol ym mŵa'r rheilffordd yn Arcadia, rhaid oedd datgan y lle'n anniogel a rhaid oedd i XXL symud i'r lleoliad newydd, sef Pulse ym mis Mawrth 2012 - un o leoliadau adloniant mwyaf y brif ddinas a ddatblygwyd a'u addaswyd gan Ames a'i dîm[4]
Hanes
golyguMae gwefan XXL yn cynnwys hanes y clwb ers ei lansio yn 2000. Teimlodd Mark Ames yn siomedig gyda'r diffyg darpariaeth adloniant ar gyfer Cymuned Eirth Llundain y tu allan i un bar yn Soho.
Yn 2003, crëwyd Bear Necessities gan XXL yn Llundain a elwir erbyn hyn yn "Pride Eirth Llundain XXL", dathliad penwythnos gyfan o bopeth "mawr, hoyw a blewog" gyda digwyddiadau ledled y wlad. Flwyddyn yn ddiweddarach datblygwyd hyn i fod yn "Pride Eirth Llundain". Yn 2004 ehangwyd yr ŵyl i gynnwys y gymuned lledr i fod yn "Pride Eirth a Lledr 2006". Mae'r ddau is-ddiwylliant yn gorgyffwrdd ac mae nifer o ffetiswyr lledr yn ymweld â XXL.
Mae XXL hefyd yn gweithredu'n ryngwladol yn Ewrop a'r UDA yn ogystal â nosweithiau misol yn ail-ddinas y DdU sef Birmingham, a digwyddiadau eraill hefyd. Yn 2014 lansiwyd digwyddiad misol gan XXL yng Nglasgow.
Mae polau piniwn mewn cylchgronau megis Gay Times, Pink Paper a Boyz yn rheolaidd yn rhoi XXL ymysg y ddau glwb nos gora'n Llundain.[angen ffynhonnell] XXL hefyd oedd noddwr teitl Cwpan Bingham (2006) yn Efrog Newydd.[angen ffynhonnell] Yn 2007 bu i'r clwb ehangu ac amrywio'i brand drwy lansio nosweithiau newydd, gan ymestyn ei apêl y tu hwnt i'r gynulleidfa graidd.[angen ffynhonnell] Yn 2009 daeth Ames yn hyrwyddwr hoyw'r flwyddyn yn ôl darllenwyr cylchgrawn Boyz yn Llundain ac a enwyd fel eicon hoyw mewn pol piniwn yng nghylchgrawn 'QX' Llundain.[angen ffynhonnell] Yng Nhwobrau Boyz 2017, pleidleiswyd XXL yn y clwb gyda, gyda dau o DJ's XXL (Joe Egg a David Robson) yn ymddangos yn y 10 Uchaf DJ mwyaf poblogaidd.
Ar hyn o bryd mae pedwar DJ preswyl yn XXL, sef: Alex Logan (o 2004), Joe Egg (o 2007), David Robson (o 2015 ymlaen) a Paul Morrell (o 2016 ymlaen). Mae Logan a Morrell yn chwarae 'contemporary house' a dawns cymysg gyda llwythol ymylol yn y brif ystafell; o bryd i'w gilydd ymunai Mark Ames ei hun. Chwareir Egg a Robson set eclectig o gerddoriaeth cyfoes a phop retro, roc, indi, 'soul', R&B, bashment a disgo yn yr ystafell llai, a elwir yn 'The Fur Lounge'.
Yn 2015, cyhoeddwyd bod DJ gwadd rheolaidd yn chwarae'n y brif ystafell gan gylchdroi ar sail fisol rhwng sesiynau wythnosol y trigolion. Y DJs yma ar y funud yw'r Hoxton Whores (a ddechreuodd eu preswylfa ar 11 Gorffennaf 2015), Moto Blanco (dechreuodd Haf 2015), Sin Morera (gyntaf yn 2017), a Pagano, a ymddangosodd gyntaf yn Haf 2016.[5]
Beirniadaethau
golyguYm Mehefin 2010 adroddwyd am sylwadau ysgrifenedig gan Mark Ames ar ei ddudalen Facebook lle dywedodd y byddai'n boicotio busnesau Mwslemaidd.[6] Fe gyhoeddwyd ymddiheuriad diamod.[7]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Jason Cochran (5 Chwefror 2009). Pauline Frommer's London: Spend Less, See More. John Wiley & Sons. t. 320. ISBN 978-0-470-46511-0.
- ↑ Editors of Time Out (2 Ionawr 2014). Time Out London. Time Out Guides Limited. t. 581. ISBN 978-1-84670-426-0.CS1 maint: extra text: authors list (link)
- ↑ Lonely Planet; Emilie Filou; Steve Fallon; Damian Harper; Vesna Maric (1 Hydref 2013). Lonely Planet London. Lonely Planet Publications. t. 285. ISBN 978-1-74321-833-4.
- ↑ "XXL club moves home". Out in the City. 9 Mawrth 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-08-10. Cyrchwyd 31 Hydref 2012.
- ↑ "QX Gay London Issue 1059". Interview with Mark Ames. 9 Mehefin 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-07-21. Cyrchwyd 2018-11-07.
- ↑ Lloyd, Peter; Reid-Smith, Tris (30 Mehefin 2010). "EXCLUSIVE: XXL owner Mark Ames slammed for Muslim boycott". PinkPaper.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Gorffennaf 2011.
- ↑ Lloyd, Peter (1 Gorffennaf 2010). "YOU READ IT HERE FIRST: XXL's Mark Ames makes heartfelt apology". PinkPaper.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Gorffennaf 2011.