Y Cylch-grawn Cynmraeg neu Drysorfa Gwybodaeth

Cylchgrawn a gyhoeddwyd am gyfnod byr yn 1793-1794 oedd Y Cylch-grawn Cynmraeg neu Drysorfa Gwybodaeth. Er mai dim ond pum rhifyn o'r chwarterolyn a ddaeth allan, mae'n garreg filltir bwysig yn hanes y wasg Gymraeg. Ei olygydd oedd y radicalydd Morgan John Rhys.

Y Cylch-grawn Cynmraeg neu Drysorfa Gwybodaeth
Enghraifft o'r canlynolcyfnodolyn, cylchgrawn Edit this on Wikidata
GolygyddMorgan John Rhys Edit this on Wikidata
CyhoeddwrUnknown Edit this on Wikidata
Rhan oCylchgronau Cymru Ar-lein Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1793 Edit this on Wikidata
Lleoliad cyhoeddiTrefeca Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata

Cofnodir y gair "cylchgrawn" (cylch-grawn) ei hun am y tro cyntaf yng ngeiriadur Saesneg-Cymraeg John Walters, yr English-Welsh Dictionary (1770-1794). Mae'n un o'r lluos-eiriau newydd a fathwyd gan yr ieithydd hynod William Owen Pughe. Cyfranodd Pughe ei hun sawl erthygl i'r cylchgrawn newydd, gan arbrofi a'i orgraff arbrofol newydd; cwynai llawer o ddarllenwyr eu bod yn methu ei deall (ffurf "Puwaidd" yw Cynmraeg y teitl hefyd). Roedd y cyfranwyr eraill yn cynnwys Edward Charles.

Cyhoeddwyf yn Cylch-grawn Cynmraeg gan Morgan John Rhys yn Nhrefeca, Brycheiniog. Dan ddylanwad Iolo Morganwg, ei arwyddair oedd "Y Gwir yn Erbyn y Byd".

Amlygodd y cylchgrawn gydymdeimlad ag achos y Chwyldro Ffrengig a chyhoeddwyd erthyglau am gyflwr carchardai Prydain ac yn erbyn caethwasiaeth.

Bu hefyd erthyglau am Chwedl Madog ab Owain Gwynedd a'r llwyth Cymreig tybiedig o "Fadogwys" yng ngogledd America a thaith John Evans o'r Waunfawr i'w darganfod.

Cyfeiriadau golygu

  • Glenda Carr, William Owen Pughe (Caerdydd, 1983), tud. 29 et seq..
  • Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd).