Y Cylchoedd (gymnasteg)
Mae'r cylchoedd gymnasteg (defnyddir Rings yn Saesneg) yn gamp sy'n rhan o ddisgyblaeth dynion mewn gymnasteg artistig. Nid yw menywod yn cystadlu ar y cylchoedd. Mae'n galw ar i'r gymnastwr ymgymryd â sawl gwahanol her gan gadw ei gorff mor unionsyth a heb ddirgrynu ac mewn hunanddisgyblaeth â phosib.
Hanes
golyguFel sawl camp arall mewn gymnasteg gyfoes datblygwyd y Cylchoedd gan yr Almaenwr, Friedrich Ludwig Jahn [1] ar ddechrau'r 19g [2] Fe'u galwyd yn wreiddiol yn "Rings Rhufeinig" oherwydd eu gwreiddiau yn yr Eidal, sy'n dyddio'n ôl o bosibl dwy fil o flynyddoedd, ond ni wnaeth Jahn, eu cynnwys yn ei raglen i ddechrau.[3] Cyflwynodd Adolf Spieß yr hyn y cyfeiriodd ato fel Ringeschwebel ym 1842 (fe'u disgrifiodd felly yn ei Turnlehre, neu "wers gymnasteg"),[4] a gyflwynwyd yn wreiddiol fel cyfarpar siglo, a elwir y "modrwyau hedfan." Roedd y rhain ar siâp triongl. Yn ddiweddarach, disodlodd modrwyau crwn y fersiwn wreiddiol.
Offer
golyguBydd galw ar i'r gymnast berfformio rwtîn ar offer 5.75 metr o uchder, sy'n cynnwys dau gylch 18 cm o diamedr yn hongian 2.75m o'r ddaear a 50 cm ar wahân.
Gwneir y Cylchoedd o bren, sydd wedi eu cysylltu wrth ddarn o ledr sydd yn ei dro ynghlwm wrth geblau dur neu â rhaffau. Er mwyn atal y ceblau rhag cael eu troelli a chlymu yn ystod perfformiad neu wrth i'r gymnast ddatgysylltu a llamu oddi arnynt i orffen, mae bwylltidau ("swivels") datgysylltu, fel y'u gelwir, wedi'u gosod rhwng y cylchoedd a'r ceblau. Gellir defnyddio'r cylchoedd ar gyfer gwahanol fathau o symudiadau sylfaenol, megis chwifio’n dawel, chwifio â gwerthiannau, a baglu.
Y Gamp
golyguBydd y gamp yn cynnwys sawl rhan a elwir yn "elfennau". Mae eu enwau yn disgrifio y siâp sydd angen dal y corff gyda'r mwyaf posib o sefydlogrwydd. Er enghraifft, mae'r "Haearn" yn galw ar i'r corff fod yn hollol unionsyth yn gyfochrog i'r ddaear ac uwchben lefel y cylchoedd. Er mwyn derbyn sgôr, rhaid i'r elfen bod mewn lle am o leiaf dwy eiliad.
Bydd y rheithgor yn rhoi marc yn seiliedig ar reolaeth o'r elfen, ei her ac choreograffi. Po leiaf o ddirgrynu sydd yn y strwythur sy'n dal y cylchoedd gorau fydd sgôr y gymnast. Yn ychwanegol at hyn, cyfrifir y naid i orffen, ei sadrwydd wrth lasio wrth gyfrifo'r sgôr terfynol.
Ystumiau
golygu- Planc am yn ôl
- Planc am ymlaen
- Croes:
- Croes Haearn
- Croes Cyffredin
- Croes Olympaidd
- Croes Azaryan
- croes Gwrthdro
- Croes Malta
- Croes Victoriana
- Croes Pen
- Sedd L; Sedd V
- Haearn
Defnydd Corfforol
golyguMae'r cylchoedd yn gamp gymnasteg heriol iawn sy'n gwneud defnydd i'r abs, pecs, breichiau yn ogystal â rheolaeth corfforo-feddyliol a chytbwysedd.
Gweler hefyd
golyguDolenni
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ https://www.britannica.com/biography/Friedrich-Ludwig-Jahn#tab=active~checked%2Citems~checked&title=Friedrich%20Ludwig%20Jahn%20--%20Britannica%20Online%20Encyclopedia
- ↑ https://athletics.fandom.com/wiki/Gymnastics_rings
- ↑ http://www128.pair.com/r3d4k7/Climbing&Gymnastics2.0.html
- ↑ http://www.gymmedia.com/ghent2001/appa/rings/history_ri.htm