Tarian y Gweithiwr
(Ailgyfeiriad o Y Darian)
Papur newydd Cymraeg wythnosol oedd Tarian y Gweithiwr, a gyhoeddwyd o 1875 hyd 1934. Yn 1914 newidiwyd yr enw i Y Darian. Roedd yn bapur o safbwynt golygyddol Radicalaidd a amddiffynnai hawliau'r gweithwyr, yn enwedig yng nglofaoedd de Cymru. Ond roedd yn adnabyddus fel cyfrwng llenyddol ac addysgol hefyd, ac roedd y cyfranwyr yn yr 20g yn cynnwys John Morris-Jones a Saunders Lewis.
Enghraifft o'r canlynol | papur wythnosol |
---|---|
Golygydd | J. Tywi Jones |
Rhan o | Papurau Newydd Cymreig Ar-lein |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 15 Ionawr 1875 |
Olynwyd gan | Y Darian |
Lleoliad cyhoeddi | Aberdâr |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Cyhoeddwyd rhifyn gyntaf y papur yn Aberdâr yn 1875.