Y Datganiad Pragmatig (1713)

Gorchymyn a gyhoeddwyd gan Siarl VI, Ymerawdwr Glân Rhufeinig, ar 19 Ebrill 1713 oedd y Datganiad Pragmatig (Lladin: Sanctio Pragmatica, Almaeneg: Pragmatische Sanktion) i sicrhau hawl ei hetifedd fenywol i holl diriogaethau'r Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd, gan gynnwys Archddugiaeth Awstria, Teyrnas Hwngari, Teyrnas Croatia, Teyrnas Bohemia, Dugiaeth Milan, Teyrnas Napoli, Teyrnas Sardinia, a'r Iseldiroedd Awstriaidd.

Y Datganiad Pragmatig
Y Datganiad Pragmatig fel y'i gadarnhawyd gan Siarl VI ar gyfer Teyrnas Hwngari ar 19 Mehefin 1723.
Enghraifft o'r canlynolDatganiad pragmatig Edit this on Wikidata
Dyddiad1713 Edit this on Wikidata
AwdurSiarl VI Edit this on Wikidata

Priododd Siarl VI ag Elisabeth Christine, Tywysoges Brunswick-Wolfenbüttel, ym 1708, a bu farw eu hunig fab, Leopold, yn saith mis oed. Ymdrechodd Siarl felly i sicrhau olyniaeth ei ferch hynaf, Maria Theresa, yn seiliedig ar y Datganiad Pragmatig. Derbyniwyd y datganiad gan Awstria, Hwngari, a'r Iseldiroedd Awstriaidd ym 1720–23, ac hyd at ddiwedd ei oes y 1720au a'r 1730au gwnaeth Siarl ei orau yn ddiplomyddol i ddwyn perswâd ar draws Ewrop i dderbyn olyniaeth ei ferch.[1]

Bu farw Siarl ym 1740 a fe'i olynwyd gan Maria Theresa. Er gwaethaf y Datganiad Pragmatig, gwrthwynebwyd ei hawl i'r goron gan sawl ymhonnwr, a sbardunwyd Rhyfel Olyniaeth Awstria (1740–48).

Cyfeiriadau golygu