Datganiad pragmatig
Enw hanesyddol ar fath o ddatganiad cyfreithiol neu uchel ddeddf a gyhoeddwyd gan deyrnoedd Ewropeaidd yw datganiad pragmatig[1] a oedd yn ymwneud â materion gwladwriaethol o bwys, gan amlaf diwygiadau llywodraethol neu eglwysig, olyniaeth frenhinol, neu ffiniau a thiriogaeth.
Enghraifft o'r canlynol | gorchymyn |
---|---|
Math | constitution |
Gellir olrhain y cysyniad yn ôl i'r datganiad a gyhoeddwyd gan Iwstinian I yn Awst 554 i ad-drefnu tiriogaeth yr Ymerodraeth Fysantaidd yn yr Eidal wedi diwedd y rhyfel yn erbyn yr Ostrogothiaid. Yn nechrau'r 15g defnyddiwyd y term yn Nheyrnas Ffrainc i ddynodi rheolau'r cynghorau cyffredinol a dderbyniodd gydsyniad y brenin. Yr enwocaf o'r rhain oedd Datganiad Pragmatig Bourges, a gyhoeddwyd gan y Brenin Siarl VII ym 1438, i gyfyngu ar awdurdod y Pab dros yr Eglwys Gatholig yn Ffrainc. Yng nghanol y 15g hefyd ymddangosodd datganiad pragmatig a honnid iddi gael ei chyhoeddi gan Louis IX, brenin Ffrainc ym 1269 i ddiwygio'r glerigiaeth, ond ffug-ddogfen oedd honno.[2] Defnyddiwyd yr enw hefyd ar gyfer gorchmynion pwysig yn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig, er enghraifft y datganiad a gyhoeddwyd gan yr Ymerawdwr Siarl V ym 1549 i sefydlu'r Ddwy Dalaith ar Bymtheg.
Y gorchymyn enwocaf i ddwyn yr enw, mae'n debyg, oedd y Datganiad Pragmatig a gyhoeddwyd ym 1713 gan Siarl VI, Ymerawdwr Glân Rhufeinig, i sicrhau olyniaeth y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd i'w ferch, Maria Theresa, os nad byddai Siarl yn cael etifedd gwrywol. Fodd bynnag, ni dderbyniwyd y datganiad gan bawb a sbardunwyd Rhyfel Olyniaeth Awstria yn sgil marwolaeth Siarl VI ym 1740. Gorchymyn tebyg oedd Datganiad Pragmatig Fernando VII, brenin Sbaen ym 1830 a gadarnhaodd benderfyniad ei ragflaenydd, Siarl IV, i ddirymu'r gyfraith Salig ac felly cynnwys merched yn olyniaeth y goron Sbaenaidd. Gwrthwynebwyd y datganiad hwnnw gan y Carliaid, ac wedi marwolaeth Fernando VII ym 1833, ac esgyniad ei ferch Isabella II i'r orsedd, cychwynnodd Rhyfel Cyntaf y Carliaid.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Geiriadur yr Academi, "sanction: the Pragmatic Sanction".
- ↑ "Pragmatic Sanction" yn y New Catholic Encyclopedia. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 4 Hydref 2023.