Drama o waith y dramodydd Wil Sam Jones yw Y Dyn Swllt. Cafodd y ddrama ei haddasu i fod yn ddrama radio, drama lwyfan a drama i deledu ers ei hymddangosiad cyntaf yn y 1950au. Cafodd y ddrama radio ei chyhoeddi ym 1963 yn y gyfrol Pum Drama Fer gan Wasg y Glêr, a'i darlledu ar Radio'r BBC ym 1958.[1]

Y Dyn Swllt
Enghraifft o'r canlynoldrama radio, llwyfan a theledu
Dyddiad cynharaf1958
AwdurW.S. Jones
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1963 drama radio a 1995 drama lwyfan
Iaith wreiddiolCymraeg Edit this on Wikidata


Cafodd [ran] o'r ddrama lwyfan ei chynnwys yn y gyfrol Deg Drama Wil Sam ym 1995.

Disgrifiad

golygu

Cadw 'siop bob-peth' mae "Mr Crysmas Benjamin Huws VC" ac ar gychwyn y ddrama, mae'n brolio ei anturiaethau milwrol wrth griw o blant yn y siop. Crysmas a'i wraig Elin sy'n cadw'r siop, ac yn ystod y ddrama geilw nifer o gymeriadau gwahanol yno, i ymgomio â'r siopwr sy'n honni mai ef yw "y dyn busnas mwya llwyddiannus yn yr ardal yma". Ond buan iawn y sylweddolwn, fod bob un cwsmer unai mewn dyled i Crysmas, neu ei fod yntau mewn dyled iddynt hwy. Mr Pound, y Rheolwr Banc ydi'r cwmser olaf, sy'n datgelu fod Crysmas mewn dyled o £200 yn y banc, a bod yn rhaid iddo setlo'r mater ar fyrder.[2]

Cefndir

golygu

"Iaith" y ddrama, ydi allwedd llwyddiant Y Dyn Swllt yn ôl y llenor a'r arlunydd [a brawd y dramodydd] Elis Gwyn Jones, "...gellid dweud, nid yn unig fod y geiriau'n bwysig - ac y maent - ond eu bod yn amlach na pheidio yn rhoi bodolaeth hefyd i'r cymeriadau", awgryma.[2]

"Gellid dyfynnu'n ddiderfyn o'r [Y] Dyn Swllt i gyfleu cyfoeth a chadernid (a chywirdeb) y siarad. Meddai Crysmas Huws yn y llinell gyntaf un: 'Clap o fferis i'r cynta ddyfyd fy enw i'n llawn'. 'Clap o fferis' a glywsai'r awdur nes iddo fynd i'r Ysgol Sir a gorfod bodloni ar glywed y 'fferis' er mai o hen air Saesneg y tarddodd y gair, wedi mynd yn 'betha da'. Nid bod 'petha da' yn enghraifft ddrwg, ond mai perthyn i ryw ail ddosbarth y mae'r ymadrodd. Ond am y gair 'dyfyd', dyna a glywsai erioed ar lawr gwlad ac wrth gownter siop ac mewn sgwrs a phregeth hefyd."

Nid oes llawer o ddigwydd yn y ddrama, ond fel yr awgryma Elis Gwyn Jones, "...am y gwrthdaro rhyngddo ac amrywiaeth o gymeriadau y mae'r ddrama."[2]

Cymeriadau

golygu

[y ddrama radio ym 1958]

  • Crysmas Huws (y siopwr)
  • Morwyn
  • Harri Tŷ Top
  • Meri Wilias
  • Dic Prince
  • Jane Huws
  • Ned Llongwr
  • Elin Jôs
  • Meri Lisi
  • Robin Dafydd
  • John Huws
  • Mari Huws
  • Plant

[y ddrama lwyfan yn y gyfrol 1995]

  • Crysmas Huws (y siopwr)
  • Plant (4 neu 5)
  • Trafeiliwr
  • Robin Dafydd
  • Dic Prince
  • Elin Huws (gwraig y siopwr)
  • Cwsmer
  • Mr Pound (dyn y banc)

Cynyrchiadau nodedig

golygu

1950au

golygu

Darlledwyd y ddrama radio ym 1958.[2]

1960au

golygu

Llwyfannwyd y ddrama [lwyfan] yn Theatr Fach y Gegin, Cricieth ym 1965. Recordiwyd un perfformiad yn y Theatr a'i ddarlledu ar BBC Cymru ar yr 22 Medi 1965. Roedd y cast yn cynnwys : Charles Williams [fel Crysmas Huws], Kate Pierce Jones, Stewart Jones, Menai Owen, Guto Roberts, Rhiannon Price, a Wyn Thomas [Ned Llongwr a John Huws].[3]

"Arbrawf" oedd y cynhyrchiad yn ôl Emyr Humphreys, gan obeithio y byddai recordio drama gomedi o theatr fechan gymunedol, gydag actorion oedd yn gyfarwydd iddynt, yn apelio at y ddau neu dri fyddai'n segura o gwmpas y set deledu deuluol gartref.[4]

1970au

golygu

1980au

golygu

Addaswyd hi'n ddrama deledu ym 1989 ar gyfer S4C. Cyfarwyddwr Alun Ffred Jones.

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Jones, W.S (1963). Pum Drama Fer. Gwasg y Glêr.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 Jones, Wil Sam (1995). Deg Drama Wil Sam. Carreg Gwalch. ISBN 0-86381-353-4.
  3. Owen, Roger (2000). Llwyfannau Lleol : Theatr y Gegin. Gomer.
  4. "BBC Television". www.78rpm.co.uk. Cyrchwyd 2024-10-06.