Y Flaengroen Bendigaid

crair dadleuol blaengroen Iesu Grist

Mae'r Flaengroen Bendigaid yn un o nifer o greiriau a briodolir i fywyd daearol Iesu Grist gan rai enwadau Cristionogol; honnir ei fod yn gynnyrch enwaediad yr Iesu.[1]

Y Flaengroen Bendigaid
Enwaedu Crist,  Friedrich Herlin
Enghraifft o'r canlynolblaengroen, crair sy'n gysylltiedig â'r Iesu Edit this on Wikidata
Rhan oy baban Iesu Edit this on Wikidata
LleoliadConques, Vebret, Calcata, Antwerp, Rhufain Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ar wahanol adegau, mae nifer o eglwysi yn Ewrop wedi hawlio eu bod yn berchen ar flaengroen yr Iesu, weithiau ar yr un pryd. Mae amryw o bwerau gwyrthiol wedi cael eu priodoli iddo.

Cefndir golygu

Yn ôl y gyfraith Iddewig mae'n ofynnol i bob bachgen Iddewig gael ei enwaedu ar yr wythfed dydd wedi ei eni; gan hynny mae Gŵyl yr Enwaedu, yn cael ei ddathlu gan nifer o eglwysi ar 1 Ionawr, wyth niwrnod wedi'r Nadolig (Gŵyl y Geni). Mae Efengyl Luc (2:21) yn adrodd bod yr Iesu wedi ei enwaedu yn unol a'r drefn: Pan ddaeth yr amser i enwaedu arno ymhen wyth diwrnod, galwyd ef Iesu, yr enw a roddwyd iddo gan yr angel cyn i'w fam feichiogi arno.[2] 

Fel yr unig ddarn o gorff Crist i'w grybwyll yn y Beibl, fel darn o'r corff sanctaidd a adawyd ar y ddaear wedi ei atgyfodiad a'i esgyniad i'r Nef, byddai bod yn berchen ar yr wir flaengroen yn fraint aruthrol i gasglwyr creiriau.

Ymhonwyr am y wir grair golygu

Gwnaeth y Flaengroen Sanctaidd ei ymddangosiad cyntaf yn Ewrop yr Oesoedd Canol, tua 800 OC, pan y cyflwynwyd ef i'r Pab Leo III gan y Brenin Siarlymaen. Dywedodd Siarlymaen ei fod wedi ei dderbyn fel rhodd gan angel.

Wedi honiad Siarlymaen dechreuodd eglwysi ar hyd a lled Ewrop honni mai hwy oedd gwir berchenogion y flaengroen, gydag o leiaf un ar hugain o flaengrwyn go iawn yn cael eu heilun addoli ar yr un pryd. Gan fod gormodedd o flaengrwyn bendigaid, ymdrechodd eglwysi i gael eu blaengroen ei ddilysu gan arweinwyr yr Eglwys fel yr un gwreiddiol, a'r unig un!

Yn gynnar yn y 12g, methodd mynachod San Giovanni yn Laterano i berswadio'r Pab Innocentius III i reoli ar ddilysrwydd eu blaengroen hwy ond fe argyhoeddodd mynachod Charroux y Pab Clement VII (1523-1534) mai ganddyn nhw roedd y flaengroen dilys, gan nodi ei fod yn parhau i ollwng diferion o waed gwyrthiol o safle'r toriad.

Yn ystod ymosodiad Siarl V o'r Almaen ar Rufain ym 1527 cafodd y flaengroen a gyflwynwyd gan Siarlymaen ei ddwyn gan filwr Almaenig, cafodd ei gadw yn nhref Calcata, yr Eidal lle ail-ddarganfuwyd y crair ymhen 30 mlynedd a daeth Calcata yn lle pwysig i bererinion wedi hynny hyd 1983 pan gafodd y crair ei ddwyn.[3]

Modrwy Sadwrn golygu

 
Sadwrn yn cael ei amgylchu gan flaengroen Crist?

Ceisiodd rhai diwinyddion canoloesol dorri'r ddadl am y gwir flaengroen gan honni ei fod yn amlwg bod pob un yn ffug, o reidrwydd, gan fyddai pob darn o gorff Crist wedi esgyn i'r nefoedd gydag ef. Cynigiodd diwinydd o'r 17g, Leo Allatius, brawf o hynny yn ei draethawd De Praeputio Domini Nostri Jesu Christi Diatriba gan amwgrymu fod y Flaengroen Bendigaid i'w weld yn eglur yn y nefoedd fel y modrwy o amgylch y blaned Sadwrn[4]

Diwedd y ddadl golygu

Ym 1900 penderfynodd Yr Eglwys Gatholig bod dadlau am ran mor bersonol o gorff Crist yn ei ddwyn i anfri, gan ddatgan bod pob un oedd yn ymgiprys drosti yn fasweddol a bod sôn neu ysgrifennu am y flaengroen yn drosedd y gellir ei chosbi drwy ysgymuno.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 The Holy Foreskin
  2. Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)
  3. Leonard B. Glick, Marked in Your Flesh: Circumcision From Ancient Judea to Modern America, OUP, 2005, tud. 96
  4. "Are the Rings of Saturn Jesus' Foreskin?". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-21. Cyrchwyd 2016-07-13.