Y Gân Olaf (Gerallt Lloyd Owen)

Cyfrol gan Gerallt Lloyd Owen yw Y Gân Olaf a gyhoeddwyd yn 2015 gan Gyhoeddiadau Barddas. Man cyhoeddi: Aberystwyth, Cymru.[1]

Y Gân Olaf
AwdurGerallt Lloyd Owen
CyhoeddwrCyhoeddiadau Barddas
GwladCymru
IaithCymraeg
ArgaeleddAr gael
ISBN9781906396817
GenreBarddoniaeth

Cyfrol o gerddi'r diweddar Gerallt Lloyd Owen (1944-2014), sy'n pontio'r 23 o flynyddoedd ers cyhoeddi'r gyfrol Cilmeri a Cherddi Eraill, gyda'r cerddi mwyaf diweddar wedi'u llunio ychydig fisoedd cyn ei farwolaeth.


Cerddi golygu

Mae'r gyfrol yn cynnwys nifer o farwnadau neu gerddi coffa:

Ceir hefyd cerddi dychanol megis Llan-faes, sy'n beirniadu'r penderfyniad i ganiatáu safle trin carthffosiaeth yn y pentref.

Mae nifer o'r cerddi'n myfyrio ar dreigl amser ac ar barhad:

Blagur

Mae'r henddail marw ynddynt yn deilio'n

ymgnawdoliad drwyddynt;

erioed pob dechrau ydynt

eleni pob geni gynt.[2]

Yn ogystal â'r cerddi, sy'n dwyn teitlau, mae'r gyfrol wedi ei britho â chwpledi a llinellau epigramatig:

Awr beryg' yw tri'r bore[2]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. [1]; Gwefan Gwales; Cyngor Llyfrau Cymru; adalwyd 1 Awst 2017
  2. 2.0 2.1 Owen, Gerallt Lloyd (2015). Y gân olaf. Bala. ISBN 978-1-906396-81-7. OCLC 920668803.