Y Gymdeithas Ymryddhau

Cymdeithas a sefydlwyd gan Edward Miall, gweinidog gyda'r Annibynwyr yn Lloegr, gyda'r bwriad o dorri'r cysylltiadau rhwng y wladwriaeth a'r eglwys oedd Y Gymdeithas Ymryddhau (Saesneg: The Liberation Society; enw gwreiddiol: Anti-State-Church Society; enw llawn: The Society for the Liberation of Religion from State Patronage and Control).

Y Gymdeithas Ymryddhau
Enghraifft o'r canlynolsefydliad Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Denodd y mudiad newydd lawer o gefnogaeth gan Gymry Ymneilltuol amlwg, fel William Williams (Caledfryn), Samuel Roberts ('S.R.') a James Rhys Jones ('Kilsby Jones'). Cafodd yr achos lawer o gyhoeddusrwydd yn y cylchgronau Cymraeg fel Seren Gomer a'r Diwygiwr. Daeth y mudiad yn fwyfwy wleidyddol ei ysbryd, yn arbennig ar ôl newid yr enw i'r Liberation Society yn 1853. O 1862 ymlaen canolbwyntiodd y gymdeithas ar Gymru. Cefnogodd Henry Richard ('Yr Apostol Heddwch'), a oedd yn aelod o bwyllgor gwaith y gymdeithas ers rhai blynyddoedd, fel ymgeisydd am sedd seneddol Ceredigion yn 1865. Methiant fu, hynny ond daeth llwyddiant yn 1868 pan gafodd ei ethol fel yr aelod seneddol dros Ferthyr Tudful.

Parhaodd y gymdeithas, ond ar raddfa lai o lawer, ar ôl i'w nôd gael ei gyflawni gyda Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru yn 1920. Daeth i ben yn 1971.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Ieuan Gwynedd Jones, Explorations and Explanations (1981)