Kilsby Jones

gweinidog

Roedd James Rhys (Kilsby) Jones (4 Chwefror, 181310 Ebrill, 1889) yn weinidog gyda'r Annibynwyr, yn ddarlithydd cyhoeddus ac yn llenor Cymreig.[1]

Kilsby Jones
Ganwyd4 Chwefror 1813 Edit this on Wikidata
Llanymddyfri Edit this on Wikidata
Bu farw4 Chwefror 1889 Edit this on Wikidata
Llanwrtyd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, llenor Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ganwyd Kilsby ym Mhen-lan ger Llanymddyfri yn blentyn i'r Rhys Jones, amaethwr a ordeiniwyd yn weinidog Capel Ffaldybrenin tua 1818 ac Elisabeth ei wraig. James Jones oedd enw bedydd Kilsby ond er mwyn ei wahaniaethu rhag James Jones arall ym mro Ffaldybrenin daeth yn James Rhys Jones wedi ordeinio ei dad. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Neuaddlwyd,[2] Caerfyrddin, Coleg yn Blackburn a'r Coleg Presbyteraidd yng Nghaerfyrddin lle fu o 1835 i 1838.[3]

Bu Kilsby yn cadw ysgol ddyddiol yn Ffaldybrenin am flwyddyn (1833-1834).[4] Wedi darfod yn y coleg yng Nghaerfyrddin cafodd wahoddiad i fod yn weinidog ar brawf yn Llanllieni [5] oddi yno aeth i Gapel yr Annibynwyr Saesneg yn Kilsby,[6] pentref yn Swydd Northampton ychydig i'r dde o dref Rugby. Cafodd ei ordeinio yno ym 1840, ac o hynny ymlaen roedd yn cael ei adnabod fel Kilsby Jones. Bu'n weinidog yn Kilsby am ddeng mlynedd cyn symud i weinidogaethu ym Mirmingham am flwyddyn ac yna symud i Bolton lle fu'n weinidog rhwng 1851 a 1855.

Ym 1855 prynodd fferm Gellifelen ger Llanwrtyd gan adeiladu tŷ yno o'r enw Glenview. Bu'n weinidog ar achos Saesneg Rhaeadr Gwy rhwng 1857 a 1860. Symudodd i gapel Tonbridge, Llundain lle fu rhwng 1861 i 1868, cyn dychwelyd i Glenview. Wedi dychwelyd bu'n gyfrifol am adeiladu achos Saesneg yr Annibynnwr, Capel Christ Church, Llandrindod gan wasanaethu fel un o'i weinidog rhwng 1868 a 1889, er na fu yn gwneud llawer o waith bugeiliol ffurfiol gyda'r achos.

Gwleidyddiaeth

golygu

Fel nifer fawr o weinidogion anghydffurfiol ei ddydd roedd Kilsby yn Rhyddfrydwr tanbaid ac yn wrthwynebydd i'r Eglwys Wladol. Bu'n ysgrifennu erthyglau ac yn areithio'n danllyd o blaid yr achos Rhyddfrydol ac yn erbyn Torïaeth a breintiau Eglwys Loegr. Roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn addysg. Roedd, yn groes i farn gyffredin ei ddydd, yn gefnogol i addysg trwy gyfrwng y Gymraeg gan ddadlau bod dwyieithrwydd yn llawer gwell i blant Cymru na cheisio eu troi yn uniaith Saesneg. Wedi cyhoeddi Brad y Llyfrau Gleision ym 1847 cyfieithodd y rhannau mwyaf dadleuol i'r Gymraeg. Bu hyn yn sicrhau lledaenu'r cynnwys yn eang ymysg y Cymry Cymraeg a bwydo'r gwrthwynebiad yn erbyn yr adroddiad. Roedd hefyd yn eiriolwr cynnar dros addysg brifysgol yng Nghymru. Er enghraifft, ym mis Rhagfyr 1870 ymunodd â Thomas Price, John Griffiths (Gohebydd) ac eraill i annerch cyfarfod cyhoeddus ar y pwnc yn Aberdâr.

Llenor a darlithydd

golygu

Yn ogystal â bod yn bregethwr poblogaidd, bu Kilsby hefyd yn ddarlithydd ffraeth. Roedd yn darlithio yn bennaf am hanes yr eglwys megis "Hanes y Ficer Prichard" a "John Penry'r Merthyr". Ei daliadau am ei ddarlithoedd bu'n bennaf gyfrifol am dalu'r £1,400 costiodd i adeiladu ei dy yn Llanwrtyd.[7]. Bu hefyd yn defnyddio arian a chafodd am ddarlithio i godi arian tuag at godi capeli newydd. Er enghraifft bu Kilsby yn rhoi darlith am Daniel Rowland yng Nghwmafan ym mis Rhagfyr 1869, gyda'r elw yn mynd at adeiladu capel newydd Y Graig yn y pentref.[8]

Cyfrannodd nifer o erthyglau a thraethodau i gylchgronau a phapurau Cymru ar bynciau addysg, cymdeithas a gwleidyddiaeth, yn arbennig i'r Traethodydd a'r Byd Cymreig. Cyfieithodd Cofiant William Williams o'r Wern gan Gwilym Hiraethog i'r Saesneg a chyfieithodd Geiriadur Beiblaidd John Brown o'r Saesneg i'r Gymraeg. Ysgrifennodd llyfr ar weithiau Pantycelyn ac addasiad Cymraeg o Daith y Pererin, John Bunyan. Bu am lawer o flynyddoedd yn olygydd Cymraeg i gwmni cyhoeddi William Mackenzie, Glasgow.

Priododd Ann Southwall Chilcott o Lanllieni ym 1842 cawsant un mab.

Marwolaeth

golygu

Bu farw yn ei gartref, Glenview, Llanwrtyd o lid yr ysgyfaint yn 76 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys y plwyf.[9] Codwyd carreg coffa ar ei fedd trwy danysgrifiad cyhoeddus a chodwyd pulpud coffa iddo yng Nghapel Christ Church Llandrindod.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "JONES, JAMES RHYS ('Kilsby'; 1813 - 1889), gweinidog Annibynnol | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-10-25.
  2. "NEUADDLWYD - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1906-04-28. Cyrchwyd 2019-10-25.
  3. "Jones, James Rhys Kilsby (1813–1889), Congregational minister and writer | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-15019. Cyrchwyd 2019-10-25.
  4. "THE LATE REV KILSBY JONES - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1889-04-12. Cyrchwyd 2019-10-25.
  5. "MARWOLAETH Y PARCH KILSBY JONES - Tarian Y Gweithiwr". Mills, Lynch, & Davies. 1889-04-18. Cyrchwyd 2019-10-25.
  6. "Y PARCH J R KILSBY JONES YN EI FEDD - Y Drych". Mather Jones. 1889-04-25. Cyrchwyd 2019-10-25.
  7. "LIFE AND SAYINGS OF THE REV KILSBY JONES - Herald of Wales and Monmouthshire Recorder". [s.n.] 1897-10-16. Cyrchwyd 2019-10-25.
  8. "CWMAVON - The Western Mail". Abel Nadin. 1869-12-08. Cyrchwyd 2019-10-25.
  9. "BIOGRAPHICAL SKETCH - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1889-04-11. Cyrchwyd 2019-10-25.