Y Punch Cymraeg
Cylchgrawn dychanol Cymraeg o'r 19g oedd Y Punch Cymraeg. Fe'i bwriedid fel math o fersiwn Cymreig o'r cylchgrawn Seisnig enwog Punch. Fe'i cyhoeddid yng Nghaergybi.
Enghraifft o'r canlynol | cylchgrawn, cylchgrawn |
---|---|
Rhan o | Cylchgronau Cymru Ar-lein |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1858 |
Lleoliad cyhoeddi | Caergybi |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Hanes
golyguLawnsiwyd Y Punch Cymraeg ar Ionawr 1af, 1858. Y sylfaenwr a golygydd cyntaf oedd Lewis Jones, o Gaernarfon yn wreiddiol ond yn byw yng Nghaergybi, a ymfudodd yn nes ymlaen i Batagonia lle bu ganddo ran bwysig yn hanes sefydlu'r Wladfa. Ymunodd y Parch. Evan Jones, Caernarfon, yn fuan ar ôl sefydlu'r cylchgrawn. Roedd y ddau ŵr hyn yn gyd-olygyddion yn y swyddfa yng Nghaergybi ac yn ysgrifennu cyfran sylweddol o'r erthyglau.
Cyhoeddiad pythefnosol o 32 tudalen oedd Y Punch Cymraeg, a'i bris oedd ceiniog. Cafodd dderbyniad da a chyrhaeddodd uchafbwynt cylchrediad o dros 8,000 o gopïau.
Ond wynebodd y cylchgrawn broblemau ariannol, er hynny. Ymadawodd Evan Jones yn haf 1859 ac er iddo barhau am gyfnod daeth y cylchgrawn i ben yn weddol fuan ar ôl hynny. Er mai byr oedd ei barhad, roedd yn fenter arloesol a greodd gryn dipyn o gynnwrf yng Nghymru oherwydd miniogrwydd yr erthyglau am rai o enwogion y dydd a ymylai ar fod yn enllibus weithiau.
Ffynhonnell
golygu- T. M. Jones (Gwenallt), Llenyddiaeth fy Ngwlad, sef hanes y newyddiadur a'r cylchgrawn Cymreig... (Treffynnon, 1893)