Y Tŷ Gwyn, Abermaw

adeilad yn Abermaw, Gwynedd

Tŷ canoloesol yn Abermaw, Gwynedd yw'r Tŷ Gwyn. Cafodd ei godi tua'r flwyddyn 1445 ac mae'n adnabyddus yn bennaf oherwydd ei gysylltiad â Siasbar Tudur, ewythr Harri Tudur, a'i ymgyrchoedd yng Nghymru yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau. Erbyn 1565 dim ond pedwar tŷ oedd yn Abermaw a'r Tŷ Gwyn oedd un ohonynt. Saif yn ymyl yr harbwr ger y traeth ar lan Bae Ceredigion. Erbyn heddiw dyma'r adeilad hynaf yn y dref sydd wedi goroesi.[1]

Y Tŷ Gwyn, Abermaw
Enghraifft o'r canlynoladeilad Edit this on Wikidata
LleoliadAbermaw Edit this on Wikidata
Map
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthAbermaw Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gweler hefyd Tŷ Gwyn (gwahaniaethu).

Hanes golygu

Codwyd y Tŷ Gwyn tua 1445 neu'n fuan wedyn gan yr uchelwr lleol Gruffudd Fychan o blas Corsygedol yn Ardudwy. Roedd hynny yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau ac adeiladwyd y tŷ er mwyn hwyluso'r ffordd i Siasbar Tudur fynd a dod i'r rhan honno o Gymru (yr oedd mam Gruffudd yn nith i Owain Glyn Dŵr ac yn gyfyrdyres i Siasbar Tudur). Pan gafodd ei godi, roedd y tŷ yn sefyll ar ymyl y traeth (mae ffordd rhyngddo a'r traeth erbyn heddiw) gyda'r rhan isaf, sy'n cynnwys tŷ cychod, ar y traeth ei hun gan alluogi rhywun i lanio neu ymadael ohono heb dynnu sylw.[2]

Tŷ carreg ydyw, a'r cerrig o liw glas, gyda seler a thri llawr iddo. Roedd yn wyngalchog yn yr Oesoedd Canol. Roedd ei ffenestri gwydr yn destun rhyfeddod am fod gwydr mor ddrud yn y cyfnod hwnnw ac felly'n anghyffredin.[2]

Roedd y Tŷ Gwyn yn un o gyrchfannau Beirdd yr Uchelwyr yn ail hanner y 15g. Cedwir ar glawr cywydd iddo gan y bardd Tudur Penllyn.[2]

Llyfryddiaeth golygu

  • Tudur Penllyn, 'I'r Tŷ Gwyn yn Abermo'. Thomas Roberts (gol.), Gwaith Tudur Penllyn ac Ieaun ap Tudur Penllyn (Gwasg Prifysgol Cymru, 1958). Cerdd 16.

Cyfeiriadau golygu

  1. "BarmouthBreaks.co.uk". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-04-18. Cyrchwyd 2015-01-27.
  2. 2.0 2.1 2.2 Enid Roberts, Tai Uchelwyr y Beirdd 1350-1650 (Cyhoeddiadau Barddas, 1986).