Vanessa atalanta
O'r top
O'r ochor
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Nymphalidae
Genws: Vanessa
Rhywogaeth: V. atalanta
Enw deuenwol
Vanessa atalanta
(Linnaeus, 10fed rhifyn o: Systema Naturae, 1758)
Isrywogaethau
  • V. a. atalanta
  • V. a. rubria (Fruhstorfer, 1909)[1]
Cyfystyron
  • Papilio atalanta Linnaeus, 1758
  • Pyrameis ammiralis Godart, 1821
  • Pyrameis atalanta Godman & Salvin, [1882]
  • Vanessa atalanta Dyar, 1903[1]

Mae'r Fantell goch (lluosog: mentyll cochion) yn löyn byw cymharol fawr sy'n perthyn i deulu'r Nymphalidae. Yr enw Saesneg arno yw Red Admiral, a'i enw gwyddonol yw Vanessa atalanta. Mae i'w weld yn Ewrop, Asia a Gogledd America. Daw i Gymru yn ystod yr haf o Fôr y Canoldir, fel arfer tua dechrau Gorffennaf.[2]

Lled yr adenydd ar eu heithaf ydy rhwng 45 – 50 mm (dwy fodfedd).[3] Yn ne Ewrop, mae hefyd i'w weld yn hedfan yn ystod y gaeaf. Fe'i disgrifwyd am y tro cyntaf gan y naturiaethwr Carl Linnaeus yn 1758, yn ei 10fed cyfrol o Systema Naturae.[4]

Gwelir yr oedolyn yn aml yn bwydo ar ddail yr eiddew (neu iorwg) neu'n yfed o flodau'r Buddleia, neu ffrwyth goraeddfed, a hynny fel arfer mewn coedwigoedd llaith. Caiff yr wyau gwyrdd eu dodwy ar ddail y danadl poethion (Urtica dioica), un ddeilen i bob ŵy. Bydd y lindys yn deor a bydd yn creu amddiffynfa iddo ei hunan drwy dynnu ymylon y ddeilen at ei gilydd.

Mae'r oedolion yn gallu gaeafgysgu.

Cylchred bywyd golygu

Tarddiad yr enw golygu

Ystyr 'mantell' ydy 'hugan' neu 'glogyn'. Daw'r enw Lladin Vanessa atalanta o'r Iaith Roeg; roedd Atlanta yn gymeriad mytholegol. Crëwyd y gair Vanessa gan yr awdur Eingl-Wyddelig Jonathan Swift yn 1708.

Cyffredinol golygu

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd. Wedi deor o'i ŵy mae'r mantell goch yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Vanessa, funet.fi
  2. Opler, Paul A.; Krizek, George O. (1984). Butterflies East of the Great Plains: An Illustrated Natural History. Baltimore: Johns Hopkins University Press. ISBN 0801829380. OCLC 9412517.
  3. Shalaway, Scott. Butterflies in the Backyard. ISBN 0-8117-2695-9 2004, Stackpole Books, Mechanicsburg, Pennsylvania. p.38
  4. Shalaway, Scott (2004). Butterflies in the Backyard. Mechanicsburg, Pennsylvania: Stackpole Books. t. 38. ISBN 0-8117-2695-9.