Mae Yetholm Loch yn llyn ger Kelso yng Ngororau’r Alban ar gyrion y Bryniau Cheviot. Roedd Gwarchodfa Natur Ymddiriedolaeth Natur yr Alban yno[1] ac mae cuddfan ar lan y llyn. Mae cors helyg ar ben deheuol y llyn. Gwelir Bras y Cyrs, Gïach cyffredin a Gylfinir yno, yn ogystal ag Alarch dof, Crëyr, Llydanbig, Hwyaden wyllt, Hwyaden lwyd, Hwyaden gopog a Dwrgi ar y llyn.[2]

Yetholm Loch
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGororau'r Alban Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Cyfesurynnau55.545047°N 2.314481°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Ar un adeg, roedd tŵr ar ynys ynghanol y llun, a sarn ati hi. Dinistrwyd y tŵr gan Iarll Surrey ar 15 Mai 1523.

Golygfa dros y llyn
Elyrch dof ar y llyn

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Gwefan Ymddiriedolaeth Natur yr Alban". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-10-01. Cyrchwyd 2020-08-07.
  2. Gwefan Berwickshire News